Addysg Cymru

Hanes Cymru – sut mae’n cael ei gynrychioli yn y cwricwlwm?

Ar 19 Mehefin 2019, bydd y Cyfarfod Llawn yn trafod y cynnig, a gyflwynwyd gan Sian Gwenllian AC, ‘i gynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei addysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahan’.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

17 Mehefin 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 19 Mehefin 2019, bydd y Cyfarfod Llawn yn trafod y cynnig, a gyflwynwyd gan Sian Gwenllian AC, ‘i gynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei addysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahan’.

Cynnwys y cwricwlwm

Ar hyn o bryd, mae hanes yn bwnc sylfaen o fewn y cwricwlwm cenedlaethol. Mae Rhaglen Astudio Hanes (PDF 155KB) Llywodraeth Cymru (Ionawr 2008) yn nodi’r gofynion cyfredol ar gyfer hanes yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3. Y tu hwnt i Gyfnod Allweddol 3, mae CBAC wedi cyhoeddi manylebau ar gyfer hanes ar lefel TGAU aSafon UG/Safon Uwch. Cyflwynwyd y rhain i’w haddysgu gyntaf yn 2017 a 2015 yn y drefn honno. 

Grŵp Gorchwyl a Gorffen

Ym mis Hydref 2012, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, Leighton Andrews bod yr amser yn iawn i edrych eto ar le hanes Cymru o fewn y cwricwlwm hanes.  Felly, sefydlodd grŵp gorchwyl a gorffen, dan gadeiryddiaeth Dr Elin Jones, i archwilio a thrafod datblygiad y Cwricwlwm Cymreig yn y dyfodol ac addysgu hanes Cymru.  Gwnaeth adroddiad terfynol y grŵp, Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru: Adroddiad terfynol (PDF 154KB) (Medi 2013) ddeuddeg argymhelliad yn ymwneud â’r dimensiwn Cymreig yn natblygiad y cwricwlwm nesaf ac mewn perthynas â’r cwricwlwm hanes yn benodol.

Canfu’r Grŵp fod y rhaglen astudio gyfredol ar gyfer hanes, o’r cychwyn cyntaf (pan gyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr ym 1989) wedi rhoi sylw priodol i hanes lleol a Chymru.  Fodd bynnag:

profiad y tasglu yw bod nifer o ddysgwyr yn ysgolion Cymru yn dysgu mwy am hanes Lloegr nac am hanes eu bro a’u gwlad eu hunain, a hanes ehangach Prydain gyfan. Cred y tasglu hefyd nad oes llawer o sylw yn cael ei roi i wledydd eraill Prydain a bod hefyd tuedd i ganolbwyntio ar ystod cul o bynciau yn hanes Ewrop a’r byd.

Er bod y Grŵp wedi awgrymu nad oeddent am bennu ‘rhaglen astudio ar gyfer hanes Cymru’ yn lle’r rhaglen astudio gyfredol, ond roedd eisiau gweld mwy o gydbwysedd yn yr hyn a ddysgir ac a addysgir mewn ysgolion, fel bod yr elfen Gymreig ganolog yn fwy gweladwy. 

Cwricwlwm newydd

Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddodd Huw Lewis y byddai’r Athro Graham Donaldson yn cynnal adolygiad o’r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru.  Fel rhan o’i adolygiad, ystyriodd yr Athro Donaldson argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

Cyhoeddwyd adolygiad yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus (PDF 2MB) yn 2015.  Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag ysgolion a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd yn cael ei gyflwyno fesul cam o fis Medi 2022.

Cyhoeddwyd fersiwn drafft o’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar 30 Ebrill 2019 ac mae Llywodraeth Cymru yn derbyn adborth cyhoeddus arno tan 19 Gorffennaf 2019 cyn cyhoeddi fersiwn derfynol ym mis Ionawr 2020. Mae rhagor o fanylion am y cwricwlwm newydd i’w gweld yn ein herthygl blog, Y Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022.

Mae gan y cwricwlwm newydd chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) yn hytrach na phynciau unigol ar wahân. Caiff hanes ei addysgu o fewn y MDPh Dyniaethau.  Yn ogystal â hanes, mae’r MDPh Dyniaethau yn cynnwys daearyddiaeth, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol.

Nid yw’r MDPh Dyniaethau drafft yn darparu manylion penodol ynghylch pa ddigwyddiadau mewn hanes y dylid neu sy’n rhaid eu haddysgu. Mae hyn yn bennaf oherwydd bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei yrru gan bwrpas yn hytrach na’i yrru gan gynnwys.  Nid oes ‘rhaglenni astudio’ fel sydd yn y cwricwlwm presennol a bydd llai o ragnodi o’r hyn y mae’n rhaid ei ddysgu.  

Bydd y canllawiau statudol drafft ar bob MDPh yn darparu fframwaith cenedlaethol i ysgolion a gynhelir er mwyn datblygu ac adeiladu ar eu cwricwlwm eu hunain.  Ni fwriedir iddo fod yn ganllaw cynhwysfawr neu’n faes llafur.  Mae’r canllawiau yn nodi’r hyn y dylai ysgolion ei ystyried wrth ddylunio eu cwricwlwm a sut y gellid ei strwythuro a’r disgwyliadau eang ar gyfer dysgwyr ar bob cam dilyniant. 

Mae’r MDPh Dyniaethau drafft yn nodi ei fod yn cefnogi dysgwyr i:

ddatblygu dealltwriaeth o Gymru a datblygu eu hymdeimlad eu hunain o Gymreictod/yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymry.

Mae hefyd yn nodi y ‘dylai ysgolion ac athrawon …  sicrhau eu bod yn dethol cynnwys sy’n

caniatáu i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth drylwyr o’u hardal leol, o Gymru ac o’r byd ehangach.

Yn y disgrifiad o’r hyn y dylai dysgwyr allu ei wneud ar wahanol oedrannau o fewn y cwricwlwm newydd, mae sawl cyfeiriad at:

 canolbwyntio ar fy ardal leol, Cymru a’r byd ehangach yn y gorffennol a’r presennol.

Yn ogystal â’r chwe MDPh, mae gan y cwricwlwm newydd dri chyfrifoldeb traws-gwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol) a hefyd elfennau trawsbynciol, gan gynnwys y ‘dimensiwn Cymreig a’r persbectif rhyngwladol’. Mae’r canllawiau drafft yn nodi:

Mae’r dimensiwn Cymreig a’r persbectif rhyngwladol yn rhan annatod o bob disgyblaeth ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau Dylai ystyriaeth o fusnesau, diwylliannau, hanes, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, crefyddau, cymdeithasau Cymru a bydolygon fod yn rhan ganolog o hawl dysgwyr a chynnwys dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng y rhain a chyd-destunau ehangach cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol.  Drwy’r Dyniaethau, mae dysgwyr yn datblygu ymdeimlad o hunaniaeth, ymdeimlad o’u cynefin eu hunain, a dealltwriaeth o Gymru a’i lle yn y byd ehangach.

Gwaith Pwyllgorau ar hanes Cymru

Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu arolwg cyhoeddus yn ystod haf 2018, gan wahodd aelodau o’r cyhoedd i ddewis o restr o bynciau posibl ar gyfer ymchwiliad. Cymerodd bron i 2,500 o bobl ran yn yr arolwg. Pleidleisiodd 44% o blaid ‘Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion’.  Cynhaliodd y Pwyllgor symposiwm ar gyfer rhanddeiliaid ym mis Chwefror eleni, ac mae’n parhau i gymryd tystiolaeth ar y pwnc hwn.

Mae Pwyllgor Deisebau y Cynulliad Cenedlaethol wedi trafod deiseb Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth. Clywodd y Pwyllgor Deisebau dystiolaeth gan y Deisebydd yn ogystal â Dr Elin Jones, Cadeirydd grŵp gorchwyl a gorffen hanes a hanes Cymru y Cwricwlwm Cymreig, a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau.  Yn sgil y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, caeodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb ym mis Tachwedd 2018.

Yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor Deisebau ym mis Gorffennaf 2017, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

The programmes of study in our current curriculum are quite clear in both key stage 2 and key stage 3 about what we would expect them to be teaching our children, and I believe the changes to the GCSE and A-level courses also place greater emphasis on Welsh history.

Sut i ddilyn y drafodaeth

Mae’r ddadl wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mercher 19 Mehefin 2019. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru