Economi

A yw Cymru 5G yn barod?

Ar ddydd Mercher, 20 Mawrth, bydd Aelodau Cynulliad yn trafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gynllun Gweithredu Ffonau Symudol Llywodraeth Cymru. Mae’r erthygl hon yn rhoi gwybodaeth gefndirol berthnasol cyn y drafodaeth honno.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

18 Mawrth 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar ddydd Mercher, 20 Mawrth, bydd Aelodau Cynulliad yn trafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gynllun Gweithredu Ffonau Symudol Llywodraeth Cymru. Mae’r erthygl hon yn rhoi gwybodaeth gefndirol berthnasol cyn y drafodaeth honno. 

5G yw’r genhedlaeth nesaf o dechnoleg symudol. Disgwylir y bydd yn darparu band eang symudol cyflymach a gwell, ac i alluogi defnyddiau chwyldroadol mewn sectorau fel gweithgynhyrchu, trafnidiaeth a gofal iechyd. Ond mae 5G yn annhebygol o ymestyn signal rhwydweithiau symudol. Er bod y sgwrs yn troi at 5G a’r posibiliadau a gynigir ganddo, mae darpariaeth 4G yng Nghymru yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU, ac mae dadl ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i’w helpu i ddal i fyny.

Beth yw 5G?

Ers yr 1980au, mae cenhedlaeth newydd o dechnoleg symudol wedi ymddangos yn fras bob degawd, gan drawsnewid yr hyn y gall cyfathrebu symudol ei wneud.

Bydd y trawsnewid o 4G i 5G yn achosi cynnydd enfawr yng ngallu rhwydweithiau, gan gynyddu cyflymder a sefydlogrwydd cysylltiadau symudol.  Disgwylir i’r symudiad hwn arwain at lu o dechnolegau newydd, gyda rhaglenni chwyldroadol posibl lle mae technoleg arloesol (fel roboteg) yn cwrdd â’r rhwydwaith 5G. Mae 5G yn addo ddim llawer o oedi (“low latency”)  – hynny yw, yr amser rhwng y caiff gweithred ei chyflawni (fel clicio linc fideo) a’r ymateb yn digwydd (y fideo yn chwarae) – sy’n newyddion da i lawdriniaethau o bell a cheir heb yrwyr.

Ym mis Hydref 2018, lansiodd y gweithredwr rhwydwaith symudol EE y treial 5G byw cyntaf yn Canary Wharf. Nid oes angen pasio unrhyw gyfreithiau yn benodol er mwyn galluogi cyflwyno 5G: fel gydag ailadrodd technoleg symudol yn flaenorol, disgwylir i gwmnïau telathrebu fuddsoddi mewn technoleg newydd yn seiliedig ar benderfyniadau masnachol.

Mae Ofcom, y rheoleiddiwr telathrebu, wedi cyhoeddi adroddiad – Galluogi 5G yn y DU – sy’n edrych ar y camau y bydd yn cymryd i alluogi cyflwyno 5G:

  • sicrhau bod sbectrwm (hynny yw, yr ystod o amleddau lle gellir trosglwyddo telathrebu) ar gael ar gyfer 5G a gwasanaethau di-wifr eraill;
  • gweithio gyda’r Llywodraeth a llunwyr polisi i sicrhau nad yw safleoedd yn rhwystr i 5G;
  • sicrhau mynediad i gysylltedd priodol rhwng gorsafoedd 5G a’r rhwydwaith craidd (a elwir hefyd yn ôl-gludo);
  • sicrhau nad yw rheoleiddio niwtraliaeth net yn rhwystr i gyflwyno; a
  • gweithredu fel hwylusydd, gan weithio gyda’r Llywodraeth, sectorau diwydiant gwahanol a gwledydd eraill i deall rhaglenni 5G posibl ymhellach.

Bydd cyflwyno 5G yn cynyddu’r hyn y gellir ei wneud dros rwydweithiau symudol, ond ni fydd, ei hun, yn cynyddu cyrhaeddiad y rhwydweithiau hyn. Mae’r data diweddaraf gan Ofcom yn dangos, ar draws bron pob un o’r prif ddangosyddion, bod signal ffonau symudol yng Nghymru yn llusgo y tu ôl i gyfartaledd y DU.

Beth gellir ei wneud i helpu Cymru i ddal i fyny?

Ers 2017, mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Ffonau Symudol. Mae’n canolbwyntio ar sut y bydd yn defnyddio ei phwerau datganoledig – fel y system gynllunio a’r rhyddhad ardrethi busnes – i ysgogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau symudol.

Cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad adroddiad yn ddiweddar i weithredoedd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Er bod signal ffonau symudol wedi cynyddu yng Nghymru wers 2017, dywedodd y Pwyllgor fod rôl y chwaraeodd y Cynllun Gweithredu yn y gwelliant hwn yn “aneglur”. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei hysgogiadau datganoledig “i droi’r fantol o ran hyfywedd masnachol tuag at fwy o fuddsoddiad mewn rhai ardaloedd”.

Un o’r argymhellion allweddol yn yr adroddiad oedd y dylai Llywodraeth Cymru ganiatáu mastiau uwch o dan y gyfundrefn gynllunio a ganiateir. Mae datblygiad a ganiateir yn caniatáu i rai datblygiadau – fel mastiau adeiladu – gael eu codi heb orfod mynd drwy broses cais cynllunio llawn.

Mae’r gyfundrefn hon yn fwy goddefgar ar hyn o bryd yn Lloegr a’r Alban nag y mae yng Nghymru. Nid yw hynny’n golygu na ellir adeiladu mastiau sy’n uwch na’r rhai a ganiateir o dan ddatblygiad a ganiateir yng Nghymru: ond bod rhaid iddynt fynd drwy broses gynllunio fwy trylwyr.

Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gynyddu uchder mastiau a fydd yn cael eu caniatáu o dan ddatblygiad a ganiateir, er mwyn eu gwneud yn unol â gweddill Prydain. Pan fydd y newidiadau arfaethedig hyn yn dod i rym ym mis Ebrill, bydd gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn gallu defnyddio mastiau mwy yn rhatach.

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud Cymru yn barod ar gyfer 5G?

Gobeithio y bydd y newid cynllunio hwn yn gwella’r ddarpariaeth symudol yng nghefn gwlad Cymru. Ond, mae’n annhebygol y bydd o gymorth uniongyrchol i gyflwyno 5G, gan fod rhwydweithiau 5G yn debygol o gael eu defnyddio mewn gorsafoedd bach yn cael eu defnyddio, gan wneud uchder y mast yn llai o broblem. 

Bydd defnyddio 5G yn arwain at gyfres arall o heriau polisi cyhoeddus – gan gynnwys ceisio cydlynu rhwng y partïon gwahanol – o awdurdodau lleol i siopau, perchnogion eiddo a chyfleustodau – sy’n berchen ar yr asedau y mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol am ddefnyddio eu lleoliadau i osod eu hoffer arnynt.

Mewn ymchwiliad blaenorol, ymchwiliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i barodrwydd Cymru ar gyfer y “bedwaredd chwyldro diwydiannol”, gan y rhagwelir y bydd technoleg newydd – fel rhwydweithiau awtomeiddio a 5G – yn trawsnewid natur yr economi.

Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu asiantaeth twf busnes digidol Innovation Point “i roi cyngor ar gyfleoedd o ran y dechnoleg 5G sy’n dod i’r amlwg a’i hysgogi a manteisio arni”. Mae Innovation Point wedi sefydlu grŵp cynghori arbenigol i “helpu i baratoi a llunio rhaglen 5G genedlaethol gydlynol”.

Un peth clir o gyflwyno iteriadau blaenorol technoleg symudol yw, wrth i dechnoleg fynd yn ei blaen, mae bylchau yn y signal yn parhau – rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU, a rhwng ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru. Bydd angen ymyrraeth gyhoeddus – ar lefel Cymru a’r DU – os nad yw Cymru am syrthio ymhellach ar ôl wrth i rwydweithiau 5G ddod i’r amlwg.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru