Llywodraeth leol

Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol: ydyn nhw’n cynrychioli y cymunedau maent yn eu gwasanaethu?

Mae penderfyniadau llywodraeth leol yn cael effaith sylweddol ar ein bywydau bob dydd, o'r swm o arian sy'n cael ei wario ar ysgolion a darpariaeth gofal cymdeithasol i ba mor aml y caiff ein biniau eu casglu. Caiff y rheini sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau hyn eu hethol gan eu cymunedau drwy etholiadau llywodraeth leol, a chynhaliwyd yr etholiadau diweddaraf ym mis Mai 2017. I'r etholwyr, byddai'n rhesymol disgwyl bod y rheini sy'n gwneud penderfyniadau ar eu rhan yn adlewyrchu'n fras broffil y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Wedi'r cyfan, nid yw cymunedau'n unffurf, gyda dim ond pobl sy'n debyg o ran ethnigrwydd, oedran neu ryw er enghraifft. Ac eto, mae tystiolaeth yn dangos mai prin y mae proffil y rhai hynny a etholwyd yn adlewyrchu'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Ddydd Mercher 26 Mehefin, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (799KB). Cynhaliodd y Pwyllgor yr ymchwiliad gan ragweld y Bil llywodraeth leol sydd yn yr arfaeth, a hynny er mwyn awgrymu atebion ymarferol i oresgyn rhai o'r amryw rwystrau sy'n atal mwy o amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

24 Mehefin 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae penderfyniadau llywodraeth leol yn cael effaith sylweddol ar ein bywydau bob dydd, o’r swm o arian sy’n cael ei wario ar ysgolion a darpariaeth gofal cymdeithasol i ba mor aml y caiff ein biniau eu casglu. Caiff y rheini sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniadau hyn eu hethol gan eu cymunedau drwy etholiadau llywodraeth leol, a chynhaliwyd yr etholiadau diweddaraf ym mis Mai 2017. I’r etholwyr, byddai’n rhesymol disgwyl bod y rheini sy’n gwneud penderfyniadau ar eu rhan yn adlewyrchu’n fras broffil y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Wedi’r cyfan, nid yw cymunedau’n unffurf, gyda dim ond pobl sy’n debyg o ran ethnigrwydd, oedran neu ryw er enghraifft. Ac eto, mae tystiolaeth yn dangos mai prin y mae proffil y rhai hynny a etholwyd yn adlewyrchu’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

Ddydd Mercher 26 Mehefin, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (799KB). Cynhaliodd y Pwyllgor yr ymchwiliad gan ragweld y Bil llywodraeth leol sydd yn yr arfaeth, a hynny er mwyn awgrymu atebion ymarferol i oresgyn rhai o’r amryw rwystrau sy’n atal mwy o amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

Yn 2014, fe wnaeth adroddiad gan grŵp arbenigol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, Ar ôl pwyso a mesur: Sicrhau Democratiaeth Amrywiol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru (1.07MB) ganfod fod proffil cynghorwyr yn parhau i fod yn wyn, gwrywaidd, ac â oedran o tua 60 ar gyfartaledd. Fe wnaeth awduron yr adroddiad nodi ar y pryd ei bod yn “bwysig felly bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar ein rhan […] yn deall eu cymunedau lleol ac yn gynrychioliadol ohonynt”.

Yn ei ragair i adroddiad yn 2018, Lleisiau Newydd: Sut y gall gwleidyddiaeth Cymru ddechrau adlewyrchu Cymru, mae ERS Cymru yn nodi bod diffyg amrywiaeth ymysg cynrychiolwyr etholedig yn golygu bod perygl o ymddieithrio parhaus oddi wrth y broses ddemocrataidd:

Mae pa mor amrywiol yw’n cynrychiolwyr etholedig yn fater sy’n mynd at wraidd ein democratiaeth. Mae’n hanfodol bwysig bod y bobl sy’n ein cynrychioli yn ein hadlewyrchu’n briodol, boed hynny drwy eu rhywedd, eu hethnigrwydd, eu rhywioldeb, eu hoedran, eu cefndir economaidd-gymdeithasol neu anabledd. Os nad yw pobl yn gweld eu hunain mewn gwleidyddiaeth fodern, yna ni allwn eu beio am gael eu dieithrio a theimlo’n rhwystredig am y ffordd y mae’n eu cynrychioli.

Cynrychiolaeth mewn llywodraeth leol

Nid yw newid cyfansoddiad ein sefydliadau democrataidd, gan eu gwneud yn fwy amrywiol a chynrychioliadol, wedi symud ymlaen mor gyflym ag y byddai llawer wedi gobeithio. Er gwaethaf rhai llwyddiannau cynnar yng Nghymru, fel cynrychiolaeth gyfartal o ran dynion a menywod yn y Cynulliad Cenedlaethol yn 2003, nid oes cynnydd tebyg wedi bod mewn siambrau cynghorau ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae menywod yn cyfrif am tua 28 y cant o aelodau etholedig awdurdodau lleol – 22 y cant oedd y ffigur hwn yn 2004. Ac er gwaethaf peth cynnydd yn nifer y menywod sy’n arweinwyr awdurdodau lleol, dim ond pedwar o’r 22 awdurdod lleol Cymru sy’n cael eu harwain gan fenywod.

Dim ond rhan o’r heriau sydd o’n blaenau yw diffyg cynrychiolaeth gan fenywod ym maes llywodraeth leol. Mae cynyddu cynrychiolaeth ymysg pobl iau, unigolion o’r gymuned BAME a’r gymuned LHDT, unigolion ag anableddau a’r rheini sydd o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol gwahanol yn her sylweddol. Mae gweithgareddau i annog cyfranogiad mewn llywodraeth leol yn bodoli, fel cynlluniau mentora ac arweinyddiaeth. Mae’r rhain yn cynnig cyfleoedd i unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol feithrin hyder a datblygu sgiliau ar gyfer bywyd cyhoeddus. Serch hynny, mae tystiolaeth y clywodd y Pwyllgor yn dangos nad yw cynlluniau o’r fath bob amser wedi cael yr effaith ddisgwyliedig ar amrywiaeth. Yn ei dystiolaeth i’r ymchwiliad ynghylch Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol, dywedodd Chwarae Teg:

“We’re only able to make a small impact with a small number of people. And that’s important; it’s not to do down the value of that. But we don’t have any comprehensive scheme or longevity that would lead to the kind of systematic or systemic change that we need”.

Argymhellion y Pwyllgor

Gwnaeth y Pwyllgor 22 o argymhellion yn ei adroddiad, a oedd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn bennaf. Roedd y rhain yn amrywio o ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd er mwyn annog mwy o amrywiaeth ymysg yr ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiadau, i gynnal ffug etholiadau ar gyfer bobl ifanc ochr yn ochr ag etholiadau’r Cynulliad. Byddai rhai o argymhellion y Pwyllgor yn gofyn am adnoddau newydd ac ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, fel mater o frys, roedd y Pwyllgor o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa Mynediad i Swydd Etholedig yng Nghymru. Er na wnaeth y Pwyllgor nodi faint o adnoddau y dylid eu dyrannu, byddai’r gronfa’n cynorthwyo unigolion ag anableddau i redeg am swydd. Gellid ymestyn y gronfa hefyd i gynorthwyo unigolion o grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru.

Yn ogystal â’r uchod, gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion mewn perthynas ag agweddau ar weinyddu busnes llywodraeth leol. Mae’r rhain yn cynnwys llacio’r cyfyngiadau ar bresenoldeb o bell gan aelodau mewn cyfarfodydd cyngor ffurfiol, a rhoi mwy o gyfleoedd i rannu swydd ar lefel Cabinet. Hefyd, fe wnaeth y Pwyllgor alw am adrodd ar y cyd ar lwfansau gofal ar gyfer dibynyddion y mae aelodau’n eu hawlio – mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu nad yw rhai aelodau’n hawlio’r lwfans oherwydd eu bod ofn cael eu beirniadu’n gyhoeddus.  

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi llwyfan i aelodau etholedig ymgysylltu a chyfathrebu â’r etholwyr mewn ffordd nad oedd yn bosibl o’r blaen. Fodd bynnag, mae hefyd yn rhoi llwyfan ar gyfer camdriniaeth ac aflonyddu. Galwodd y Pwyllgor am arweiniad cryfach i ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig am yr hyn sy’n ymddygiad derbyniol ac annerbyniol ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, mae’r Pwyllgor yn argymell adolygiad o gadernid systemau cymorth i aelodau sy’n profi camdriniaeth ac aflonyddu ar-lein wrth ymgymryd â’u dyletswyddau cyhoeddus.   


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru