Brexit

Pa rolau fydd gan Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad mewn trafodaethau masnach yn y dyfodol?

Gan fod y Deyrnas Unedig bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cytuno ar gytundebau masnach rydd newydd gyda gwledydd ledled y byd.Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod ganddi rôl ffurfiol mewn trafodaethau sy’n ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig fel amaethyddiaeth a’r amgylchedd. Fodd bynnag, nid yw'n glir o hyd pa rôl fydd gan Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau hyn.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

16 Mawrth 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Gan fod y Deyrnas Unedig bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cytuno ar gytundebau masnach rydd newydd gyda gwledydd ledled y byd.Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod ganddi rôl ffurfiol mewn trafodaethau sy’n ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig fel amaethyddiaeth a’r amgylchedd. Fodd bynnag, nid yw’n glir o hyd pa rôl fydd gan Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau hyn.

Ers hydref 2016, mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi bod yn ystyried goblygiadau polisi masnach sy’n datblygu Llywodraeth y DU i Gymru. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi ystyried sut y dylai’r Cynulliad ymgysylltu â chytundebau masnach ryngwladol y DU yn y dyfodol a chraffu arnynt.

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad Cytundebau rhyngwladol y DU ar ôl Brexit: rôl i’r Cynulliad (PDF, 191KB) ar 18 Rhagfyr 2019. Gwnaeth y Pwyllgor chwe argymhelliad. Roedd ymateb (PDF, 292 KB) Llywodraeth Cymru yn derbyn dau argymhelliad, ac yn derbyn pedwar mewn egwyddor. Holodd y Pwyllgor Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan AC ynghylch ymateb y Llywodraeth ar 10 Chwefror.  Caiff yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Mawrth. 

A yw’r cyfrifoldeb dros negodi cytundebau masnach yn fater sydd wedi’i gadw i San Steffan?

Mae cysylltiadau rhyngwladol a rheoleiddio masnach ryngwladol yn faterion sydd wedi’u cadw y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y llywodraethau a’r deddfwrfeydd datganoledig yn bennaf yw gweithredu rhwymedigaethau sy’n deillio o gytundebau rhyngwladol sy’n ymwneud â materion datganoledig.

Ar hyn o bryd nid oes dull ffurfiol o sicrhau yr ymgynghorir â Llywodraeth Cymru na’r Cynulliad wrth drafod a chadarnhau cytundebau masnach ryngwladol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod er bod trafod cytundebau rhyngwladol yn fater sydd wedi’i gadwyd yn ôl, mae gan lywodraethau datganoledig fudd cryf a chyfiawn lle maent yn croestorri â meysydd cymhwysedd datganoledig.

Beth yw safbwynt Llywodraeth y DU?

Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gorchymyn: Processes for making free trade agreements after the United Kingdom has left the European Union. Roedd y papur yn trafod eu bwriad i ffurfio Fforwm Gweinidogol newydd ar gyfer Masnach Ryngwladol i sicrhau trafodaeth reolaidd drwy strwythur ffurfiol rhwng y DU a Llywodraethau datganoledig ar fasnach. Cyfarfu Fforwm y Gweinidogion am y tro cyntaf ar 23 Ionawr 2020.

Ers hynny mae trafodaethau rhwng y DU a llywodraethau datganoledig wedi symud i ganolbwyntio ar ddatblygu Concordat. Mewn llythyr at y Pwyllgor ar 5 Tachwedd 2019, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol fod Llywodraeth Theresa May wedi sicrhau na fyddai trafodaethau masnach yn cychwyn heb fod y Concordat ar waith. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 10 Chwefror 2020 fod cyrraedd cytundeb ar y Concordat wedi ei effeithio gan newidiadau mewn Gweinidogion ar lefel Llywodraeth y DU, yn ogystal ag etholiad cyffredinol 2019.

Pa rôl y mae Llywodraeth Cymru am ei chael mewn trafodaethau masnach ryngwladol?

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi (PDF, 184KB) y dylai fod yn rhan o’r broses o osod mandadau negodi a chymryd rhan yn y trafodaethau lle maent yn ymwneud â materion datganoledig. Mae’n dadlau er bod cysylltiadau rhyngwladol yn fater sydd wedi’i gadw’n ôl, cyfrifoldeb y gweinyddiaethau datganoledig yw gweithredu’r rhwymedigaethau sy’n deillio o’r trafodaethau o fewn cymhwysedd datganoledig.

Dywedodd (PDF, 171KB) Llywodraeth Cymru y dylai fod yn cymryd ‘rhan lawn’ yn y trafodaethau ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, ac mewn unrhyw Gydbwyllgor sy’n cael ei sefydlu i oruchwylio’r gwaith o weithredu’r cytundeb.

Yn dilyn cyfarfod o’r Cydbwyllgor Gweinidogol (Trafodaethau Ewropeaidd) yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2020, awgrymodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Michael Gove AS y bydd gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon lais yn nhrafodaethau masnach yr UE. Fodd bynnag, yn dilyn rownd gyntaf y trafodaethau a gynhaliwyd rhwng 2 a 5 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ddatganiad ar y cyd yn galw ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu â nhw ar y trafodaethau. 

Beth mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi’i ddweud am rôl i’r Cynulliad?

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad Cytundebau rhyngwladol y DU ar ôl Brexit: rôl i’r Cynulliad (PDF, 191KB) ar 18 Rhagfyr 2019. Mae’r adroddiad yn cynnig dull amlinellol o sut y dylai’r Cynulliad, fel y ddeddfwrfa, ymgysylltu â chytundebau masnach ryngwladol y DU yn y dyfodol a chraffu arnynt. Mae hyn yn cynnwys cytundebau posibl gyda gwledydd y tu allan i’r UE fel UDA, yn ogystal â chytundebau perthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn amlinellu pa rôl y dylai’r Cynulliad ei chwarae ar bob cam o’r broses datblygu cytundebau rhyngwladol:

  1. Ymgysylltu’n gynnar a gosod mandad y DU – dylai Llywodraeth Cymru osod ei dull amlinellol yn y Cynulliad, gan fanylu ar ei hamcanion negodi a’i hasesiad o effaith economaidd y cytundeb. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd egluro a fydd gweithredu’r cytundeb yn y pen draw yn effeithio neu’n cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Hefyd, mewn amgylchiadau lle mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cytuno i Lywodraeth y DU negodi cytundeb rhyngwladol a fyddai’n cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn y dyfodol, yna dylid ceisio cael cydsyniad y Cynulliad cyn i Lywodraeth Cymru geisio cytundeb o’r fath â Llywodraeth y DU.
  2. Y Cyfnod negodi – dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru a rhannu gwybodaeth yn rheolaidd gyda’r Cynulliad ar sut mae trafodaethau yn mynd rhagddynt. Bydd y dull hwn yn dibynnu ar Lywodraeth y DU yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru rôl ystyrlon yn y broses.
  3. Ar ddiwedd y trafodaethau – mae gan gytundebau rhyngwladol y gallu i addasu cymhwysedd datganoledig y Cynulliad. Felly galwodd y Pwyllgor am sefydlu confensiwn rhwng y Cynulliad a Senedd y DU – fel gyda’r confensiwn cydsyniad deddfwriaethol – i sicrhau bod barn y Cynulliad yn cael ei hystyried cyn i gytundeb gael ei gadarnhau gan Senedd y DU.
  4. Gweithredu’r cytundebau rhyngwladol – lle mae buddiannau Cymru yn wahanol i rannau eraill o’r DU, dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i weithredu cytundebau rhyngwladol yn wahanol. Mae hyn yn cynnig ffordd o sicrhau y gellir arsylwi buddiannau sy’n benodol i Gymru yng nghyd-destun cytundeb mwy cyffredinol ledled y DU.

Beth nesaf?

Mae i ba raddau y gall y Cynulliad ymgysylltu â chytundebau rhyngwladol yn y dyfodol a chraffu yn debygol o ymwneud â pha rôl, os o gwbl, y gall Llywodraeth Cymru ei sicrhau. Gyda thrafodaethau gyda’r UE eisoes ar y gweill, a disgwyl i drafodaethau gyda’r Unol Daleithiau gychwyn y mis hwn (Mawrth), mae rôl Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn aneglur.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad, Cytundebau rhyngwladol y DU ar ôl Brexit: rôl i’r Cynulliad (PDF, 191KB) ar 18 Rhagfyr 2019, a bydd yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Mawrth 2020. 


Erthygl gan Rhun Davies, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: