Crynodeb o’r Bil - Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - Gwelliannau Cyfnod 2

Cyhoeddwyd 10/03/2020   |   Amser darllen munudau

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) gerbron y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2019. Amcan y Bil yw gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru am resymau moesegol.

Roedd ystyriaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig o’r Bil yng Nghyfnod 1 yn tynnu sylw at gymhlethdod y materion. Ni wnaeth y Pwyllgor ddod i farn unfrydol ynghylch a ddylai’r Bil fynd ymlaen i’r Cyfnod nesaf. Cynhaliwyd dadl Cyfnod 1 y Bil ar 7 Ionawr 2020 pan gytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 2 yn ystod sesiwn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar 5 Chwefror 2020. Ni dderbyniodd y Pwyllgor dim o’r gwelliannau a gyflwynwyd.

Dechreuodd Cyfnod 3 ar 6 Chwefror a disgwylir i'r Cynulliad gynnal dadl ar welliannau Cyfnod 3 ar 17 Mawrth.

Paratowyd y crynodeb hwn o’r Bil cyn y ddadl ac mae’n rhoi cefndir i’r materion, crynodeb o’r Bil, ymatebion rhanddeiliaid a barn, argymhellion a gwelliannau Pwyllgorau’r Cynulliad hyd yn hyn.

Darllenwch y briff yma: Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (PDF, 1,295KB)

 


Erthygl gan Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru