Cyfansoddiad

Diwygio’r Cynulliad

Ar 18 Gorffennaf, cyhoeddodd y Llywydd ddatganiad am gynnydd Diwygio'r Cynulliad. Dywedodd fod Comisiwn y Cynulliad wedi cyfarfod ac wedi trafod canfyddiadau ei ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio etholiadol, Creu Senedd i Gymru, ac wedi cytuno ar gamau nesaf y rhaglen waith hon.

01 Awst 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 18 Gorffennaf, cyhoeddodd y Llywydd ddatganiad am gynnydd Diwygio’r Cynulliad. Dywedodd fod Comisiwn y Cynulliad wedi cyfarfod ac wedi trafod canfyddiadau ei ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio etholiadol, Creu Senedd i Gymru, ac wedi cytuno ar gamau nesaf y rhaglen waith hon.

Cynhaliodd y Comisiwn ymgynghoriad yn flaenorol ar enw’r sefydliad ac mae’n bwriadu deddfu i newid enw’r Cynulliad i Senedd Cymru / Welsh Parliament. Rhoddodd Aelodau’r Cynulliad fandad i’r Comisiwn i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar faterion sy’n ymwneud â chynyddu maint y Cynulliad a threfniadau gweithredol ac etholiadol cysylltiedig. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 12 Chwefror a 6 Ebrill 2018. Wrth wraidd yr ymgynghoriad roedd argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a fu’n ystyried nifer yr Aelodau y mae eu hangen ar y Cynulliad, systemau etholiadol addas, a’r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion ar 18 Gorffennaf.

Yn ei sylwadau, dywedodd y Llywydd:

Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau lefel gyffredinol o gefnogaeth i bob un o’r meysydd diwygio cyn i ni, fel Comisiwn y Cynulliad, ofyn am fandad i ddeddfu ar y materion hyn. Â hyn oll mewn golwg, mae Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i ddull dau gam ar gyfer Diwygio’r Cynulliad.

Maint y Cynulliad

O ran maint y Cynulliad, sut y dylid ethol Aelodau a pha ddull y dylid ei ddefnyddio er mwyn gwella amrywiaeth, dywedodd y Llywydd:

…mae’n glir bod angen caniatáu rhagor o amser i drafod hyn. Er imi fod yn hyderus…bod cefnogaeth ddigonol o blaid cynyddu nifer Aelodau’r Cynulliad, nid oes consensws eto o ran y system bleidleisio y dylid ei defnyddio i ethol Aelodau i’r sefydliad mwy o faint

Pleidlais i bobl 16 oed

Daeth y Panel Arbenigol i’r casgliad y byddai gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer etholiadau’r Cynulliad  “yn fodd grymus o godi ymwybyddiaeth wleidyddol a chyfranogiad mewn gwleidyddiaeth ymysg pobl ifanc”. Dywedodd y Llywydd ei bod hi’n “weddol hyderus ar yr adeg hon y byddai deddfwriaeth i weithredu argymhelliad y Panel yn ennyn cefnogaeth gan fwyafrif cyfforddus o Aelodau’r Cynulliad.”

Dangosodd yr ymgynghoriad cyhoeddus fod aelodau’r cyhoedd am i’r etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol gyfateb i’r etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16 oed ar gyfer etholiadau nesaf awdurdodau lleol yn 2022.

Mae’r Comisiwn yn credu er mwyn sicrhau’r lefel uchaf bosibl o ran cyfranogiad, y dylid gweithredu hyn ar gyfer etholiadau’r Cynulliad i ddechrau. Mae hyn yn adlewyrchu casgliadau’r Panel Arbenigol ei bod yn “ddymunol, pe byddai’r etholfraint yn cael ei hymestyn yng Nghymru, ei bod yn cael ei defnyddio gyntaf yn etholiad y Cynulliad, gan fod hwnnw’n denu mwy o sylw” yn 2021. Er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hannog a’u cefnogi i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio, byddai’n rhaid i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ddod law yn llaw ag addysg briodol mewn perthynas â gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth a byddai’n rhaid codi ymwybyddiaeth.

Dywedodd y Llywydd:

Felly, gallaf gyhoeddi heddiw ein bwriad i ddeddfu i leihau’r oedran pleidleisio isaf, i newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru, i fynd i’r afael â materion o ran anghymhwyso a gwneud diwygiadau eraill i’r sefydliad. Yn yr hydref, bydd y Comisiwn yn gwneud penderfyniad ynghylch cwmpas y Bil gyda’r bwriad o ddeddfu i weithredu’r newidiadau hyn cyn etholiad 2021. [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil]

Gwnaeth y Comisiwn benderfyniadau ynghylch tri maes arall a gynhwyswyd yn yr ymgynghoriad:

  • Y cwestiwn ynghylch ein rhwymedigaethau hawliau dynol o dan gyfraith ryngwladol mewn cysylltiad â chaniatáu i garcharorion bleidleisio. Mae’r materion cyfreithiol, moesegol, democrataidd ac ymarferol, a’r materion o ran hawliau dynol, sy’n gysylltiedig â rhoi’r bleidlais i garcharorion yn gofyn am ystyriaeth fanwl a phenderfyniad gwleidyddol. Mae’r Comisiwn o’r farn bod angen gwneud mwy o waith yn y maes hwn i ystyried tystiolaeth bellach, ac mae angen rhagor o amser nag sydd ganddo i allu rhoi ystyriaeth iawn i’r dystiolaeth honno a’i chynnwys yn neddfwriaeth y Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn gwahodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ystyried cynnal ymchwiliad i archwilio’r mater a ddylai carcharorion o Gymru gael pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.
  • hawliau pleidleisio dinasyddion yr UE. Mae etholfraint y Cynulliad ar hyn o bryd yn rhoi’r bleidlais i ddinasyddion y Gymanwlad, dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon neu ddinesydd perthnasol o’r Undeb Ewropeaidd. Er nad oes eglurder eto o ran manylion bargen Brexit mewn perthynas â hawliau pleidleisio dinasyddion yr UE, mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn gwarchod hawl dinasyddion yr UE i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol ar ôl y diwrnod gadael. Felly, mae Comisiwn y Cynulliad yn fodlon nad oes angen dim camau pellach ar hyn o bryd i warchod hawl dinasyddion yr UE i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad, ond fe fydd yn monitro’r sefyllfa o hyd.
  • Roedd y Panel Arbenigol hefyd yn argymell caniatáu i unigolion sefyll ar gyfer etholiad ar sail rhannu swydd. Dywedodd y Llywydd, heblaw am y ffaith nad oedd cefnogaeth eang i’r syniad, roedd y cyngor cyfreithiol a gafodd yn bwrw amheuaeth ar gymhwysedd y Cynulliad hwn i wneud y newidiadau sydd eu hangen i weithredu’r polisi hwn yn effeithiol, yn enwedig o ran caniatáu i Aelod sy’n rhannu swydd ddod yn Weinidog neu’n Ysgrifennydd Cabinet. Daeth i’r casgliad y byddai ganddi “amheuon cryf ynghylch cyflwyno system a oedd yn creu dwy haen o Aelodau’r Cynulliad.”

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru