Cyllid

Beth yw’r sefyllfa cyllid cyfalaf yng Nghymru?

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i’r ffynonellau cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a sut y gellir defnyddio’r ffynonellau hyn yn effeithiol i wneud y mwyaf o’r cyfalaf sydd ar gael.

Amcangyfrif o amser darllen: 2 Munud

14 Ionawr 2020

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i’r ffynonellau cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a sut y gellir defnyddio’r ffynonellau hyn yn effeithiol i wneud y mwyaf o’r cyfalaf sydd ar gael.

Beth yw’r ffynonellau cyfalaf presennol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru?

Mae gan Lywodraeth Cymru ystod o ffynonellau cyllid y gellir eu defnyddio ar gyfer buddsoddiad cyfalaf:

  • Cyllid cyfalaf confensiynol gan Lywodraeth y DU (gan gynnwys cyfalaf trafodion ariannol);
  • Benthyca trwy’r Gronfa Benthyciadau Gwladol neu fanc masnachol
  • Benthyca trwy fondiau’r llywodraeth
  • Cyllid yr UE 
  • Treth refeniw
  • Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

Beth yw strategaeth cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi yn y gorffennol y byddai’n defnyddio’r math rhataf o gyfalaf yn gyntaf wrth ddefnyddio ei ffynonellau cyllid. Fodd bynnag, nid oedd tystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod yr ymchwiliad o’r farn mai dyma oedd y strategaeth fwyaf effeithiol i wneud y mwyaf o’r cyfalaf sydd ar gael.

Clywodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio mwy ar baru ffynonellau cyllid â risg prosiect ar draws cylch bywyd prosiect. Byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i leihau costau cyllido gymaint â phosibl. Dywedodd Capital Law:

…an effective funding strategy depends on multiple sources of funding (ranging from conventional funding to public/private partnership models such as MIM) appropriate to the relevant point within a project’s lifecycle.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i baru ffynonellau cyllid â risg prosiect.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau buddsoddi hirdymor yn ei Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (WIIP) yn 2012, sydd wedi cael ei ddiweddaru dros amser. Awgrymodd tystiolaeth y gellid gwella hyn drwy flaenoriaethu prosiectau cyfalaf mawr a dyddiadau targed ar gyfer eu cyflawni. Clywodd y Pwyllgor hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gynllunio ymhellach at y dyfodol a nodi ffynonellau cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith er mwyn deall yn well lefel y benthyca sy’n ofynnol yn y dyfodol.

Beth yw’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol?

Partneriaeth cyhoeddus-preifat (PPP) yw’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol sy’n defnyddio buddsoddiad preifat i ariannu prosiectau cyfalaf yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod y Model yn wahanol i Fentrau Cyllid Preifat (PFIs) blaenorol a oedd yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth y DU oherwydd yn wahanol i Fentrau Cyllid Preifat, mae’r Model wedi’i gynllunio i hyrwyddo budd y cyhoedd, gan gynnwys lles a gwerth am arian.

Roedd y Pwyllgor yn cytuno bod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn well o ran manteision cymunedol a goruchwylio prosiectau, ond nododd ei bod hi’n anodd gweld gwahaniaeth sylweddol rhwng y ddau fodel, yn enwedig sut mae’r Model yn cynnig mwy o werth am arian na’r modelau PFI blaenorol.

Nododd y Pwyllgor ymhellach:

Yn ogystal, nid yw’n eglur sut mae’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn lleihau’r costau cyllido o’i gymharu â PFI a Chyllid Cyhoeddus 2 (PF2) Llywodraeth y DU, ac rydyn ni’n gobeithio cael dadansoddiad o’r costau hyn pan fo hynny’n briodol.

Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod prosiectau a gaiff eu cyflawni drwy’r Model yn gwbl dryloyw, a bod costau’r prosiect a’r data cysylltiedig yn glir er mwyn pennu a yw’r model yn darparu gwerth am arian.

Sut wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i’r ymchwiliad?

Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor naw argymhelliad o ganlyniad i’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod yr ymchwiliad. Derbyniodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yr holl argymhellion yn ei hymateb i’r Pwyllgor ar 8 Ionawr 2020.


Erthygl gan Christian Tipples, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: