Gwerth ychwanegol gros – Darlun lleol a rhanbarthol

Cyhoeddwyd 05/01/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Roedd ein herthygl a gyhoeddwyd ddoe yn nodi'r prif ffigurau ar gyfer gwerth ychwanegol gros, ac yn trafod cyfyngiadau defnyddio gwerth ychwanegol gros Cymru i fesur y 'twf cynhwysol' y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei sicrhau ledled Cymru. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar ddata lleol a rhanbarthol o gyhoeddiad diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch gwerth ychwanegol gros. Caiff pwysigrwydd mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd lleol a rhanbarthol ledled Cymru i greu twf cynhwysol ei nodi yng nghynllun gweithredu ar yr economi Llywodraeth Cymru, sy'n datgan:

Un o’r problemau mwyaf pwysig sy’n wynebu’n heconomi yw’r canlyniadau gwahanol rhwng ein cymunedau o fewn rhanbarthau gwahanol o Gymru a rhyngddynt. Maent yn atal ein gallu i ffynnu ac yn gwneud inni deimlo’n fwy a mwy ansicr ac unig.

Er bod y cyfyngiadau a amlygwyd yn yr erthygl ddoe hefyd yn berthnasol i ddefnyddio gwerth ychwanegol gros i fesur perfformiad economaidd ar lefel leol a rhanbarthol parheir i graffu ar berfformiad gwerth ychwanegol gros fel dangosydd economaidd allweddol. Ar lefel ranbarthol, mae'r bargeinion dinesig a thwf a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU yn rhoi pwyslais sylweddol ar dwf gwerth ychwanegol gros, fel uchelgais ac fel penderfynydd ar lefelau cyllid yn y dyfodol y gellir eu sicrhau gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Map yn dangos rhanbarthau economaidd Cymru o Gynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru

Sut y mae gwerth ychwanegol gros y pen yn amrywio ar draws gwahanol ardaloedd yng Nghymru?

Nid yw'r awdurdodau lleol â'r gwerth ychwanegol gros uchaf ac isaf y pen wedi newid ers datganoli. Caerdydd sydd â'r gwerth ychwanegol gros uchaf y pen o blith holl awdurdodau lleol Cymru bob blwyddyn ers 1999, a Blaenau Gwent sydd â'r isaf bob blwyddyn ers 1998.

Rhwng 1998 a 2016, cynyddodd gwerth ychwanegol gros y pen fel canran o gyfartaledd y DU mewn 4 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gyda gostyngiad yn y 18 arall.

  • Yr awdurdodau sydd wedi gweld cynnydd yw Caerdydd (3.9 pwynt canran), Merthyr Tudful (2.9 pwynt canran), Sir Gaerfyrddin (2.5 pwynt canran) a Rhondda Cynon Taf (1.5 pwynt canran).
  • Gwelodd saith awdurdod lleol ostyngiad o 5 pwynt canran o leiaf dros y cyfnod hwn. Y tri awdurdod a welodd y gostyngiadau mwyaf oedd Sir Fynwy (-12.1 pwynt canran), Powys (-9.9 pwynt canran) a Bro Morgannwg (-5.4 pwynt canran).

Mae'r map isod yn dangos y gwahaniaethau mewn gwerth ychwanegol gros y pen fel canran o gyfartaledd y DU rhwng yr awdurdodau lleol yn nhri rhanbarth economaidd Llywodraeth Cymru. Mae'n dangos y canlynol ar gyfer 2016:

  • Roedd gwerth ychwanegol gros y pen yn uwch na chyfartaledd y DU mewn dim ond 2 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru – Caerdydd a Sir y Fflint.
  • Mae pedwar o'r pum awdurdod lleol sydd â'r gwerth ychwanegol gros uchaf y pen yn y de-ddwyrain (Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Phen-y-bont ar Ogwr), ond mae hefyd yn wir bod dau o'r pum awdurdod sydd â'r gwerth ychwanegol gros isaf y pen yn y de-ddwyrain (Blaenau Gwent a Chaerffili).
  • Yr awdurdod arall o'r pump sydd â'r gwerth ychwanegol gros uchaf y pen yng Nghymru yw Sir y Fflint. Mae ei gwerth ychwanegol gros y pen fel canran o gyfartaledd y DU bron 25 pwynt canran yn uwch nag unrhyw awdurdod lleol arall yn y gogledd. Roedd Ynys Môn a Chonwy ymysg y pum awdurdod lleol sydd â'r gwerth ychwanegol gros isaf y pen.
  • Nid oedd gan yr un awdurdod lleol yn y canolbarth a'r de-orllewin werth ychwanegol gros y pen uwchlaw 72 y cant o gyfartaledd y DU yn 2016. O'r pum awdurdod lleol yng Nghymru sydd â'r gwerth ychwanegol gros uchaf y pen, nid oes yr un ohonynt yn y canolbarth na'r de-orllewin, a Sir Gaerfyrddin yw'r unig awdurdod yn y rhanbarth hwn i'w gynnwys yn y pum awdurdod sydd â'r gwerth ychwanegol gros isaf y pen.

Mae'n werth gwybod bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi pennu dau ffactor sy'n cyfyngu ar ba mor ddefnyddiol yw data gwerth ychwanegol gros i awdurdodau lleol unigol. Mae cymudo yn effeithio ar ffigurau gwerth ychwanegol gros, gan eu bod yn seiliedig ar ble mae pobl yn gweithio yn hytrach na ble maent yn byw. Mae tair i bedair gwaith cymaint o bobl yn cymudo allan o Flaenau Gwent ac Ynys Môn o'i gymharu â’r canran sy’n cymudo i mewn, sy'n golygu y bydd y bobl hyn yn cyfrannu at werth ychwanegol gros ardaloedd eraill. Mae dosbarthiad oedran hefyd yn ystumio’r ffigurau gwerth ychwanegol gros y pen, gan y bydd hyn yn effeithio ar y gyfran o bobl sy’n gweithio. Bydd effeithiau’r ystumio hwn yn arbennig o amlwg wrth edrych ar ardaloedd llai, fel ardaloedd awdurdodau lleol. Map yn dangos gwerth ychwanegol gros y pen yn awdurdodau lleol Cymru yn 2016

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol?

Mae cynllun gweithredu ar yr economi Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sefydlu model datblygu economaidd ar sail rhanbarth i fynd ar drywydd twf cynhwysol a mynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol o ran cyfoeth a chyfleoedd ledled Cymru. Mae'r agweddau allweddol ar hyn yn cynnwys:

  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu model llywodraethu rhanbarthol cadarn a chlir.
  • Defnyddio dull rhanbarthol o ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd y mae rhanbarthau unigol yn eu hwynebu. Er enghraifft, yn y de-ddwyrain, bydd y dull rhanbarthol yn integreiddio'r Fargen Ddinesig a Thasglu'r Cymoedd gydag ymyriadau polisi eraill Llywodraeth Cymru fel Targedu Buddsoddiad Adfywio.
  • Penodi tri Phrif Swyddog Rhanbarthol i weithio ar draws eu rhanbarth i sicrhau twf.
  • Fel rhan o'r ffocws rhanbarthol, gan helpu busnesau gwledig i arallgyfeirio, ac i fanteisio ar gadwyni cyflenwi.
  • Annog cydweithio rhanbarthol er mwyn datblygu cynnig Bargen Dwf Canolbarth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu y bydd manteision y dull gweithredu hwn yn cynnwys y gallu i gydgysylltu cynllunio ym maes datblygu economaidd, cadwyni cyflenwi lleol a rhanbarthol cryfach, trafnidiaeth integredig well, cynllunio strategol ar faterion yn cynnwys tai, defnydd tir a sgiliau, a chydweithredu economaidd a chludiant trawsffiniol cryfach.

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (FSB Cymru) a Sefydliad Bevan ill dau wedi croesawu'r ffocws rhanbarthol hwn, ond hoffai'r ddau weld camau pellach yn cael eu cymryd ynghylch gwahanol agweddau.

Mae FSB Cymru yn credu y bydd caniatáu i ranbarthau nodi eu blaenoriaethau eu hunain yn seiliedig ar anghenion busnesau yn allweddol, a hoffai weld camau pellach yn cael eu cymryd ynghylch economïau gwledig trwy greu Cronfa Her Wledig i ddenu syniadau newydd ar gyfer datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

Mae Sefydliad Bevan yn datgan bod 'ail-ranbartholi' polisi i'w groesawu ond na fydd hyn yn mynd i'r afael ag anghydbwysedd rhanbarthol ar ei ben ei hun, ac mae'n galw am arweiniad cadarn gan Lywodraeth Cymru ei fod yn disgwyl i ranbarth y de-ddwyrain dyfu Blaenau'r Cymoedd ac i ranbarth y canolbarth a'r de-orllewin gefnogi Powys wledig. Mae hefyd yn nodi bod angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu mesurau penodol i ddarparu 'swyddi gwell, yn agosach at gartref' ar draws pob rhan o Gymru, a thargedau penodol ar gyfer ardaloedd daearyddol.


Erthygl gan Gareth Thomas a Sam Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell: Map yn dangos rhanbarthau economaidd Cymru o Gynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru