Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Cynnal dadl ddwy flynedd ers Refferendwm yr UE

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadl ar gyfer 19 Mehefin, ddwy flynedd ers refferendwm yr UE. Ers cynnal y refferendwm ar 23 Mehefin 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o bapurau polisi yn amlinellu ei safbwynt ar y broses o adael yr UE. Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (@SeneddEAAL) hefyd wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn nodi ei farn am y modd y bydd Brexit yn effeithio ar Gymru ac ar y berthynas rhwng Cymru a’r UE yn y dyfodol. Mae'r erthygl hon yn amlygu safbwyntiau polisi Llywodraeth Cymru ers y refferendwm yn y DU ar barhau’n aelod o’r UE, a gwaith y Pwyllgor Materion Allanol mewn perthynas â gadael yr UE.

18 Mehefin 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadl ar gyfer 19 Mehefin, ddwy flynedd ers refferendwm yr UE. Ers cynnal y refferendwm ar 23 Mehefin 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o bapurau polisi yn amlinellu ei safbwynt ar y broses o adael yr UE. Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad (@SeneddEAAL) hefyd wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn nodi ei farn am y modd y bydd Brexit yn effeithio ar Gymru ac ar y berthynas rhwng Cymru a’r UE yn y dyfodol. Mae’r erthygl hon yn amlygu safbwyntiau polisi Llywodraeth Cymru ers y refferendwm yn y DU ar barhau’n aelod o’r UE, a gwaith y Pwyllgor Materion Allanol mewn perthynas â gadael yr UE.

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar y cyd â Phlaid Cymru, Diogelu Dyfodol Cymru (PDF 2.83MB), yn nodi eu blaenoriaethau ar gyfer y berthynas rhwng Cymru a’r UE yn y dyfodol. Galwodd y papur ar y DU i sicrhau mynediad ‘dirwystr’ i’r Farchnad Sengl a dywedodd na chafodd Llywodraeth Cymru ei darbwyllo bryd hynny y byddai gadael yr Undeb Tollau yn arwain at fuddion economaidd i Gymru. O ran mewnfudo, mae’r papur yn nodi y dylid cysylltu rhyddid pobl o’r UE i symud i Gymru â chyflogaeth yn y dyfodol, ac eithrio myfyrwyr a’r rheini a all gynnal eu hunain. Galwodd hefyd am gyfnod pontio. Mae’r Prif Weinidog wedi datgan nad yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid mewn unrhyw ffordd, yn y bôn, ers cyhoeddi’r papur hwn.

Ers y refferendwm, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pedwar papur polisi arall sy’n gysylltiedig â gadael yr UE:

  • Ym mis Mehefin 2017, cyhoeddodd bapur ar Brexit a Datganoli (PDF 641.97 KB). Mae’r papur hwn yn galw am newid strwythurau llywodraethu mewnol y DU ar ôl Brexit a chreu Cyngor Gweinidogion newydd a fyddai’n cynnwys Gweinidogion Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig.
  • Ym mis Medi 2017 cyhoeddodd bapur yn dwyn y teitl Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl (PDF 1.34MB) yn galw am fabwysiadu cynlluniau mewnfudo rhanbarthol ar ôl Brexit.
  • Ym mis Mawrth 2018 cyhoeddodd bapur yn dwyn y teitl Buddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit (pdf 1.74MB) a oedd yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i barhau i fuddsoddi’n rhanbarthol ar ôl Brexit ac yn cynnwys rhai cynigion ar gyfer sut y gellid cyflawni hyn.
  • Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd bapur yn dwyn y teitl Y Polisi Masnach: materion Cymru (PDF 1.67MB). Roedd yn cynnwys cynigion i gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig ym mholisi masnach y DU ar ôl Brexit ac yn nodi rhai o’r prif broblemau masnachu y bydd busnesau Cymru yn eu hwynebu.

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Gofynnodd y Cynulliad i’r Pwyllgor ystyried goblygiadau Brexit i Gymru. Ers ei sefydlu ar ddechrau’r pumed Cynulliad, mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau fel rhan o’r gwaith hwn.

  • Ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd ei adroddiad cyntaf ar Y Goblygiadau i Gymru yn sgil Gadael yr UE. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad cychwynnol y Pwyllgor o’r prif faterion sy’n wynebu Cymru yng nghyd-destun Brexit ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch y camau y dylai eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhain.
  • Ym Mehefin 2017 cyhoeddodd adroddiad ar ei Ymchwiliad i Bolisi Rhanbarthol: Beth nesaf i Gymru? (PDF 1MB) a oedd yn galw am i benderfyniadau am ddyfodol polisi rhanbarthol gael eu gwneud yng Nghymru ac i Lywodraeth Cymru fod yn feiddgar a chreadigol wrth ddatblygu polisïau newydd.
  • Ym mis Awst 2017 cyhoeddodd adroddiad ar ei Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru (PDF 2MB). Yn yr adroddiad, cynigiwyd sefyllfaoedd posibl ar ôl gadael yr UE gan ystyried sut y byddent yn effeithio ar borthladdoedd Cymru a chan wneud argymhellion ynghylch sut y gellid mynd i’r afael â’r rhain.
  • Ym mis Mawrth 2018 cyhoeddodd adroddiad ar Berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol (PDF 9MB). Amlinellodd yr adroddiad yr hyn ddywedodd rhanddeiliaid o Gymru y dylid ei gynnwys mewn unrhyw gytundeb ynghylch y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, er mwyn diogelu buddiannau Cymru. Roedd hefyd yn cynnwys argymhellion ynghylch y berthynas y dylai Cymru eu sefydlu â sefydliadau, rhwydweithiau a chyrff Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Beth nesaf?

Mae deg mis arall cyn y bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi cyhoeddi Llinell amser Brexit sy’n rhestru rhai o’r prif ddigwyddiadau arfaethedig yn y Cynulliad, yr Undeb Ewropeaidd a’r DU yn ystod y cyfnod yn arwain at 29 Mawrth 2019.

Mae’r trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a’r UE ynghylch sut y bydd y DU yn gadael yr UE, a’r berthynas rhyngddynt yn y dyfodol, yn parhau. Mae’r ddwy ochr wedi datgan eu bod am gwblhau eu trafodaethau ar y cytundeb ymadael, a’r fframwaith ar gyfer eu partneriaeth yn y dyfodol, erbyn mis Hydref 2018, er mwyn rhoi amser i Senedd Ewrop, Senedd y DU a’r Cyngor Ewropeaidd gytuno ar y testunau terfynol cyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Disgwylir i Lywodraeth y DU gyhoeddi dogfen fanylach yn amlinellu ei safbwynt ar y bartneriaeth yn y dyfodol erbyn diwedd mis Mehefin neu ddechrau mis Gorffennaf 2018.


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru