Beth allai Bil y Diddymu Mawr ei olygu i Gymru? Mae Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad wedi rhoi ei farn ar y Papur Gwyn ‘Legislating for Brexit’.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 30 Mawrth 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar y pryd ei Phapur Gwyn, Legislating for the United Kingdom’s Withdrawal from the European Union. Yn ei hanfod, roedd y Papur Gwyn yn amlinellu’r newidiadau yr oedd Llywodraeth y DU yn credu y byddai angen eu gwneud i’r gyfraith a’r fframweithiau cyfreithiol yn y DU wrth baratoi i’r DU adael yr UE.

Rhan o’r newidiadau arfaethedig hyn oedd pasio Bil y Diddymu Mawr i droi cyfraith bresennol yr UE sy’n berthnasol yn y DU yn gyfraith y DU ar y diwrnod y bydd y DU yn gadael, a hynny er mwyn cynnig sicrwydd ac atal unrhyw anghysondebau cyfreithiol rhag ymddangos dros nos.

Er yr ymddengys ar yr wyneb ei bod yn hawdd trosi’r corff presennol o gyfraith yr UE, mae’n debygol o fod yn broses dechnegol anodd gyda goblygiadau i’r llywodraethau a’r deddfwrfeydd datganoledig, gan gynnwys y Cynulliad, yn ogystal ag i Lywodraeth a Senedd y DU.

Mae hyn oherwydd y bydd angen gwneud nifer o newidiadau technegol i’r corff o gyfraith i’w drosglwyddo er mwyn iddo fod yn ymarferol wedi i’r DU adael. Er enghraifft, mae cyfraith bresennol yr UE ar ansawdd dyfroedd ymdrochi yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU i anfon adroddiad ar ansawdd ei dyfroedd i’r Comisiwn Ewropeaidd. Gan na fydd y DU bellach yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ni fyddai’r gofyniad hwn yn gwneud synnwyr pe bai’n cael ei drosglwyddo i gyfraith y DU. Felly bydd angen newid y gyfraith fel bod yn rhaid anfon yr adroddiad at gorff arall yn y DU neu gorff datganoledig arall, neu nad oes rhaid ei anfon o gwbl.

Cynigiodd y Papur Gwyn mai Gweinidogion Llywodraeth y DU, a Gweinidogion datganoledig lle bod hynny’n briodol, a fyddai’n gwneud y rhan fwyaf o’r newidiadau technegol hyn i sicrhau bod modd gweithredu’r gyfraith sy’n cael ei throsi. Byddai hyn yn digwydd drwy roi pŵer iddynt wneud y newidiadau hyn drwy’r hyn a elwir yn is-ddeddfwriaeth. Mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn dangos, ar lefel y DU yn unig, y bydd angen iddi basio tua 1,000 o ddarnau o is-ddeddfwriaeth i wneud y newidiadau angenrheidiol. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi datgan eto faint y mae’n meddwl y gallai fod eu hangen yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt, ond bydd hyn yn gannoedd o leiaf. Mae’r swm hwn o ddeddfwriaeth mewn cyfnod byr o amser, yn ogystal â bod yn her i lywodraethau’r DU, yn debygol o fod yn her hefyd i’r seneddau a’r cynulliadau sy’n gyfrifol am graffu ar y ddeddfwriaeth hon.

Rydym wedi amlinellu rhagor o wybodaeth am y Papur Gwyn a chynigion y Bil yn ein cofnod blog adeg ei gyhoeddi.

Lansiodd Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad, sy’n gyfrifol am ystyried goblygiadau Brexit i Gymru, ymchwiliad i’r Papur Gwyn ar 11 Ebrill 2017. Cynhaliodd ymgynghoriad ysgrifenedig a sesiynau tystiolaeth lafar, ac mae bellach wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau ar ffurf adroddiad (PDF, 1MB). 

Y prif negeseuon

Nododd y Pwyllgor gyfres o negeseuon allweddol a chasgliadau o dan bedwar prif bennawd:

  • Ymgynghoriad: Mae’r Pwyllgor yn nodi bod y dystiolaeth a gafodd yn awgrymu na fu unrhyw ymgynghori ystyrlon rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghylch y Papur Gwyn ac na wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori o gwbl gyda’r Cynulliad fel deddfwrfa ynghylch y cynigion. Mae’n datgan bod hyn yn annerbyniol a’i fod yn disgwyl i Lywodraeth y DU fod yn fwy adeiladol yn y dyfodol.
  • Dirprwyo pwerau a’u rheoli a Gweithdrefn y Cynulliad: Mae’r Papur Gwyn yn nodi y bydd pwerau’n cael eu rhoi i’r gweinidogion datganoledig yn unol â’r rheini a roddir i Weinidogion y DU. Mae’r Pwyllgor yn nodi ei farn mai mater i’r Cynulliad yn unig yw rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig ac mai mater i’r Cynulliad yn unig ddylai fod penderfynu pa brosesau y mae’n eu gosod i graffu ar y pwerau hyn. Mae’n nodi na ddylai Llywodraeth na Senedd y DU geisio dirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru na chyfyngu ar y prosesau y gall y Cynulliad eu defnyddio i graffu ar y pwerau hyn ym Mil y Diddymu Mawr heb ofyn am ganiatâd y Cynulliad ymlaen llaw ac ymgynghori’n llawn ag ef.
  • Fframweithiau polisi y DU gyfan: Mae’r Papur Gwyn yn awgrymu y gallai fod angen rhai fframweithiau cyffredin ar draws y DU mewn meysydd fel amaethyddiaeth a physgodfeydd ar ôl gadael yr UE sy’n dyblygu’r rheini sydd ar waith ar hyn o bryd yn yr UE. Mae’r Pwyllgor yn dod i’r casgliad bod yn rhaid i Lywodraeth y DU a’r llywodraethau a’r deddfwrfeydd datganoledig gytuno ar unrhyw fframweithiau ar draws y DU yn y dyfodol ac na ddylai Llywodraeth y DU eu gorfodi mewn unrhyw ffordd, nid hyd yn oed am gyfnod cyfyngedig.
  • Tryloywder: Mae’r Pwyllgor yn dod i’r casgliad, er bod angen i Fil a deddfwriaeth ynghylch gadael yr UE fynd i’r afael â myrdd o faterion technegol a chyfansoddiadol, na ddylai’r Cynulliad golli golwg ar y ffaith y bydd penderfyniadau a wneir yn ystod y cyfnod hwn yn cael effaith uniongyrchol a pharhaol ar fywydau pobl. Mae’n nodi y bydd dyletswydd ar y Pwyllgor a’r Cynulliad i sicrhau bod y broses ar gyfer penderfynu ar y materion hyn mor dryloyw â phosibl ac yn creu cyfleoedd i ymgysylltu a chynnal deialog mewn ffordd ystyrlon.

Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Beth allai Bil y Diddymu Mawr ei olygu i Gymru? Mae Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad wedi rhoi ei farn ar y Papur Gwyn ‘Legislating for Brexit’.(PDF, 160KB)