Brexit Gadael yr Undeb Ewropeaidd Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: Iechyd

Dyma’r erthygl ddiweddaraf mewn cyfres o erthyglau sy’n edrych ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol (PDF, 748 KB). I gael trosolwg cyffredinol o’r cynigion, darllenwch ein blog blaenorol.

07 Awst 2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma’r erthygl ddiweddaraf mewn cyfres o erthyglau sy’n edrych ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol (PDF, 748 KB). I gael trosolwg cyffredinol o’r cynigion, darllenwch ein blog blaenorol.

Mae’r erthygl hon yn edrych yn benodol ar elfennau’r Papur Gwyn sydd fwyaf perthnasol i faes iechyd.

Gweithlu

Mae papur polisi Llywodraeth Cymru, Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl, yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn ddibynnol ar weithwyr o’r UE ar bob lefel. Mae Fforwm Polisi Cydffederasiwn GIG Cymru (PDF, 625.7KB) yn datgan bod 1,462 o unigolion a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru (sef 1.6 y cant o’r gweithlu cyfan) wedi nodi ym mis Ebrill 2018 eu bod yn wladolion yr UE.

This might not seem much but it includes a significant number of trained, qualified and dedicated staff who could not be replaced in the short term – for example, 6.2% of medical and dental professionals working in the Welsh NHS identify as EU nationals.

Mae’r sefyllfa o ran y gweithlu gofal cymdeithasol yn peri pryder difrifol, ac mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn y sector iechyd a’r sector gofal wedi tynnu sylw at y sefyllfa hon. Er bod diffyg data cadarn ynghylch cyfansoddiad y gweithlu hwn, gwyddom fod nifer y gwladolion yn yr UE sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn llawer uwch na’r nifer sy’n gweithio yn y GIG.

Mae Cydffederasiwn GIG Cymru wedi dweud mai’r flaenoriaeth, yn dilyn Brexit, ddylai fod sicrhau y gall y DU barhau i recriwtio a chadw’r staff iechyd a gofal cymdeithasol y bydd eu hangen arni yn ddirfawr o’r UE a thu hwnt, ynghyd â chynyddu’r cyflenwad o weithwyr domestig hefyd drwy gynllunio gweithlu cadarn. Rhaid i unrhyw reolau ar fewnfudo yn y DU yn y dyfodol gydnabod statws y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel sector blaenoriaeth mewn perthynas â recriwtio o dramor.

Beth y mae’r Papur Gwyn yn ei ddweud?

Fel y nodir yn y Papur Gwyn, bydd y drefn symudiad rhydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Bydd fframwaith symudedd newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021, a bydd y fframwaith hwnnw’n nodi sut y gall unigolion o’r UE a mannau eraill wneud cais i weithio yn y DU.

  • Bydd y DU yn ceisio sicrhau trefniadau symudedd cyfatebol gyda’r UE, gan gynnwys hwyluso symudedd ymhlith myfyrwyr a phobl ifanc, a hynny er mwyn sicrhau y gallant barhau i elwa ar y profiad o ymgysylltu â phrifysgolion sy’n arwain y byd a’r profiadau diwylliannol sydd gan y DU a’r UE i’w cynnig.
  • Mae’n cynnig system o gyd-gydnabod cymwysterau proffesiynol.
  • Bydd hawliau presennol gweithwyr o dan gyfraith yr UE yn parhau i fodoli yng nghyfraith y DU ar y dyddiad ymadael.

Gofal iechyd cyfatebol

Mae Cynghrair Iechyd Brexit (sy’n dwyn ynghyd y GIG, sefydliadau ymchwil feddygol, diwydiant, cleifion a sefydliadau iechyd y cyhoedd) wedi galw am fynediad syml a phriodol at ofal iechyd cyfatebol ar gyfer cleifion y DU a’r UE, yn ddelfrydol drwy ddiogelu’r trefniadau sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd, gall trigolion gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir gael triniaeth feddygol angenrheidiol yn ystod arhosiad dros dro mewn un o wledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir drwy ddefnyddio’r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd. Yn ogystal, mae yna drefniadau sy’n caniatáu i drigolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd deithio i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd er mwyn cael gofal iechyd a gynlluniwyd (llwybr Cyfarwyddeb yr UE a’r cynllun S2), ac sy’n caniatáu i bensiynwyr sy’n ymgartrefu mewn gwlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn y wlad honno ar yr un telerau â thrigolion cyffredin (cynllun S1). Mae rhagor o wybodaeth am y trefniadau cyfredol i’w gweld yn y blog a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth 2017, sef Gofal iechyd trawsffiniol – cleifion o dramor.

Beth y mae’r Papur Gwyn yn ei ddweud?

Mae Llywodraeth y DU am i wladolion y DU a’r UE barhau i allu defnyddio’r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd i gael mynediad at ofal iechyd os bydd yr angen hwnnw’n codi wrth iddynt ymweld â gwlad arall yn yr UE. Yn ogystal â pharhau i gymryd rhan yn y cynllun EHIC, mae’r Papur Gwyn hefyd yn arddel sicrhau trefniadau gofal iechyd cyfatebol ar gyfer pensiynwyr y wladwriaeth sy’n ymddeol i’r UE neu’r DU, a chydweithredu mewn perthynas ag unrhyw driniaeth feddygol arfaethedig. Yn ôl y Papur Gwyn, byddai hyn yn cael ei gefnogi gan unrhyw ofynion angenrheidiol o ran cydweithredu gweinyddol a rhannu data.

Diogelwch iechyd/iechyd y cyhoedd

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018 gan Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, sef Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol (PDF, 9MB), yn nodi’r ffaith y byddai aelodaeth barhaus y Deyrnas Unedig o asiantaethau sy’n ymwneud â maes atal afiechydon ac iechyd y cyhoedd yn Ewrop, a/neu ei chyfranogiad ynddynt, yn ddiamwys yn fuddiol i’r holl bartïon dan sylw. Mae Fforwm Polisi Cydffederasiwn GIG Cymru hefyd wedi pwysleisio’r ffaith y bydd gwaith cydlynu cryf rhwng y DU a’r UE yn hanfodol o ran diogelu iechyd y cyhoedd:

To ensure that public health for all EU and UK citizens is maintained post-Brexit, it is key that there is strong co-ordination between the EU and UK to deal with pandemics, communicable diseases, influenza outbreaks, infectious diseases and antimicrobial resistance. We must also seek the highest possible level of co-ordination on health promotion and disease prevention programmes.

Beth y mae’r Papur Gwyn yn ei ddweud?

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig cydweithredu parhaus ac agos gydag asiantaethau’r UE at ddibenion mynd i’r afael â bygythiadau iechyd y cyhoedd, gan gynnwys cydweithredu â’r cyrff a ganlyn:

  • y Pwyllgor Diogelwch Iechyd a chyrff fel y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau, gan gynnwys mynediad at yr holl systemau rhybuddio cysylltiedig, cronfeydd data a rhwydweithiau, a hynny er mwyn caniatáu i’r DU ac Aelod-wladwriaethau’r UE gydlynu eu hymatebion cenedlaethol;
  • Canolfan Monitro Cyffuriau a Chaethiwed i Gyffuriau Ewrop (EMCDDA), a hynny er mwyn mynd i’r afael â’r niwed sy’n cael ei achosi gan gyffuriau anghyfreithlon;
  • rhwydweithiau goruchwylio labordy Ewrop, a hynny er mwyn monitro lledaeniad clefydau ar draws Ewrop;
  • yr UE a’r gweinyddiaethau datganoledig yn y meysydd hyn, gan gynnwys rhannu gwybodaeth yn uniongyrchol â’r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau, a chaniatáu i’r Labordai Cyfeirio Microbioleg yng Nglasgow, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i ddarparu hyfforddiant Ewropeaidd ym maes microbioleg iechyd cyhoeddus (EUPHEM).

Materion eraill:

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnwys cynigion sy’n ymwneud â’r materion a ganlyn:

  • Cyfranogiad y DU yn Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop. Mae’r Asiantaeth yn gyfrifol am wneud gwaith gwerthuso gwyddonol, goruchwylio a monitro diogelwch mewn perthynas â meddyginiaethau yn yr UE.
  • Cynnal cadwyni cyflenwi integredig, a hynny er mwyn osgoi oedi o ran y drefn dollau a rheoleiddio ar ffiniau (mae hyn yn berthnasol i’r cyflenwad o feddyginiaethau a chynhyrchion gofal iechyd eraill).
  • Cyfranogiad parhaus yn y Rhwydweithiau Cyfeirio Ewropeaidd (mae’r rhain yn cefnogi’r broses o rannu gwybodaeth a chydweithio mewn perthynas â chlefydau cymhleth neu brin), a Horizon Europe (rhaglen yr UE ar gyfer cyllido ymchwil ar ôl 2020).

Ymateb rhanddeiliaid

Yn gyffredinol, mae rhanddeiliaid yn gefnogol o’r cynigion yn y Papur Gwyn sy’n ymwneud ag amddiffyn iechyd a gwasanaethau iechyd. Er ei bod yn croesawu uchelgais Llywodraeth y DU, mae Cynghrair Iechyd Brexit yn rhybuddio:

We should be under no illusions of the consequences for patients if we fail to plan properly and do not reach a good agreement. That could result in a significant threat to the health of both UK and EU citizens.

Planning is underway at the centre of government, but it will be important for the sake of patients that NHS hospitals, clinics and community services are all prepared for every possible scenario.


Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru