Addysg

Darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru

Cost prinder sgiliau i fusnesau Cymru yn 2018 oedd £350 miliwn, yn ôl adroddiad gan y Brifysgol Agored. Yn ogystal â'r gost economaidd, mae llawer o bobl yng Nghymru yn wynebu'r costau personol sydd ynghlwm wrth gael eu dal mewn trap sgiliau isel, sef cylch dieflig o sgiliau isel, cyflog isel a chynhyrchedd isel.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

29 Tachwedd 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cost prinder sgiliau i fusnesau Cymru yn 2018 oedd £350 miliwn, yn ôl adroddiad gan y Brifysgol Agored. Yn ogystal â’r gost economaidd, mae llawer o bobl yng Nghymru yn wynebu’r costau personol sydd ynghlwm wrth gael eu dal mewn trap sgiliau isel, sef cylch dieflig o sgiliau isel, cyflog isel a chynhyrchedd isel.

Ar 4 Rhagfyr, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, sef y partneriaethau sydd, yn ôl Llywodraeth Cymru, â rôl allweddol i’w chwarae yn y broses o leihau prinder sgiliau a chwalu trapiau sgiliau isel.

Mae’r adroddiad dan sylw yn galw am y camau a ganlyn:

  • Ail-frandio’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol fel Byrddau Cynghori ar Sgiliau Rhanbarthol, rhoi swyddogaeth fwy eglur iddynt fel cynghorwyr arbenigol yn y system sgiliau, a rhoi cenhadaeth iddynt o ran tynnu sylw at drapiau sgiliau isel;
  • Sicrhau bod gan y byrddau newydd gysylltiadau gwell â phrifysgolion a darparwyr prentisiaethau, a hynny er mwyn gwella eu gallu i ddarparu rhagolygon a gwella eu gwaith gyda chyflogwyr; a
  • Sicrhau bod gan y colegau y gallu i ddefnyddio eu cysylltiadau â chyflogwr, eu profiad a’u harbenigedd at ddibenion ymateb i gyngor y Byrddau Cynghori ar Sgiliau Rhanbarthol, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn micro-reoli’r cyrsiau y maent yn gallu eu cynnal a nifer y dysgwyr y maent yn gallu eu recriwtio.

Camgymhariadau sgiliau

Mae anghenion sgiliau economïau rhanbarthol yn newid, boed hynny yn y tymor byr (weithiau o ganlyniad i sioc sydyn fel diswyddiadau ar raddfa fawr), neu yn y tymor hwy wrth i natur sectorau economaidd a swyddi esblygu.

Gall hyn arwain at gamgymhariadau sgiliau. Gall camgymhariadau sgiliau fod ar ffurf:

  • Prinder sgiliau (pan fo’n anodd llenwi swyddi gwag);
  • Bylchau sgiliau yn y gweithlu presennol; a
  • Gwarged sgiliau, pan fo cyflogeion yn rhy gymwysedig ar gyfer y swydd y maent ynddi.

Mae adroddiad gan Lywodraeth y DU yn dadlau bod camgymhariadau sgiliau yn uchel yn y DU o’u cymharu â llawer o wledydd, ac eto i gyd mae’r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr a gynhaliwyd yn 2017 yn dangos nad yw perfformiad Cymru hyd yn oed yn cyrraedd cyfartaledd y DU.

Dangosodd yr arolwg hwn fod 27 y cant o’r cyflogwyr a gafodd eu samplu yng Nghymru yn 2017 wedi profi prinder sgiliau, bod gan 4.7 y cant o’u staff fwlch sgiliau, a bod 9.5 y cant yn cael eu tanddefnyddio.

Sut i gael y sgiliau sydd eu hangen

Dywed y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod tair ffordd y gellir sicrhau bod y cyflenwad sgiliau yn cyd-fynd â’r hyn sydd ei angen:

  • Dewis y dysgwyr: mae’r darparwyr sgiliau yn cynnig cyrsiau yn seiliedig ar yr hyn y mae dysgwyr am ei wneud. Yn fras, dyma’r model ar gyfer addysg uwch yng Nghymru a Lloegr;
  • Penderfyniad y farchnad: mae dysgwyr yn dewis eu cyrsiau, ond mae’r penderfyniadau ynghylch y cyrsiau a gynigir wedi’u seilio ar yr hyn y mae cyflogwyr am ei gael. Mae prentisiaethau yn enghraifft o’r model hwn. Gall dysgwyr ddewis wneud prentisiaethau, ond bydd yn rhaid iddynt ddewis o’r detholiad o swyddi gwag y mae cwmnïau’n eu cynnig, yn yr un modd ag unrhyw swyddi eraill;
  • Cynllunio canolog: mae sefydliad canolog neu ranbarthol yn casglu data a gwybodaeth at ddibenion creu rhagolygon ynghylch y sgiliau y bydd eu hangen, fel y gellir darparu’r cyrsiau cywir. Dyma sail model y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, sydd wedi’i amlinellu yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Mae anfanteision ynghlwm wrth bob un o’r modelau hyn, ond mae’r model cynllunio canolog yn llawn problemau gwybodaeth, meddai papur yr OECD:

Forecasting (by location and by occupational sectors) of the exact number of skills needed in a given labour market is often unreliable.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn rhoi pwyslais cryf ar y ‘problemau gwybodaeth’ a nodir uchod, ac ar sut y gall y partneriaethau sgiliau rhanbarthol geisio eu lliniaru er mwyn cael darlun gwell o’r sgiliau sydd eu hangen.

Rhagfynegi anghenion sgiliau’r dyfodol

Mae Working Futures, adroddiad a ddefnyddir gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, yn gwneud rhagamcanion ynghylch newidiadau i sectorau economaidd a swyddi hyd at 2024. Er enghraifft, mae’n darogan y bydd twf sylweddol yn y sector adeiladu ledled y DU rhwng 2014 a 2024, ond hefyd yn darogan y bydd maint y sector gweithgynhyrchu yn lleihau.

Wrth edrych ar swyddi, mae’n nodi tuedd lle bydd y bwlch anghenion sgiliau ymhlith cyflogwyr yn parhau i dyfu hyd at 2024, gyda thwf sylweddol o ran galwedigaethau sgiliau uchel a rhai galwedigaethau sgiliau is, ond cyflogaeth yn gostwng ar gyfer galwedigaethau sgiliau canolraddol.

Gan edrych ychydig ymhellach i’r dyfodol, mae effaith awtomeiddio a ‘diwydiant 4.0 ar anghenion sgiliau yn destun trafod mawr. Mae’r Athro Phil Brown, Cadeirydd adolygiad Llywodraeth Cymru i arloesi digidol, sef Cymru 4.0, yn taflu goleuni ar gymhlethdod y ddadl hon. Er enghraifft, mae’n dadlau, ‘…ni ddylem dybio y bydd awtomeiddio ac AI yn ymosod o waelod y strwythur galwedigaethol i’r top’. Dywed hefyd: ‘Nid ffawd yw technoleg.’

Yr hyn y mae’r rhagolygon a’r dadleuon hyn yn ei ddangos yw bod y broses o wneud rhagamcanion ynghylch anghenion sgiliau yn y tymor canolig yn gallu cael ei llethu gan anawsterau. Ac eto, mae newidiadau mewn sectorau economaidd ac ym maes swyddi yn cael ‘dylanwad sylweddol’ ar anghenion sgiliau.

Problemau: dewis y dysgwyr a dewis y cyflogwyr

Mae Llywodraeth Cymru am godi lefelau sgiliau ar gyfartaledd yng Nghymru, a gellir dadlau bod y Llywodraeth ar y trywydd iawn yn hynny o beth o ran lefelau cymwysterau. Fodd bynnag, mae adroddiad y Pwyllgor yn rhybuddio nad yw hyn yn ddigonol ar ei ben ei hun – mae dewis y dysgwyr a’r ffaith bod galw ymhlith cyflogwyr am weithluoedd â sgiliau uwch yn llacio yn parhau i beri problemau.

Mae’n bosibl na fydd dysgwyr yn cofrestru ar y cyrsiau y mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol o’r farn y mae eu hangen er mwyn cwrdd ag anghenion sgiliau. Yn y cyfamser, gallai cyflogwyr wneud elw drwy ddefnyddio gweithluoedd â sgiliau is, er gwaethaf y ffaith y gallai hyn arwain at amgylchiadau personol gwaeth ymhlith gweithwyr unigol – sefyllfa y mae adroddiad y Pwyllgor yn ei disgrifio fel ‘trap sgiliau isel’.

Dywedodd cynrychiolydd o’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol wrth y Pwyllgor: ‘I think that balance between learner choice and industry need is one of the biggest challenges that we’ve got, not just for the RSPs, but for skills in Wales in totality.’ Ategwyd hyn gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, a ddywedodd:

If an individual studies a course for which there is not a demand in the economy for those particular skills, then that investment in that individual and the prospects of that individual are not as good as we would like them to be.

Meddwl am lefelau’r sgiliau y mae cyflogwyr am eu cael

Mae trapiau sgiliau isel yn gylchoedd dieflig. Mewn sefyllfa lle nad oes angen i gyflogwyr gael sgiliau lefel uwch, mae llai o reswm i bobl ddewis cael y sgiliau uwch hynny. O ganlyniad, nid yw cyflogwyr yn arloesi cymaint, ac yn y blaen. Gall y trapiau hyn niweidio twf economaidd. Yn aml, maent yn arwain at swyddi o ansawdd is a chyflogau is. 

Mae’r adroddiad yn datgan yn glir fod yr uchelgais i godi lefelau sgiliau ar gyfartaledd yng Nghymru yn peri risg o waethygu’r broblem o ran tanddefnyddio sgiliau os na wneir unrhyw beth ar yr un pryd i gynyddu galw cyflogwyr am sgiliau lefel uwch.

Mae tystiolaeth yn bodoli bod hyn eisoes yn digwydd yng Nghymru. Gan ddefnyddio ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae adroddiad y Pwyllgor yn dangos y bu cynnydd mawr yn lefelau cymwysterau’r bobl hynny sy’n gweithio yn y galwedigaethau sydd â’r lefel isaf o sgiliau rhwng 2004 a 2018. Bydd angen swyddi sgiliau uchel i gynnal gweithlu sydd â sgiliau uwch.

Yn olaf, wrth edrych i’r dyfodol, mae’r Athro Phil Brown hefyd yn ein rhybuddio rhag dibynnu ar dechnoleg i fynd i’r afael â thrapiau sgiliau isel, gan ddweud: ‘Ni ddylem dybio y bydd cyflwyno technolegau newydd yn awtomatig yn cynyddu’r galw am fwy o weithwyr sgiliedig, yn cynyddu cynhyrchiant neu’n lleihau anghydraddoldeb incwm yng Nghymru.’

Mae adroddiad y Pwyllgor ar gael yma.


Erthygl gan Phil Boshier, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: