Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Nyrsio cymunedol – y gwasanaeth anweledig?

Mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal yn disgrifio proses lle bydd gwasanaethau yn symud o ysbytai i leoliadau cymunedol dros y degawd nesaf, a hynny ar raddfa sylweddol. Mae gwasanaethau nyrsio cymunedol yn chwarae rhan allweddol yn y broses o ddarparu gofal yng nghartrefi pobl, neu'n agos atynt. Maent yn debygol o ddod yn rhan gynyddol bwysig o weithlu'r GIG. Er gwaethaf hyn, mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wedi dweud nad oes gennym ddarlun clir o'r sefyllfa gyffredinol o ran y gweithlu nyrsio cymunedol, na'r cleifion y mae’r gweithlu hwn yn gofalu amdanynt.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

29 Tachwedd 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal yn disgrifio proses lle bydd gwasanaethau yn symud o ysbytai i leoliadau cymunedol dros y degawd nesaf, a hynny ar raddfa sylweddol. Mae gwasanaethau nyrsio cymunedol yn chwarae rhan allweddol yn y broses o ddarparu gofal yng nghartrefi pobl, neu’n agos atynt. Maent yn debygol o ddod yn rhan gynyddol bwysig o weithlu’r GIG. Er gwaethaf hyn, mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wedi dweud nad oes gennym ddarlun clir o’r sefyllfa gyffredinol o ran y gweithlu nyrsio cymunedol, na’r cleifion y mae’r gweithlu hwn yn gofalu amdanynt. 

Beth yw nyrsio cymunedol?

Yn ôl Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, mae tua dwy ran o dair o’i aelodau yn gweithio y tu allan i ysbytai. Mae’r gweithlu nyrsio cymunedol hwn yn cynnwys amrediad o rolau, gan gynnwys ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, nyrsys practis meddygon teulu, nyrsys arbenigol, a nyrsys seiciatryddol cymunedol, yn ogystal â nyrsys ardal. Mae hanner y nyrsys sy’n gweithio yn y gymuned yn gweithio yn y sector annibynnol, mewn cartrefi gofal a hosbisau.

Mae gwasanaethau nyrsio cymunedol dan arweiniad nyrsys ardal yn darparu gofal yng nghartrefi cleifion. Gallant helpu unigolion a’u teuluoedd i reoli eu hiechyd, i barhau i fyw’n annibynnol, i osgoi cael eu hanfon i’r ysbyty’n ddiangen, ac i gael eu rhyddhau’n gynnar. Mae’r sector nyrsio cymunedol wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda thimau a gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â’r gwasanaeth nyrsio ardal traddodiadol. Mae’n bosibl bod hyn wedi digwydd mewn ffordd dameidiog, yn hytrach nag o dan strategaeth gyffredinol.

Data i lywio’r broses o gynllunio’r gweithlu

Yn ystod ei ymchwiliad i wasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, clywodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon bryderon am ddiffyg data cenedlaethol ar wasanaethau nyrsio cymunedol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am nifer y timau nyrsio a’u hamrywiaeth sgiliau, yn ogystal â’r cleifion sy’n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain a’u hanghenion.

Tynnodd y Coleg Nyrsio Brenhinol sylw at y gwahaniaeth rhwng y data sydd ar gael ar gyfer y sector acíwt (ysbytai), ac ar gyfer gwasanaethau cymunedol:

A classic comparison would be waiting times. We can look at waiting times and, yes, we can perhaps have discussions about whether they’re the right measures or not, but they certainly give you a picture of what’s happening in the acute service. We don’t have a similar picture of what’s happening [in community settings], and that concerns us because, first of all, it’s a very vulnerable population that’s being cared for at home, and, secondly, it concerns us because it’s increasingly a large area of public spend.

Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i wella’r broses o gasglu data, ac i sicrhau bod rôl hanfodol nyrsio cymunedol o ran darparu gofal iechyd yn y dyfodol yn cael ei hadlewyrchu ym mhrosesau cynllunio’r gweithlu, recriwtio a hyfforddi.

Ar 7 Tachwedd 2019, trafododd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y cynnydd a wnaed gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru o ran datblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a’r gweithlu gofal cymdeithasol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. Disgwylir i’r strategaeth hon gael ei lansio’n ffurfiol yn 2020.

Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i ddeddfu ar lefelau staff nyrsio. Mae Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd yng Nghymru gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio mewn wardiau ysbytai meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion.

Yn ystod y broses o graffu ar y ddeddfwriaeth, mynegwyd pryderon y gallai’r sefyllfa hon arwain at nyrsys yn cael eu ‘tynnu’ o feysydd eraill i fodloni’r gofynion mewn wardiau acíwt. Felly, mae’r Ddeddf yn cynnwys dyletswydd ehangach i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd roi sylw i’r pwysigrwydd o ddarparu digon o nyrsys ym mhob lleoliad. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth i ymestyn y ddyletswydd i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio i leoliadau eraill yn y dyfodol. Mae pum maes yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, gan gynnwys wardiau iechyd meddwl oedolion i gleifion mewnol, wardiau pediatreg i gleifion mewnol, ymwelwyr iechyd, cartrefi gofal a nyrsio ardal.

Mewn perthynas â nyrsio ardal, nid oes offeryn cynllunio gweithlu priodol (sef offeryn sy’n ofynnol o dan y Ddeddf ar gyfer cyfrifo’r lefel staff nyrsio sydd ei hangen) yn debygol o fod yn barod am rai blynyddoedd. Fel mesur dros dro, cytunodd Llywodraeth Cymru ar gyfres o egwyddorion staffio nyrsio ardal (Medi 2017).  

Argymhelliad y Pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru gynhyrchu strategaeth ar gyfer ymestyn y Ddeddf i bob lleoliad, gan gynnwys gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan ddweud:

Mae gwahaniaethau sylfaenol sylweddol a niferus rhwng y gwahanol leoliadau y mae nyrsys yn darparu gofal ynddynt yng Nghymru. (…).  Mae’n llawer rhy gynnar i ddechrau deall lefel y cymhlethdod o ran yr amrywioldeb hwnnw mewn lleoliadau, a bydd angen i’r Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan wneud gwaith mapio helaeth cyn y gellir ystyried strategaeth genedlaethol.  Mae Rheolwr y Rhaglen wedi dechrau ar gamau cynnar y gwaith hwnnw.

Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru adroddiad cynnydd ynghylch y modd y mae byrddau iechyd wedi gweithredu’r Ddeddf. Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod angen lefelau staff nyrsio diogel ar draws pob lleoliad iechyd, ac yn ailadrodd y galwadau a wnaed i ymestyn y ddeddfwriaeth i wardiau iechyd meddwl, wardiau plant, nyrsio cymunedol a chartrefi gofal. 

Cynllun peilot Buurtzorg

Mae dulliau amgen o ddarparu gwasanaethau nyrsio cymunedol yn cael eu treialu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae model Buurtzorg yn fodel gofal cymunedol sy’n deillio o’r Iseldiroedd ac sy’n cael ei harwain gan nyrsys. Mae ei lwyddiannau yn cynnwys lefelau uwch o foddhad ymhlith cleifion a gostyngiadau sylweddol yn y gost o ddarparu gofal. Ar hyn o bryd, mae model gofal nyrsio cymdogaethol sydd wedi’i seilio ar fodel Buurtzorg yn cael ei threialu ym myrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor y dylai’r cynllun peilot, yn amodol ar ymarfer gwerthuso llwyddiannus, gael ei gyflwyno i bob tîm nyrsio cymunedol yng Nghymru.

Ym mis Medi 2019, cyhoeddodd Cronfa’r Brenin adolygiad o fodel a gafodd ei hysbrydoli gan fodel Buurtzorg ac a oedd yn destun arbrawf yn West Suffolk yn 2017-18. Mae’r adroddiad yn disgrifio’r arbrawf fel prosiect trawsnewid uchelgeisiol iawn. Mae’n tynnu sylw at ddau rwystr penodol a oedd y tu hwnt i reolaeth y prosiect ac a lesteiriodd gynnydd yr arbrawf yn sylweddol. Un ohonynt oedd yr argyfwng recriwtio ym maes nyrsio, a’r llall oedd diffyg seilwaith TGCh addasol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Nid yw’r materion hyn yn rhai sy’n benodol i Loegr. Un o’r pryderon mwyaf cyffredin a godwyd gan nyrsys cymunedol yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor oedd eu hanallu i gael mynediad at y dechnoleg fwyaf priodol i’w galluogi i wneud eu gwaith yn effeithiol.  Gwnaeth y Pwyllgor ddau argymhelliad gyda’r nod o wella’r dechnoleg sydd ar gael i nyrsys cymunedol.

Os gwelir bod cynllun peilot Buurtzorg yn llwyddiannus ym myrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys, mae’n bosibl y byddwn yn dechrau gweld y cynllun peilot hwn yn cael ei gyflwyno ledled Cymru yn 2020-21. 

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ddydd Mercher 4 Rhagfyr, a gallwch wylio’r drafodaeth honno’n fyw ar SeneddTV.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: