Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Brexit Cymunedau

Y Cynulliad i drafod rhoi cydsyniad i Fil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr Senedd y DU

Bydd y DU yn gadael Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE pan fydd yn gadael yr UE.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

15 Ionawr 2020

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd y DU yn gadael Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE pan fydd yn gadael yr UE.

Mae amaethyddiaeth y DU yn cael tua £3.2 biliwn y flwyddyn mewn cymorth drwy’r PAC ac mae taliadau uniongyrchol yn cyfrif am oddeutu 88 y cant o gyfanswm taliadau’r DU. I’r rhan fwyaf o ffermwyr yng Nghymru, taliadau uniongyrchol y PAC sy’n cyfrif am y rhan fwyaf o’u hincwm. Yn 2014-15, roedd taliadau uniongyrchol yn cyfrif am a 81 y cant ar gyfartaledd o elw net ffermydd Cymru ar gyfer pob math o fferm yng Nghymru.

Mae dyfodol cymorth amaethyddol wedi bod yn destun cryn ddadlau gyda chwestiynau’n cael eu gofyn am lefel y taliad, ffurf cynlluniau’r dyfodol a’r dulliau deddfwriaethol cysylltiedig sy’n ofynnol i barhau â’r taliadau.

Cyflwynwyd y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol)  2019-20 i Senedd y DU ar 9 Ionawr.  Mae’r Bil yn caniatáu i gymorth incwm uniongyrchol i ffermwyr yn y DU barhau ar ôl diwrnod gadael, ar gyfer blwyddyn hawlio 2020.

Beth yw taliadau uniongyrchol y PAC?

Ar hyn o bryd mae taliadau uniongyrchol yn dod o dan ‘Golofn 1’ y PAC. Mae’r taliadau wedi’u seilio’n fras ar faint o dir sy’n cael ei ffermio. Mae’r cynlluniau talu uniongyrchol canlynol yn gweithredu yn y DU:

I fod yn gymwys i gael taliadau uniongyrchol, rhaid i ffermwyr fodloni rhai safonau penodol o ran rheoli’r amgylchedd, lles anifeiliaid ac olrhain – gelwir hyn yn ‘drawsgydymffurfio’.

Yn nodweddiadol, mae taliadau uniongyrchol yn dod i  gyfanswm o €260 – €300 miliwn y flwyddyn yng Nghymru (ers 2014) . Ar hyn o bryd daw cyllid Colofn 1 yn uniongyrchol o’r UE, lle cytunir arno mewn cylchoedd cyllido cyllidebau. Y cylch cyfredol yw 2014-2020.

A fydd taliadau uniongyrchol yn parhau ar ôl Brexit?

Ar 30 Rhagfyr cyhoeddodd Llywodraeth newydd y DU y byddaicyllid ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr ar gyfer 2020 yn parhau ar yr un lefel â 2019. Mae Llywodraeth y DU wedi gwarantu’r gyllideb fferm flynyddol ar gyfer pob blwyddyn yn y Senedd hon. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddosbarthu’r arian hwn yng Nghymru.

Er bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynlluniau i symud oddi wrth system gymorth arddull y PAC, mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd , Ynni a Materion Gwledig wedi cadarnhau y bydd taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn parhau yn 2021 i ddarparu rhywfaint o sicrwydd ar ôl Brexit.

Sut y bydd parhad cyfreithiol o daliadau uniongyrchol?

Gellir gweld sail gyfreithiol y PAC yn un o brif gytuniadau’r UE, y Cytuniad ar Weithredu’r Undeb Ewropeaidd (TFEU), ac mae Cynllun y Taliad Sylfaenol wedi’i gynnwys yn un o Gyfarwyddebau’r UE, Rheoliad (UE) 1307/2013.

Fodd bynnag, gan fod y cylch cyllido presennol yn dod i ben yn 2020, cytunodd y DU a’r UE na fydd rheolau taliadau uniongyrchol yr UE yn berthnasol i’r DU ar ôl y diwrnod gadael yn y  Cytundeb Ymadael. Mae hyn yn osgoi i’r DU gael ei chynnwys yng nghylch cyllideb nesaf yr UE.

Daw’r Cytundeb Ymadael i rym ar ôl i’r DU adael yr UE am 11pm ar 31 Ionawr. Mae hyn yn golygu bod angen i’r DU basio deddfwriaeth cyn hyn er mwyn parhau i wneud taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2020.

Y Bil Taliadau Uniongyrchol a’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Prif ddiben y Bil yw darparu sylfaen gyfreithiol i wneud taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn y DU yn 2020.  Yn ogystal â darparu’r dull cyfreithiol i’r DU a’r llywodraethau datganoledig wneud taliadau, mae’r Bil hefyd:

  • Yn cynnwys pwerau i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wneud rhagor o reoliadau i addasu cyfraith yr UE a ddargedwir, gan gynnwys i gywiro diffygion fel ei fod yn gweithio yng nghyfraith y DU neu i efelychu datblygiadau yng nghyfraith yr UE yn ystod 2020. Daw’r pwerau hyn i ben ar ôl 31 Rhagfyr 2020. Bydd angen cydsyniad pellach gan Llywodraeth Cymru ar unrhyw reoliadau o’r fath a wneir gan Weinidogion y DU sy’n berthnasol i Gymru.
  • yn galluogi Llywodraeth y DU i gynyddu cyfanswm y symiau / terfynau ariannol uchaf ar gyfer taliadau uniongyrchol, i ddarparu cyfran fwy o gymorth fferm i Gymru, fel yr argymhellwyd gan Adolygiad Bew. O ganlyniad i’r adolygiad, ymrwymir €6.12 miliwn ychwanegol y flwyddyn i Gymru ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.
  • yn cymhwyso eithriad cymorth gwladwriaethol yr UE i daliadau uniongyrchol 2020 y DU, os ydynt yn gyfwerth â chynllun yr UE.

Gan fod amaethyddiaeth wedi’i ddatganoli i Gymru, gall Llywodraeth y DU wneud deddfwriaeth sylfaenol ledled y DU ond rhaid iddi gael cydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gosododd Llywodraeth Cymru ei Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) ar 14 Ionawr sy’n nodi ei safbwynt. 

Cred Llywodraeth Cymru fod cymryd pwerau o dan Fil y DU yn darparu ateb ymarferol a phragmatig sy’n esmwythach, yn gyflymach ac yn gliriach i ffermwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn nodi cymalau penodol y mae angen cydsyniad y Cynulliad arnynt ac mae’n dod i’r casgliad:  

Given the urgency of the issue resulting from the absence of legal powers needed to continue making Direct Payments to Welsh farmers in the 2020 scheme year, it would be appropriate to deal with these provisions in this UK Bill.

Mewn datganiad ysgrifenedig, ychwanegodd y Gweinidog fod y Bil yn dod â sefydlogrwydd mawr ei angen i ffermwyr

Bydd y Cynulliad yn trafod ac yn pleidleisio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ddydd Mercher 22 Ionawr.

Bil Amaethyddiaeth y DU

Felly beth am Fil Amaethyddiaeth y DU a ragwelir? Roedd Bil Amaethyddiaeth y DU (Diwygio)_, a gwympodd ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, yn cynnwys darpariaethau ar gyfer parhau â thaliadau uniongyrchol i ffermwyr ar ôl Brexit yng Nghymru y tu hwnt i 2020. Roedd hefyd yn cynnwys pwerau i ddileu taliadau uniongyrchol yn raddol dros gyfnod o saith mlynedd. Disgwylir i Fil Amaethyddiaeth y DU gael ei hailgyflwyno ym mis Ionawr. Fodd bynnag, mae bwlch deddfwriaethol yn y tymor byr y mae’r Bil Taliadau Uniongyrchol yn ceisio ei lenwi trwy roi pwerau i Weinidogion wneud taliadau i ffermwyr yn 2020.

Trafododd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i Fil Amaethyddiaeth y DU ar ddiwedd 2018. Er bod y Pwyllgor yn cydnabod y byddai Bil Amaethyddiaeth y DU yn gyfrwng priodol i sicrhau parhad cymorth ariannol ar unwaith, teimlai y byddai Bil Cynulliad yn fwy priodol ar gyfer y darpariaethau ehangach a thymor hwy yn y Bil. Disgwylir Bil amaethyddiaeth Cymru yn y Cynulliad nesaf.


Erthygl gan Sara Moran a Katy Orford, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: