Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Y Cynulliad i gynnal dadl ar Berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol

Ar 27 Mawrth, lansiodd Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad (@SeneddMADY) ei adroddiad ar Berthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd yn y Dyfodol (PDF 9MB). Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor ynghylch beth ddylid ei gynnwys yn y cytundeb rhwng y DU a'r UE i sicrhau ei fod o fantais i'r economi, i'r gymdeithas ac i ddinasyddion yng Nghymru. Bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar yr adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo ar 23 Mai 2018.

18 May 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 27 Mawrth, lansiodd Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad (@SeneddMADY) ei adroddiad ar Berthynas Cymru â’r Undeb Ewropeaidd yn y Dyfodol (PDF 9MB). Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion a chasgliadau’r Pwyllgor ynghylch beth ddylid ei gynnwys yn y cytundeb rhwng y DU a’r UE i sicrhau ei fod o fantais i’r economi, i’r gymdeithas ac i ddinasyddion yng Nghymru. Bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar yr adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo ar 23 Mai 2018.

Beth oedd casgliadau’r Pwyllgor?

Casglodd y Pwyllgor ei dystiolaeth dros gyfnod o dri mis gan gynnwys cynnal cynhadledd ym mis Ionawr 2018 ac ymweld ag Aston Martin a Toyota. Clywodd y Pwyllgor gan ystod eang o fusnesau a sefydliadau gan gynnwys rhai yn y sectorau iechyd, adeiladu, diwylliant, addysg, trafnidiaeth, gwirfoddoli, amaethyddiaeth, bwyd a’r amgylchedd.

Dyma brif ganfyddiadau’r Pwyllgor:

  • Dylai Llywodraeth y DU flaenoriaethu’r mynediad ffafriol at farchnad, a hynny heb rwystrau tariff a rhwystrau di-dariff.
  • Dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion credadwy o ran trefniadau tollau’r Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol cyn gynted ag y bo modd.
  • Nid yw’r Pwyllgor wedi ei ddarbwyllo ynghylch gwerth gwahaniaethau rheoleiddiol ar ôl Brexit, ac mae’n nodi bod y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor yn rhoi blaenoriaeth helaeth i gynnal safonau rheoleiddio cyfatebol;
  • Dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU ynghylch yr amserlenni ar gyfer newid system fewnfudo yn y dyfodol;
  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi rhestr o asiantaethau Ewropeaidd y mae wedi eu nodi fel rhai pwysig i Gymru o ran cyfranogiad parhaus ar ôl Brexit; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddogfennu rhwydweithiau a sefydliadau cyfredol yr UE y mae cyrff o Gymru yn rhan ohonynt erbyn mis Mehefin 2018 ac ymgynghori pa rai o rwydweithiau’r UE y dylai Cymru geisio parhau yn rhan ohonynt ar ôl Brexit erbyn hydref 2018.

Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 12 o argymhellion y Pwyllgor yn llawn a chwe argymhelliad yn rhannol. Yn arbennig, roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn:

Argymhellion 1 a 4 sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i flaenoriaethu mynediad ffafriol at farchnad yn eu negodiadau â’r UE ac annog Llywodraeth y DU i lunio cynigion tollau dichonadwy.

 … Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU am fwy o eglurder ynglŷn â systemau tollau yn y dyfodol, yn ffurfiol drwy gyfrwng y Cydbwyllgor Gweinidogion a thrwy drafodaethau dwyochrog.

Argymhelliad 7 sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhestr o asiantaethau Ewropeaidd y mae wedi’u nodi i fod yn bwysig i Gymru. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd yn cyhoeddi rhestr o’r rheiny y mae’n credu iddynt fod o bwysigrwydd penodol i Gymru, ond nid yw’n nodi pryd y caiff y rhestr ei chyhoeddi.

Argymhellion 8 a 9 sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â chyrff y GIG ynghyd â sefydliadau a chyrff iechyd cyhoeddus i nodi cysylltiadau rhwng y sefydliadau hyn ac asiantaethau a chynlluniau iechyd yr UE. Dywedodd Llywodraeth Cymru:

.. Rydym o blaid y syniad bod y DU yn aros yn rhan o Asiantaeth Feddyginiaethau Ewrop ar ôl Brexit, ond byddai hynny’n golygu perthynas lawer agosach â’r farchnad sengl nag yr ymddengys fod Llywodraeth y DU yn barod i’w hystyried ar hyn o bryd.

Ymhlith yr argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi eu derbyn mewn egwyddor mae argymhelliad 5. Mae’r argymhelliad hwnnw yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel rhan o’i senario ‘dim bargen’, i ystyried cynllunio ar gyfer yr effaith y byddai tollau gwahanol yn ei chael ar Gymru ac unrhyw gamau gweithredu y bydd angen paratoi ar eu cyfer. Dywed Llywodraeth Cymru fod hyn yn cael ei wneud eisoes yn y trafodaethau â Llywodraeth yr UE a swyddogion Cyllid a Thollau EM:

Rydym yn cynnal trafodaethau cyson, ar y cyd gyda swyddogion Llywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys Cyllid a Thollau EM, a phorthladdoedd a maes awyr Cymru, am dollau a materion eraill yn gysylltiedig â’r ffin. O fewn y fforwm hwn, rydym yn ystyried goblygiadau trefniadau amgen a’r hyn fydd angen ei roi ar waith ar gyfer senarios gwahanol, gan gynnwys seilwaith a systemau ar ffiniau, yn dibynnu ar y telerau ymadael â’r UE. Byddwn yn parhau i weithio ar y trefniadau hyn nes y daw’n glir, drwy’r negodi, yn union pa senario fydd yn berthnasol.

Y camau nesaf

Bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru ar 23 Mai. Mae’r Pwyllgor hefyd yn gwneud gwaith ar Ran 2 ei ymchwiliad i Berthynas Cymru â’r UE yn y Dyfodol. Bydd y gwaith hwn yn edrych yn fanylach ar y perthnasoedd y dylai Cymru a’r Cynulliad eu meithrin â rhanbarthau, rhwydweithiau a sefydliadau Ewrop ar ôl Brexit.


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru