Cyfansoddiad Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Y Cynulliad yn trafod llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Chwefror bydd y Cynulliad yn trafod yr adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd . Mae’r adroddiad yn egluro cyd-destun cyfnewidiol yr ymchwiliad wrth i’r DU baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac mae’r ffordd y mae gwahanol lywodraethau a seneddau’r DU yn cydweithio yn destun cryn ffocws ynddo.

26 Chwefror 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyflwyniad

Yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Chwefror bydd y Cynulliad yn trafod yr adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd  .

Mae’r adroddiad yn egluro cyd-destun cyfnewidiol yr ymchwiliad wrth i’r DU baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac mae’r ffordd y mae gwahanol lywodraethau a seneddau’r DU yn cydweithio yn destun cryn ffocws ynddo.

Prif argymhellion

Mae’r adroddiad yn gwneud 17 o argymhellion. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Bod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (JMC) yn cael ei gryfhau yn y tymor byr drwy sicrhau bod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Cyfarfod Llawn) yn cyflawni swyddogaethau Cynhadledd flynyddol Penaethiaid y Llywodraeth, fel yr awgrymwyd yn 2016 gan Bwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin (Papur Tŷ’r Cyffredin 839); gan ychwanegu pwyllgorau newydd at fformat presennol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion i drafod y farchnad sengl a masnachu ac, yn enwedig, i gytuno ar fframweithiau cyffredin.
  • Bod Llywodraeth y DU yn diwygio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sydd ar hyn o bryd yn Nhŷ’r Arglwyddi, i roi sylfaen statudol i gysylltiadau rhynglywodraethol,
  • Yn y tymor hwy, ar ôl ymadael â’r UE, dylai’r JMC fod yn destun diwygiad sylfaenol fel ei fod yn dod yn Gyngor y DU: yn gorff gwneud penderfyniadau; bod ganddo fecanwaith datrys anghydfodau, cyflafareddu a dyfarnu annibynnol; ei fod yn dryloyw ac yn atebol ym mhob un o’i swyddogaethau a’i weithrediadau, yn arbennig, wrth wneud penderfyniadau.
  • Dylai’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig fod yn destun trawsnewidiad llwyr yn cynnwys cydweithio rhwng holl lywodraethau’r DU gyda’r nod o sefydlu arfer o lywodraethu ar y cyd mewn perthynas â’r mecanwaith sy’n cefnogi darpariaeth o gysylltiadau rhynglywodraethol teg ac effeithiol;
  • Bod y Llywydd yn ceisio sefydlu, ar y cyd â Llefaryddion a Llywyddion deddfwrfeydd eraill y DU, Gynhadledd y Llefaryddion gyda’r nod o benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu gweithio rhyngseneddol yn y DU, yn enwedig fel modd o graffu ar effaith ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ar fframwaith cyfansoddiadol y DU. Dylai Cynhadledd y Llefaryddion hefyd asesu cyflwr cysylltiadau rhynglywodraethol, gyda’r bwriad o helpu i adeiladu consensws ar ddiwygio.

Cynhadledd y Llefaryddion

Mae Cynhadledd y Llefaryddion yn fath o ymchwiliad ffurfiol, nas defnyddir yn aml, i’r trefniadau sy’n llywodraethu etholiadau yn y DU, er bod un wedi’i chynnal ar ddatganoli ym 1919. Yn ôl Nodyn Safon Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, mae’n amlygiad o’r confensiwn cyfansoddiadol y dylid cytuno ar newidiadau i’r system etholiadol, cyn belled ag y bo modd, ar sail plaid gyfan.

Nid oes dim rheolau sefydlog na rheolau statudol sy’n llywodraethu creu Cynhadledd y Llefaryddion, ond cynhaliwyd cynadleddau blaenorol gan y Prif Weinidog, a oedd yn estyn gwahoddiad i’r Llefarydd lywyddu cynhadledd i blaid gyfan.

Cynhaliwyd pum cynhadledd llefaryddion ar faterion yn ymwneud â chyfraith etholiadol a diwygio etholiadol yn yr ugeinfed ganrif. Fel y Prif Weinidog, adfywiodd Gordon Brown yr arfer ym mis Medi 2007, gan gyhoeddi y byddai Cynhadledd y Llefaryddion newydd yn cael ei sefydlu i ystyried sut i gynyddu nifer y bobl sy’n pleidleisio mewn etholiadau, a chynyddu cynrychiolaeth menywod a lleiafrifoedd ethnig fel Aelodau yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn ei adroddiad mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystyried mai prif rôl Cynhadledd y Llefaryddion fyddai datblygu fframwaith ar gyfer cysylltiadau rhyngseneddol. Roedd hefyd, fodd bynnag, yn gweld y rhinweddau o’i swyddogaeth mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol, wrth i’r Gynhadledd fod yn fodd o asesu sut y maent yn datblygu yn y cyfnod hollbwysig hwn yn natblygiad cyfansoddiad y DU.

Dywedodd Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

Rydym yn gweld Cynhadledd y Llefaryddion fel ffordd o gynyddu dealltwriaeth a chydweithredu rhwng sefydliadau seneddol y DU mewn cyfnod hanfodol yn esblygiad cyfansoddiad y DU.


Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru