Brexit Cyfansoddiad

Fforwm rhyngseneddol ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd i gwrdd yn y Cynulliad

Ar 25 Hydref 2018 cynhaliwyd cyfarfod o’r Fforwm Rhyngseneddol ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ("Y Fforwm") yn y Cynulliad. Sefydlwyd y Fforwm ym mis Hydref 2017. Mae’n cynnwys Cadeiryddion, cynullyddion a chynrychiolwyr pwyllgorau sy’n craffu ar faterion yn ymwneud â gadael yr UE yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, ac maent yn dod ynghyd i drafod a chraffu ar y trefniadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae swyddogion o Gynulliad Gogledd Iwerddon yn dod i’r cyfarfodydd fel sylwedyddion ar hyn o bryd. Mae’r datganiad a gyhoeddwyd yn dilyn y cyfarfod diweddaraf a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2018 i’w weld yma.

23 Hydref 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyflwyniad

Ar 25 Hydref 2018 cynhaliwyd cyfarfod o’r Fforwm Rhyngseneddol ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (“Y Fforwm”) yn y Cynulliad. Sefydlwyd y Fforwm ym mis Hydref 2017. Mae’n cynnwys Cadeiryddion, cynullyddion a chynrychiolwyr pwyllgorau sy’n craffu ar faterion yn ymwneud â gadael yr UE yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru,  Senedd yr Alban, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, ac maent yn dod ynghyd i drafod a chraffu ar y trefniadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae swyddogion o Gynulliad Gogledd Iwerddon yn dod i’r cyfarfodydd fel sylwedyddion ar hyn o bryd. Mae’r datganiad a gyhoeddwyd yn dilyn y cyfarfod diweddaraf a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2018 i’w weld yma.

Ers cyfarfod diwethaf y Fforwm, mae Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin (PACAC) wedi cyhoeddi ei adroddiad, sef Devolution and Exiting the EU: reconciling differences and building strong relationships, a hynny ym mis Gorffennaf 2018.

Mae’r adroddiad yn gwahodd Clercod y seneddau a’r cynulliadau i roi cyfarwyddyd i swyddogion seneddol baratoi cynnig ar y cyd i sefydlu corff rhyngseneddol i graffu ar Fframweithiau Cyffredin y Deyrnas Unedig (trafodir isod). Dylai’r cynigion hyn fynd i’r afael â materion fel maint a chyfansoddiad y corff, pa mor aml y dylai gyfarfod, beth yw ei brif amcanion a’i gylch gorchwyl a beth fyddai cost bosibl y corff. Mae’n awgrymu y dylid cyflwyno’r cynigion gerbron y Fforwm a fyddai wedyn yn ceisio cymeradwyaeth y Llefaryddion a Llywyddion Seneddau’r DU.

Mae adroddiad Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad, sef Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn gwneud argymhellion tebyg (argymhellion 5-8) o ran gweithio’n rhyngseneddol. Fodd bynnag, mae’n sôn yn benodol am Gynhadledd y Llefaryddion ac mae ei gylch gorchwyl yn fwy cyffredinol na’r pwyslais y mae Adroddiad y PACAC yn ei roi ar Fframweithiau Cyffredin.

Ymchwiliad PACAC

Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar bedwar prif faes:

  • Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael);
  • y mecanweithiau hirdymor y dylid eu rhoi ar waith i arfer a dosbarthu pŵer ac awdurdod llywodraethol ledled y DU;
  • dyfodol hirdymor datganoli yn nhrefniadau cyfansoddiadol y DU; a
  • sut y gellid creu a chynnal ymddiriedaeth a chydweithrediad ymhlith llywodraethau a deddfwrfeydd y DU.

Argymhellodd yr Adroddiad y dylai Llywodraeth y DU gyhoeddi Polisi Datganoli ar gyfer yr Undeb. Dylid cyhoeddi dogfen sy’n cyflwyno Polisi Datganoli’r Llywodraeth ar gyfer yr Undeb ar ddechrau pob Senedd. Hefyd:

This policy should outline where the constitutional architecture of devolution needs to be buttressed or amended and should, where necessary, provide justification for asymmetry within the devolution settlement. While we accept that asymmetry may be necessary and even preferable within the UK context, the Government should explicitly recognise and be held accountable for representational and institutional asymmetries within the UK political system.

Mae’r Adroddiad yn datgan bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod bod y model cadw pwerau ar gyfer datganoli yn golygu bod pwerau’n cael eu datganoli’n ddiofyn ac nad ydynt yn cael eu rhoi i’r sefydliadau datganoledig gan Senedd y DU. Dylid esbonio hyn yn yr eitem gyntaf mewn Memorandwm cyd-ddealltwriaeth ehangach ar ddatganoli.

Gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion ynglŷn â chydweithio yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fframweithiau Cyffredin

Bydd Fframweithiau Cyffredin, pan fo cymwyseddau dros fater penodol wedi’u datganoli a bod angen, gan hynny, i Whitehall a’r llywodraethau datganoledig gytuno ar bolisi, yn elfen bwysig o’r bensaernïaeth gyfansoddiadol unwaith y bydd y DU wedi gadael yr UE. Nododd yr Adroddiad fod cytundeb cyffredinol fod angen sefydlu Fframweithiau Cyffredin, a’u bod yn bwysig.

Fodd bynnag, yn yr Adroddiad, roedd pryder am y ffaith nad oes gan Lywodraeth y DU strategaeth neu bolisi cyffredin ynghylch sut y dylai Fframweithiau Cyffredin weithredu, a’i bod, yn hytrach, yn caniatáu i  adrannau gwahanol yn Whitehall  ddatblygu eu strategaethau a’u modelau eu hunain. O ganlyniad, mae perygl y gellid datblygu set o Fframweithiau gwahanol heb unrhyw resymeg weithredol gyson neu gydlynol.

Mae’n argymell y dylai Llywodraeth y DU geisio datblygu polisi cydlynol ar gyfer sefydlu, gweithredu a monitro Fframweithiau Cyffredin, sy’n cydnabod yr angen i seneddau graffu ar y fframweithiau hyn. Dylai Llywodraeth y DU bennu set glir o egwyddorion ar gyfer llywodraethu a gweithredu Fframweithiau Cyffredin yn ei Hymateb i’r Adroddiad.

Mae’r Adroddiad yn nodi’r ddarpariaeth ‘machlud’ a fydd yn parhau am gyfnod o bum mlynedd mewn perthynas â Fframweithiau’r UE a gaiff eu rhewi. Mae’n argymell y dylai’r systemau newydd ar gyfer trafod, cytuno, monitro a diwygio Fframweithiau Cyffredin gael eu sefydlu cyn gynted ag y bo modd fel y byddant yn gwbl weithredol cyn i’r cyfnod o bum mlynedd ddod i ben. Yn y tymor byr, mae’n argymell y dylid naill ai sefydlu Cydbwyllgor Gweinidogion ar gyfer Fframweithiau Cyffredin neu sefydlu Cyd-bwyllgorau Gweinidogion unigol ar gyfer adrannau penodol er mwyn adeiladu ar y profiad o wneud penderfyniadau ar y cyd.

Agwedd Whitehall tuag at ddatganoli

Mae’r Adroddiad yn dweud bod y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r ymchwiliad yn dangos bod Whitehall yn dal i weithredu’n helaeth ar sail strwythur a diwylliant nad yw’n rhoi fawr o sylw i realiti datganoli yn y DU. Mae’n argymell darparu hyfforddiant ychwanegol i staff pob adran.

Mae’n argymell y dylai Llywodraeth y DU, yn ystod y flwyddyn ar ôl i’r DU adael yr UE, gynnal adolygiad systematig  o’r modd y mae Whitehall wedi’i strwythuro a sut y mae’n ymwneud â’r Llywodraethau datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Dylai’r adolygiad hwn hefyd ystyried a yw rôl y swyddfeydd tiriogaethol yn Whitehall a’r Ysgrifenyddion Gwladol cyfatebol yn dal yn angenrheidiol ac, os felly, a ellid eu diwygio i hyrwyddo cysylltiadau gwell ar draws Whitehall â’r Llywodraethau datganoledig.

Ym mis Ebrill 2018, ysgrifennodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Gweinidog dros y Cyfansoddiad ynglŷn â’i adroddiad ar lywodraethu yn y DU ar ôl Brexit. Nododd yr adroddiad bod llawer o dystion yn ystod yr ymchwiliad wedi amlygu pa mor wael yw gwybodaeth a dealltwriaeth am ddatganoli mewn rhannau o Whitehall, er gwaethaf ymdrechion i unioni’r sefyllfa gan lywodraethau olynol. Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Gweinidog dros y Cyfansoddiad ymateb ar y cyd i’r Pwyllgor ym mis Mai 2018.

Cysylltiadau rhynglywodraethol: y rhan goll o’r broses datganoli?

Yn ôl yr Adroddiad, unwaith y bydd y DU wedi gadael yr UE, ac y caiff Fframweithiau Cyffredin y Deyrnas Unedig eu sefydlu, ni fydd y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy gan nad oes sefydliadau rhynglywodraethol i ennyn ymddiriedaeth a chydsyniad rhwng y gwahanol lywodraethau. Mae’r Adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth y DU, ar y cyd â’r Llywodraethau datganoledig, ddatblygu peirianwaith rhynglywodraethol newydd a sicrhau bod iddo sylfaen statudol.

Yn ddelfrydol, dylai’r peirianwaith rhynglywodraethol newydd sy’n deillio o’r newidiadau hyn gael ysgrifenyddiaeth annibynnol i drefnu cyfarfodydd rhynglywodraethol.

Mae’r Adroddiad yn cynnwys tystiolaeth sy’n dangos mai’r JMC(E) yw’r ffurf fwyaf llwyddiannus ac effeithiol o’r JMC. Mae’n bwysig bod diben clir i’r mecanweithiau sydd ar waith i hybu cysylltiadau rhynglywodraethol ac nid dim ond systemau i ymdrin ag anghydfod sydd ar gael. Dylid cytuno ar Fframweithiau Cyffredin drwy gonsensws, os yw’n bosibl ac, os nad oes modd cael consensws, dylai pob llywodraeth esbonio pam wrth eu deddfwrfeydd penodol.

Mae’r argymhellion hyn yn cyd-fynd ag Argymhellion 1, 2 a 3 yn adroddiad Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad (CLAC), Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Gwaith craffu rhyngseneddol

Mae’r Adroddiad yn argymell y dylai llywodraethau’r DU gefnogi newidiadau i’r Rheolau Sefydlog er mwyn medru ymgymryd â gwaith craffu effeithiol a, lle bo angen, dylent gyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu i bwyllgorau seneddau a chynulliadau’r DU gyfarfod ar y cyd a sefydlu pwyllgorau rhyngseneddol. Er mwyn ei gwneud yn haws gweithio ar y cyd, dylai aelodau’r pwyllgorau gael pasys seneddol sy’n rhoi mynediad i bob ystâd seneddol i hwyluso’u cyfarfodydd.


Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru