Cymunedau Tai

Diogelwch tân mewn adeiladau aml-lawr

Ar 16 Ionawr 2019, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Tân mewn Adeiladau Uchel Iawn (sector preifat)

14 Ionawr 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 16 Ionawr 2019, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Tân mewn Adeiladau Uchel Iawn (sector preifat) (PDF,612KB).

Collodd saith deg dau o bobl eu bywydau yn y tân a ddinistriodd Tŵr Grenfell yn ystod oriau mân y bore ar 14 Mehefin 2017.  Ni ellir gorbwysleisio’r effaith a gafodd y tân ar y rhai a lwyddodd i ddianc rhagddo, y rhai a gollodd anwyliaid a’r gymuned ehangach.  Ni laddwyd cynifer mewn tân yn y Deyrnas Unedig ers trychineb Piper Alpha ym 1988.  Roedd y ffaith bod trychineb o’r maint hwn wedi digwydd yn Llundain yn ddychryn i lawer a bu’n rhaid ystyried adeiladau uchel iawn eraill sydd i’w cael ar hyd a lled y wlad; nid dim ond o ran diogelwch y modd rydym yn dylunio, yn adeiladu ac yn rheoli adeiladau preswyl uchel iawn, ond hefyd sut rydym yn parchu ac yn gwrando ar sylwadau’r rhai sy’n byw yn yr adeiladau hyn.

Yn fuan wedi’r tân, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU y byddai ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yn cael ei gynnal, ac mae hwn yn parhau. Nod yr ymchwiliad yw darganfod y ffeithiau a bydd yn gwneud argymhellion ynghylch y camau y bydd angen eu cymryd i sicrhau na fydd trychineb tebyg yn digwydd eto. Yn ogystal â hyn, penodwyd y Fonesig Judith Hackitt gan Lywodraeth y DU i ymgymryd ag adolygiad o’r rheoliadau adeiladu a diogelwch tân. Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Fonesig Judith Hackitt ym mis Mai 2018. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymryd amrywiaeth eang o gamau, gan gynnwys sefydlu Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân ac yna Grŵp Arbenigol Diogelwch Adeiladau. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn rhoi rhestr o gwestiynau cyffredin yn ymwneud â’r hyn y mae wedi’i wneud yn dilyn y tân.

Yn fuan wedi’r tân, penderfynodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau gynnal ei ymchwiliad ei hun i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn yng Nghymru.  Cafodd dystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan ganolbwyntio i ddechrau ar dai cymdeithasol. Clywodd y Pwyllgor fod landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, y Gwasanaeth Tân ac Achub a Llywodraeth Cymru wedi ceisio lleddfu pryderon trigolion ar unwaith a’u bod wedi cymryd camau i sicrhau bod adeiladau’n ddiogel. Fodd bynnag, tynnwyd sylw Llywodraeth Cymru at nifer o bryderon, gan gynnwys effeithiolrwydd Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005 (neu’r Gorchymyn Diogelwch Tân) asgiliau a chymwysterau’r rhai sy’n cynnal asesiadau mewn perthynas â diogelwch tân.

Ar ôl y gwaith cychwynnol hwn, yn hydref 2018 aeth y Pwyllgor ati i gynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn canolbwyntio ar adeiladau’r sector preifat. Yn ei adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018, gwnaeth y Pwyllgor 14 o argymhellion. Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru (PDF, 493KB)  i adroddiad y Pwyllgor ym mis Ionawr 2019. Derbyniwyd wyth argymhelliad yn llawn, a phump mewn egwyddor. Dim ond un argymhelliad, i ganiatáu dim ond adrannau rheoli adeiladu awdurdodau lleol weithredu fel rheolydd adeiladau preswyl uchel iawn, gafodd ei wrthod.

Galwodd y Pwyllgor ar y Llywodraeth i gymryd camau i reoleiddio asiantiaid sy’n rheoli adeiladau preswyl uchel iawn. Wrth dderbyn yr argymhelliad hwn, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru y gwaith ehangach sy’n mynd rhagddo ym maes diwygio prydlesi a’r cynlluniau i fabwysiadu Cod Rheoli Taliadau Gwasanaethau Preswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

Derbyniwyd argymhellion hefyd yn ymwneud â drysau tân, ac i  sicrhau bod y Gwasanaethau Tân ac Achub yn rhan o’r broses gychwynnol o gynllunio’r adeiladau a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid disodli’r Gorchymyn Diogelwch Tân yn ystod tymor presennol y Cynulliad.  Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor a chytunodd Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (sy’n awr yn gyfrifol am faterion diogelwch adeiladu) fod angen “ei ddiwygio’n sylweddol neu ei ddisodli.”  Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog y “… bydd angen darn, neu ddarnau, sylweddol o ddeddfwriaeth sylfaenol. Bydd hyn yn cymryd amser a dwys ystyriaeth er mwyn sicrhau bod system newydd ar gyfer diogelwch adeiladau yn glir, yn gydlynol, yn ymarferol ac yn effeithiol.” Dywedodd y Gweinidog y gallai hyn olygu na fydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Hefyd, trafododd y Pwyllgor y pryderon ynghylch pwy fyddai’n talu am unrhyw waith adfer mewn adeiladau uchel iawn yn y sector preifat, fel gosod cladin gwahanol neu osod larymau tân. Roedd y Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru  barhau i gydweithio â Llywodraeth y DU i drafod unrhyw ddulliau cyffredin o weithredu y gellid eu mabwysiadau i fynd i’r afael â phryderon ynglŷn â chost unrhyw waith adfer ac ynglŷn ag atebolrwydd lesddeiliaid am y gost. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn a nododd mai datblygwyr neu berchnogion adeiladu, yn hytrach na phrydleswyr unigol, sydd wedi bod yn talu am dynnu cladin o ddeunydd Cyfansawdd Alwminiwm.

Bydd y Pwyllgor yn parhau i gadw llygad barcud ar sut mae’r argymhellion yn cael eu gweithredu, a gyda chymaint o ddiddordeb yn y mater ymysg y cyhoedd, mae hi’n debygol iawn y  bydd mwy o drafod ar y mater hwn yn y Cynulliad yn ystod 2019.


Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru