- defnyddio athrawon cyflenwi o ganlyniad i salwch athrawon a materion cysylltiedig o ran rheoli absenoldeb athrawon parhaol;
- cymorth i Athrawon Newydd Gymhwyso sy'n gweithio fel staff cyflenwi;
- yr effaith bosibl ar ddeilliannau disgyblion o ganlyniad i ddefnyddio athrawon cyflenwi;
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a rheoli perfformiad;
- rôl awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o ran goruchwylio athrawon cyflenwi;
- asiantaethau cyflenwi a sicrhau ansawdd;
- prinder athrawon cyflenwi cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael hyfforddiant digonol.
Gwaith athrawon cyflenwi yng Nghymru: Dadl y Cyfarfod Llawn
Cyhoeddwyd 05/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
5 Chwefror 2016
Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Wythnos nesaf (dydd Mercher 10 Chwefror 2016), bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar waith athrawon cyflenwi (pdf 1.34MB). Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad i waith athrawon cyflenwi yng Nghymru, gan ddechrau ym mis Mawrth a chyhoeddi ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2015. Roedd hyn yn adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru (pdf 814KB) ac Estyn (pdf 695KB) ynglŷn ag absenoldeb athrawon, oedd yn amcangyfrif bod ychydig yn llai na 10 y cant o bob gwers yn cael eu cyflwyno gan staff heblaw athro arfer y dosbarth.
Caiff adroddiad y Pwyllgor ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Chwefror 2016. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb (pdf 399KB) ar 3 Chwefror 2016.
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan randdeiliaid amrywiol. Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor arolwg gyda phlant, pobl ifanc a rhieni (pdf 1.02MB).
Roedd y prif faterion a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cynnwys: