Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Safbwyntiau Cymru a San Steffan

Cyhoeddwyd 28/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

28 Chwefror 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar 6 a 13 Chwefror 2017, rhoddodd Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru a'r Gwir Anrhydeddus David Jones AS, y Gweinidog Gwladol dros Adael yr UE dystiolaeth i Bwyllgor Materion Allanol y Cynulliad (@SeneddMADY) ar bapurau gwyn priodol eu llywodraethau a'u blaenoriaethau ar gyfer y trafodaethau ar y DU yn gadael yr UE. Beth oedd safbwynt Cymru? Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y Pwyllgor mai ei flaenoriaeth ar gyferDyma lun o ystafell pwyllgor. y trafodaethau oedd sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu allforio i'r farchnad Ewropeaidd yn yr un modd ag y maent yn ei wneud nawr. Amlinellodd y Prif Weinidog ei farn y dylai'r nod hwn gael ei ddilyn, hyd yn oed os yw'n golygu cyfaddawdu ar fewnfudo, ond roedd hefyd yn tynnu sylw at gynnig Llywodraeth Cymru i gysylltu'r rhyddid i symud pobl â chyflogaeth. O ran y ffin rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon, dywedodd y Prif Weinidog na fyddai'n dymuno gweld bargen ar y mater a fyddai'n ei gwneud yn haws i gwmnïau symud nwyddau drwy Ogledd Iwerddon na thrwy borthladdoedd Cymru. Mewn perthynas â chyllid yn y dyfodol, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn disgwyl i Gymru gael iawndal am golli cyllid Ewropeaidd. Amlinellodd ei farn y dylai hyn fod ar ffurf cynnydd yn y grant bloc ac na ddylai'r cyllid hwn fod yn amodol ar fformiwla Barnett. Dywedodd y Prif Weinidog fod ymgysylltiad Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru wedi bod yn dda ac roedd yn croesawu cyfarfodydd chwarterol Cydbwyllgor y Gweinidogion. Fodd bynnag, pwysleisiodd y Prif Weinidog ei fod yn disgwyl nid yn unig i lais Llywodraeth Cymru gael ei glywed, ond hefyd i chwarae rôl weithredol yn y trafodaethau gyda'r UE. Mynegodd y Prif Weinidog ei farn nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael barn gydlynol gan Weinidogion y DU ar sefyllfa negodi Llywodraeth y DU hyd yma. Dadleuodd y Prif Weinidog nad yw'r strwythurau presennol ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU yn addas i'r diben. Galwodd am strwythurau newydd ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi a datrys anghydfodau rhwng pedair llywodraeth y DU. Roedd yn glir yn ei farn mai'r sefyllfa ddiofyn o ran pwerau ar ôl i'r DU adael yr UE fyddai i'r holl bwerau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd gan yr UE mewn meysydd polisi datganoledig megis amaethyddiaeth ddod yn ôl i Gymru. Dywedodd nad dyma'r farn gyfredol yn Whitehall lle dywedodd fod cred y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu lle y bydd y pwerau sydd gan yr UE ar hyn o bryd yn mynd yn y DU. Beth oedd safbwynt San Steffan? Dywedodd y Gwir Anrhydeddus David Jones AS, Gweinidog Gwladol dros Adael yr UE wrth y Pwyllgor Materion Allanol nad yw Llywodraeth y DU wedi penderfynu eto pryd y byddai'n sbarduno Erthygl 50. Dywedodd nad oedd Llywodraeth y DU wedi penderfynu eto a fyddai'n anfon llythyr syml yn hysbysu neu a fyddai'n anfon llythyr mwy manwl yn amlinellu rhai o'i hamcanion negodi. Cynigiodd y Gweinidog ei sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai sefyllfa negodi Llywodraeth y DU yn adlewyrchu barn y deddfwrfeydd a'r llywodraethau datganoledig yn llawn. Dywedodd y byddai angen i Lywodraeth y DU bwyso a mesur blaenoriaethau a phryderon sy'n gwrthdaro o fewn y DU i ddod o hyd i ateb sydd o'r budd gorau i'r DU gyfan. Dywedodd y Gweinidog ei fod 'am fod yn gwbl glir y byddwn ni (yn y DU) yn gadael y farchnad sengl', ond ei fod yn credu y byddai pob cymhelliad i'r UE gytuno ar gytundeb masnach rydd gynhwysfawr gyda'r DU. Amlinellodd fod Llywodraeth y DU yn cynnal dadansoddiad o dros 50 o sectorau yn economi y DU i ystyried y goblygiadau a'r cyfleoedd iddynt ar ôl i'r DU adael yr UE. Dywedodd y Gweinidog fod y Swyddfa Gartref wrthi'n gweithio ar bolisi mewn perthynas â symud yn rhydd rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ar ôl i'r DU adael yr UE. O ran cysylltiadau rhynglywodraethol, dywedodd y Gweinidog nad oedd Llywodraeth y DU wrthi'n edrych ar ddatblygu strwythurau cyfansoddiadol newydd i ddisodli Cydbwyllgor y Gweinidogion er y gall ystyried hyn 'yng nghyflawnder amser'. Mewn perthynas â dychwelyd pwerau ar ôl i'r DU adael yr UE, dywedodd y Gweinidog fel a ganlyn: (PDF 432KB):
It will be necessary for the United Kingdom to make a decision as to where various competences lie. We have been absolutely clear in indicating that any devolved competences that are currently exercised at devolved level will not be, so to speak, clawed back. It will be necessary to decide where powers best lie. It may be that there will be scope for further devolution, but, it may well be there will be an advantage, and in fact an imperative to look at UK-wide structures to replace the competences that previously resided at Brussels level.
Roedd y ddwy sesiwn dystiolaeth yn rhan o waith y Pwyllgor Materion Allanol ar y goblygiadau i Gymru o ran y DU yn gadael yr UE. Darllenwch fwy am waith y Pwyllgor ar ei dudalen gwe neu ar Twitter @SeneddMADY. Gallwch wylio'r sesiynau tystiolaeth yn llawn ar Senedd.tv
Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru