Brexit Cymru Datganoli Y Môr a Physgodfeydd

Brexit a Physgodfeydd Cymru

Mae'r erthygl blog hon yn rhoi trosolwg byr o bysgodfeydd Cymru a'r datblygiadau hyd yn hyn yn negodiadau Brexit
28 Mehefin 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Gymraeg

Mae’r diwydiant pysgodfeydd yn rhoi cyfrif am 0.05 y cant yn unig o GDP y DU, ond roedd yn rhan amlwg o’r ymgyrch o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.  Ers 23 Mehefin 2016, ychydig iawn o ddatblygiadau a fu o ran sut y bydd deddfwriaeth pysgodfeydd yn edrych ar ôl Brexit. Gyda llai na blwyddyn i fynd tan y ‘diwrnod ymadael’, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Gorffennaf i drafod ‘Brexit a Physgodfeydd Cymru’.

Mae’r erthygl blog hon yn rhoi trosolwg byr o bysgodfeydd Cymru a’r datblygiadau hyd yn hyn yn negodiadau Brexit.

Pysgodfeydd Cymru

Mae sector pysgota Cymru yn wahanol o ran maint a natur i fannau eraill yn y DU. Mae pysgodfeydd Cymru yn gweithredu ar y glannau (0-6 milltir forol (nm)), ac ar ddyfroedd tiriogaethol (6-12 nm) ac mae llongau fel arfer yn fach (llai na 10m), ac ni allant bysgota am gyfnodau hir yn rhanbarth dyfroedd y môr mawr na physgota ar y cefnforoedd.

Mae fflyd Cymru yn targedu pysgod cregyn yn bennaf a rhywogaethau eraill ‘nad oes cwota ar eu cyfer’. Mae erthygl blog ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd, sef Dyfodol pysgodfeydd Cymreig yn dweud:

Pysgod cregyn yw dwy rhan o dair o’r hyn sy’n cael ei ddal gan gychod Cymru yn ôl eu gwerth, ac o’r rheini, caiff 90% eu hallforio i’r UE ac i Asia drwy gyfrwng cytundebau masnach estynedig yr UE.

Yn ôl ystadegau pysgodfeydd môr blynyddol ar gyfer y DU (2016) gan y Sefydliad Rheoli Morol, roedd 451 o gychod wedi’u cofrestru mewn porthladdoedd yng Nghymru a 753 o bysgotwyr wedi’u cyflogi yn y sector yn 2016. O’r rhain, roedd 419 o gychod yn llai na 10 metr a dim ond 32 o gychod oedd dros 10 metr.

Mewn cyferbyniad, roedd 3,098 o longau pysgota wedi’u cofrestru yn Lloegr a 5,306 wedi’u cyflogi yn y sector.

Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, Ionawr 2017, Diogelu Dyfodol Cymru yn ymrwymo i gyflwyno polisi pysgodfeydd blaengar. Fodd bynnag, mae perygl na chaiff Cymru sylw yn y ddadl bolisi. Mae adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sef Implications of Brexit for Fishing Opportunities in Wales, yn datgan:

The structure of the Welsh fleet is unique and there is a real risk of it being ‘left behind’ by the demands of larger fishing interests in the UK-EU negotiations.

Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE

Mae’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn defnyddio nifer o fesurau gwahanol i reoli stociau pysgod a physgod cregyn ym Mharthau Economaidd Unigryw Aelod-wladwriaethau yr UE fel y dangosir isod (mae’r Parthau Economaidd Unigryw yn ymestyn o 12-200nm neu allan i’r llinell ganolrif rhwng dwy wlad), gan gynnwys terfynau dal, cwotâu a mesurau technegol. Mae Nodyn Swyddfa Seneddol Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018 yn crynhoi’r wyddoniaeth a ddefnyddir i lywio rheolaeth, dulliau presennol i weithredu pysgodfeydd yr UE, a heriau a chyfleoedd ar gyfer rheoli pysgodfeydd y DU yn y dyfodol.

Llun: o (Flickr) gan (Chris Flemming). Dan drwydded Creative Commons
Parthau Economaidd Unigryw Gogledd-ddwyrain yr Iwerydd

Yn y bôn, mae’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cynnwys pedair elfen bolisi gyffredinol, sef rheoli pysgodfeydd, polisi rhyngwladol,  polisi marchnad a masnach a chyllid.

Ar hyn o bryd, dyrennir cwota’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin i’r DU fel Aelod-wladwriaeth o’r UE. Yna, caiff y cwota ei ddyrannu i’r gweinyddiaethau datganoledig yn unol â Chytundeb Concordat. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cael ei weithredu yn nyfroedd Cymru.

Cytundebau rhyngwladol

Cyn datblygu’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, roedd mynediad fflyd tramor at ddyfroedd y DU a rhai gwledydd Ewropeaidd eraill yn cael ei oruchwylio gan Gonfensiwn Pysgodfeydd Llundain 1964. Nid yw’r Confensiwn yn gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Cafodd ei ddisodli gan gyfraith yr UE ac, ar hyn o bryd, mae’n parhau i fod ar waith ochr yn ochr â’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Ar ôl gadael yr UE, bydd y DU yn adennill rheolaeth dros Barth Economaidd Unigryw y DU. Bydd y DU yn dod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol, a gadarnhawyd gan George Eustice, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, ar 26 Ebrill 2018. Bydd yn parhau i fod yn rhwym i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr (UNCLOS) sy’n gorfodi’r DU i reoli stociau pysgod mewn modd cynaliadwy. Mae adroddiad gan Bwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi, sef Brexit: Fisheries, yn dweud y canlynol:

…UNCLOS III was adopted in 1982 and regulates activities at sea. It grants states the sovereign right to govern their respective …EEZs, though in recognition of the vulnerability of fish as a natural resource, UNCLOS obliges countries (‘coastal states’) to manage their living resources in a sustainable manner. For fish stocks that occur in the EEZs of two or more coastal states (‘shared stocks’) there is an obligation to co-operate on their management.

Datblygiadau Brexit

Ar 21 Mehefin 2017 yn Araith y Frenhines, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gyflwyno Bil Pysgodfeydd y DU. Mae’r papur briffio cefndirol cysylltiedig yn dweud mai diben y Bil yw galluogi’r DU i reoli mynediad at ei dyfroedd a phennu cwotâu pysgota’r DU ar ôl iddi adael yr UE.

Disgwylir i’r Bil sefydlu system rheoli pysgodfeydd newydd ar ôl i’r DU adael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a dod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol.

Ar 2 Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Michael Gove, y Gweinidog Defra, fwriad Llywodraeth y DU i ymadael â Chonfensiwn Llundain ar y sail y byddai’r Confensiwn yn dal i fod yn gymwys, er y byddai gadael yr UE yn golygu nad yw’r DU bellach yn rhwym i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Mae’r Datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd gan Defra yn dweud y canlynol:

… the UK will notify the other Member States signed up to the London Fisheries Convention, triggering a two-year withdrawal period – in a similar way to the Article 50 letter which began a two-year withdrawal from the EU. […]

When we leave the EU, we will no longer be bound by the [CFP] but without action, restrictions under the historic London Fisheries Convention would still apply. By withdrawing from the London Fisheries Convention we will no longer be bound by the existing access agreements.

Nododd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar gyllideb ddrafft 2018-19 Llywodraeth Cymru (PDF 340KB) fod Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, wedi dweud wrth y Pwyllgor “fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno ei Biliau ei hun yn ymwneud ag amaethyddiaeth a physgodfeydd ar ôl Brexit”.

Yn ei hymateb (PDF 146KB) i argymhelliad yr adroddiad y dylai “ddarparu gwybodaeth am y statws; cwmpas; unrhyw ymgynghoriad arfaethedig; ac amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch amaethyddiaeth ac ynghylch pysgodfeydd”, dywedodd Llywodraeth Cymru:

Bydd amseriad a maint biliau amaethyddiaeth a physgodfeydd yn y dyfodol yn esblygu wrth inni barhau i negodi telerau ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd… Bydd amseriad a chwmpas Bil Ymadael y DU a phriod filiau amaethyddiaeth a physgodfeydd priodol y DU hefyd yn cael eu hystyried gennyf mewn perthynas â deddfwriaeth yn y dyfodol.

Ar 28 Ebrill 2018, cadarnhaodd George Eustice gynlluniau i gyflwyno Bil Pysgodfeydd y DU yn y sesiwn Seneddol hon.

Fframweithiau Cyffredin

Mae’r diwydiant pysgota wedi cael ei lywio’n helaeth gan aelodaeth y DU o’r UE a’r fframweithiau sy’n rheoleiddio’r polisi pysgodfeydd ar hyn o bryd drwy’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Mae hyn yn caniatáu dull cydgysylltiedig yn y DU yn ogystal ag ar lefel yr UE gyda’r rhesymeg bod angen fframweithiau er mwyn gweithredu Marchnad Sengl yr UE ac er mwyn cysoni amcanion polisi. Wrth i ni adael yr UE, bu llawer o ddadlau ynghylch sut y dylid sefydlu fframweithiau ar lefel ddomestig, yn enwedig ar gyfer meysydd cymhwysedd datganoledig.

Mae cytundeb cyffredinol ar yr angen am fframweithiau cyffredin y DU mewn rhai meysydd, gan gynnwys rheoli pysgodfeydd, sy’n faes cymhwysedd datganoledig. Ar 9 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hasesiad dros dro o’r meysydd lle gallai fod angen fframweithiau cyffredin y DU ar ôl Brexit, mewn meysydd cyfraith UE mewn cymhwysedd datganoledig.

Mae’r asesiad yn rhoi 155 o bwerau mewn tri chategori: y rhai y gall fod angen fframweithiau deddfwriaethol arnynt; fframweithiau anneddfwriaethol; neu rai lle nad oes angen rhagor o gamau. Mae rheoli pysgodfeydd yn dod o dan y categori lle mae angen fframwaith deddfwriaethol.

Mae datblygu fframweithiau’r DU wedi’i gynnwys yn fanylach yn Adroddiad Monitro Brexit: Yr Amgylchedd.

Mynediad at Barthau Economaidd Unigryw

Yn ei haraith yn Mansion House ar 2 Mawrth, dywedodd Theresa May, y Prif Weinidog, y byddai’r DU yn cydweithredu â’r UE i gydreoli stociau pysgodfeydd ac y byddai’n ceisio cytundeb ar fynediad at ddyfroedd i’r naill ochr a’r llall. Ar 14 Mawrth, mabwysiadodd Senedd Ewrop ei safbwynt o ran y fframwaith ar gyfer perthynas rhwng yr UE a’r DU yn y dyfodol. Mae’n dweud y canlynol:

… the level of access to the EU domestic market must be conditional on the level of access for EU vessels to the UK fishing grounds and their resource.

Ar 23 Mawrth, mabwysiadodd y Cyngor Ewropeaidd ei ganllawiau negodi ar y fframwaith ar gyfer y berthynas rhwng yr UE a’r DU yn y dyfodol. Amlinellodd y canllawiau y dylai Cytundeb Masnach Rydd rhwng yr UE a’r DU, yn y dyfodol, gynnwys mynediad at ddyfroedd pysgota i’r naill ochr a’r llall.

Ar 9 Ebrill, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd bapur briffio ar baratoi ar gyfer Brexit ynghylch pysgodfeydd a dyframaeth.

Y Cyfnod Pontio

Ar 19 Mawrth 2018, daeth y DU a’r UE i gytundeb gwleidyddol ar gyfnod pontio ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE. Os ceir cytundeb ar y Cytundeb Ymadael, bydd y DU yn gadael yr UE yn ffurfiol ar 29 Mawrth 2019, ond bydd cyfnod pontio o 21 mis rhwng 29 Mawrth 2019 a Rhagfyr 2020.

Bydd y DU yn parhau i gadw at reolau a rheoliadau’r UE yn gyfan gwbl ar gyfer y cyfnod hwnnw, gan gynnwys rheoliadau newydd a ddaw i rym yn ystod y blynyddoedd hynny. Mae hyn yn golygu y bydd y DU yn parhau i gymryd rhan yn y Polisi Pysgota Cyffredinol tan fis Rhagfyr 2020. Ymgynghorir â’r DU ar ddyraniad blynyddol y cwota pysgota yn ystod y cyfnod pontio, a gallai’r DU gael ei gwahodd i gymryd rhan yn nirprwyaethau’r UE sy’n negodi hawliau pysgota gyda gwledydd trydydd parti.

Bydd y DU hefyd yn parhau i gael mynediad at y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau ar yr un telerau ag sydd ganddi fel Aelod-wladwriaeth.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru