Cymunedau Delweddau Data

Pa ardaloedd yw’r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru?

Cyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) 2019 (PDF, 8MB) gan Lywodraeth Cymru ar 27 Tachwedd 2019.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

2 Rhagfyr 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) 2019 (PDF, 8MB) gan Lywodraeth Cymru ar 27 Tachwedd 2019.

Ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig

Mae prif ganlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 yn y tabl isod yn dangos y pump ardal fach fwyaf difreintiedig a’r pump ardal fach lleiaf difreintiedig a elwir yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs).

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 – Adroddiad canlyniadau (PDF, 8MB)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu offeryn rhyngweithiol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr archwilio’r data, gan gynnwys chwilio yn ôl cod post ac yn ôl etholaeth y Cynulliad. Mae’r adroddiad canlyniadau (PDF, 8MB) hefyd yn cynnwys dadansoddiad o ardaloedd bach o amddifadedd ‘hirsefydlog’ lle mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is wedi aros ymhlith y 50 ardal fach fwyaf difreintiedig er 2005.

Beth yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019?

Ceisia Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 fesur lefelau cymharol o amddifadedd mewn ardaloedd bychain ledled Cymru. Gelwir yr ardaloedd bach a ddefnyddir i adeiladu’r mynegai yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is, ac mae ynddynt boblogaeth gyfartalog o 1,600. Mae 1,909 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yng Nghymru, ac mae’r ardal fwyaf difreintiedig yn cael ei rhoi yn rheng 1 a’r lleiaf difreintiedig yn rheng 1,909.

Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 yn defnyddio amrywiaeth o ddangosyddion ar wahân ar draws wyth parth i fesur y cysyniad o ‘amddifadedd lluosog’. Mae’r parthau i’w gweld isod, ac mae’r canrannau mewn cromfachau yn dangos pwysiad neu bwysigrwydd pob parth fel agwedd ar amddifadedd:

  • Incwm (22%)
  • Cyflogaeth (22%)
  • Iechyd (15%)
  • Addysg (14%)
  • Mynediad at wasanaethau (10%)
  • Tai (7%)
  • Diogelwch cymunedol (5%)
  • Yr Amgylchedd Ffisegol (5%)

Sut mae MALlC 2019 yn wahanol i MALlC 2014?

Mae methodoleg MALlC 2019 yn debyg yn fras i MALlC 2014. Mae wyth parth amddifadedd o hyd gyda newidiadau bach i’r pwysau cymharol a roddir ar bob parth. Mae yna sawl dangosydd newydd (ODP, 6MB) yn y parthau canlynol;

  • Iechyd – Cyflyrau iechyd cronig a chyflyrau iechyd meddwl, a phlant 4-5 oed sy’n ordew a gofnodwyd gan Feddygon Teulu
  • Addysg – Sgôr pwynt cyfartalog Addysg Cyfnod Sylfaen
  • Tai – ansawdd tai gwael wedi’i fodelu
  • Yr amgylchedd ffisegol – agosrwydd at fannau gwyrdd naturiol hygyrch
  • Mynediad at wasanaethau – eiddo heb gyflymder band eang o leiaf 30 Mbit yr eiliad ar gael, ac amser teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd gwasanaethau.

Pam mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn bwysig?

Mae rhaglenni llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol sy’n ceisio mynd i’r afael ag amddifadedd yn aml yn defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i ddarparu cyllid yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae Tasglu’r Cymoedd yn defnyddio data MALlC i helpu i bennu lleoliad hybiau strategol ac i gael data sylfaenol ar amddifadedd. Mae dogfennau ymgynghori’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (NDF) yn defnyddio MALlC fel rhan o’u sylfaen dystiolaeth. Mae’r data dangosol ar incwm sy’n sylfaenol ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru hefyd wedi cael eu defnyddio i nodi lle i leoli gwasanaethau Dechrau’n Deg. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) hefyd yn defnyddio’r Mynegai wrth nodi eu blaenoriaeth strategol i Ehangu Mynediad at Addysg Uwch. Hefyd, defnyddir MALlC i fesur anghydraddoldebau iechyd, yn ogystal ag i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu asesiadau o anghenion, ac i amcangyfrif y galw ar y gwasanaethau brys.

Pa mor aml y caiff Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ei ddiweddaru?

Cyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru gyntaf yn 2000 ar lefel adran etholiadol, a chyhoeddwyd fersiynau dilynol o’r Mynegai yn 2005, 2008, 2011 a 2014 ar lefel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is.

A ellir cymharu â gwledydd eraill?

Mae gan Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon oll eu Mynegeion ar wahân eu hunain o Amddifadedd Lluosog. Cafodd y Mynegai Amddifadedd Lluosog ar gyfer Lloegr 2019 ei ddiweddaru ym mis Medi 2019. Bwriedir diweddaru Mynegai Amddifadedd Lluosog yr Alban 2016 yn 2020, a Mesur Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon 2017 yw’r fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael.

Nid yw’n bosibl cymharu’r Mynegai Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru â’r Mynegai Amddifadedd Lluosog ar gyfer gwledydd eraill y DU, gan eu bod oll yn defnyddio gwahanol ddangosyddion, cânt eu diweddaru ar gyfnodau amser gwahanol ac mae natur ddaearyddol sylfaenol gwahanol yn perthyn iddynt.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio’r Mynegai?

Mae’r Mynegai yn offeryn defnyddiol ar gyfer mesur crynodiadau o sawl math o amddifadedd ar lefel ddaearyddol fach. Fodd bynnag ei ​​brif gyfyngiad yw ei fod yn mesur ar sail ardal. Gall pobl a allai gael eu hystyried yn ddifreintiedig fyw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac fel arall.

Nododd rhai ymatebion i’r ymgynghoriad ar y dangosyddion arfaethedig ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (PDF, 1MB) hefyd bod amddifadedd mewn ardaloedd gwledig yn tueddu i fod wedi’i wasgaru’n fwy yn ddaearyddol nag mewn ardaloedd trefol. Felly mae’n debygol bod llecynnau o amddifadedd mewn ardaloedd gwledig yn debygol o fod yn is na lefel LSOA ac yn anoddach i’w nodi.

Hefyd nid yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn fesur uniongyrchol o faint o amddifadedd sydd mewn ardal. Mae’n bosibl dweud bod un ardal yn fwy difreintiedig nag un arall, fodd bynnag, nid yw’n bosibl datgan bod un Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is ddwywaith mor ddifreintiedig ag Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is arall. Hefyd, nid yw’n bosibl cymharu rhengoedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014 â rhengoedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019. Er mwyn gwneud cymariaethau dros amser, yn aml mae modd defnyddio data dangosyddion blynyddol MALlC a gaiff eu cyhoeddi gan StatsCymru.


Erthygl gan  Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: