Cyfansoddiad

Cyfiawnder yng Nghymru: Tribiwnlysoedd Cymru

Tribiwnlysoedd Cymru yw'r unig gyrff barnwrol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Crewyd rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017. Penodwyd Syr Wyn Williams gan Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yn 2017.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

25 Awst 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Tribiwnlysoedd Cymru yw’r unig gyrff barnwrol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Crewyd rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017. Penodwyd Syr Wyn Williams gan Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yn 2017.

Mae gan y Llywydd rôl oruchwylio dros holl dribiwnlysoedd Cymru. Mae gan bob tribiwnlys hefyd ei arweinydd barnwrol a’i aelodau ei hun. Mae Uned Tribiwnlysoedd Cymru, Llywodraeth Cymru, yn darparu cefnogaeth weinyddol i Dribiwnlysoedd Cymru. Mae gan y tribiwnlysoedd ystod o wahanol gyfrifoldebau. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ymdrin â thua 2,000 o achosion bob blwyddyn.

Mae’r Llywydd Tribiwnlysoedd wedi cyflwyno ei adroddiadau blynyddol ar gyfer 2018-19 (173KB)a 2019-20 (5MB) gerbron y Senedd.

Clywodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd dystiolaeth gan y Llywydd Tribiwnlysoedd ar 13 Gorffennaf fel rhan o’i ymchwiliad, Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru. Mae’r blog hwn yn edrych ar dair thema allweddol o adroddiadau blynyddol y Llywydd a’r sesiwn dystiolaeth, sef strwythur tribiwnlysoedd Cymru, eu perfformiad, a mynediad at gyfiawnder.

Sut y dylid strwythuro Tribiwnlysoedd Cymru?

Dros y blynyddoedd diwethaf, codwyd cwestiynau ynghylch a oes angen newid strwythur Tribiwnlysoedd Cymru a sut y dylid gwneud hynny. Gwnaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru argymhellion ar rôl y tribiwnlysoedd ym mis Hydref 2019 a disgwylir i adroddiad ar brosiect gan Gomisiwn y Gyfraith gael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, yn ei ail adroddiad blynyddol, daw’r Llywydd i’r casgliad (PDF, 5MB):

…ein bod yn prysur agosáu at yr amser pan fo ailarfarnu swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn llwyr yn ddymunol, yn gwbl annibynnol ar waith Comisiwn y Gyfraith os oes angen, fel y gellir dechrau cynllunio mewn da bryd i ddod o hyd i’m holynydd.

Mae’r Llywydd yn nodi bod annibyniaeth Tribiwnlysoedd Cymru yn fater allweddol. Mae’r Llywydd yn argymell y dylai Uned Tribiwnlysoedd Cymru fod yn asiantaeth weithredol fel Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (HMCTS) er mwyn amddiffyn annibyniaeth farnwrol. Dywed ei fod (PDF, 5MB) wedi trafod hyn gyda Phrif Weinidog Cymru, ond na wnaed unrhyw gynnydd.

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, dywedodd y Llywydd hefyd ei fod wedi trafod y posibilrwydd o fabwysiadu model yn unol â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban gyda Phrif Weinidog Cymru hefyd. Mae hwn yn gorff annibynnol, a chaiff ei fwrdd gweithredol ei gadeirio gan yr Arglwydd Lywydd, sef barnwr uchaf yr Alban.

Nid Tribiwnlysoedd Cymru yw’r unig gyrff barnwrol sy’n datrys anghydfodau cyfraith sifil a gweinyddol yng Nghymru. Yn gyffredinol, ymdrinnir ag anghydfodau y tu allan i’w cylch gwaith gan gyrff nad ydynt wedi’u datganoli, gan gynnwys y llys sirol a’r llys gweinyddol. Argymhellodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y dylai’r Senedd a Llywodraeth Cymru ddynodi tribiwnlysoedd Cymru – yn hytrach na’r llys sirol, er enghraifft – ar gyfer anghydfodau ynghylch deddfwriaeth Cymru yn y dyfodol. Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfaiwnder a’r Cyfansoddiad, dywedodd y Llywydd y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i hyn.

Nododd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru hefyd nifer o gyrff cyfiawnder datganoledig nad ydynt o dan oruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Er enghraifft, mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn ymdrin ag apeliadau ynghylch cyfraddau annomestig a’r dreth gyngor ac mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystyried cwynion am gyrff cyhoeddus. Roedd y Comisiwn yn dadlau y dylid cydgysylltu cyfiawnder sifil a gweinyddol yn well, ac argymhellodd y dylai cyrff o’r fath gael eu goruchwylio gan y Llywydd. Yn ei ail adroddiad, mae’r Llywydd yn nodi (PDF, 5MB) y byddai gweithredu’r argymhelliad hwn yn ‘cynyddu’n sylweddol’ rôl y Llywydd.

Sut y gallwn ddweud pa mor dda y mae tribiwnlysoedd Cymru yn perfformio?

Mae Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol bob blwyddyn. Mae arweinwyr barnwrol pob tribiwnlys yng Nghymru hefyd yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar eu gwefannau. Mae’r rhain i gyd yn dilyn strwythurau tebyg. Gyda’i gilydd, maent yn rhoi gwybodaeth am wariant, nifer yr achosion, canlyniadau a pherfformiad ar sail targedau.

Mae hyn yn wahanol i’r gofynion adrodd ar gyfer y tribiwnlysoedd nad ydynt wedi’u datganoli. Gan fod HMCTS yn asiantaeth weithredol, mae’r gofynion adrodd ar gyfer ei adroddiad blynyddol a chyfrifon (PDF, 4.5MB) wedi’u nodi mewn statud. Mae HMCTS hefyd yn rhyddhau data bob chwarter ar y tribiwnlysoedd a weinyddir ganddo a’u gwaith. Mae Uwch Lywydd barnwrol y tribiwnlysoedd nad ydynt wedi’u datganoli yn paratoi adroddiad blynyddol ar wahân. Yn 2016, daeth y Pwyllgor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, Cymru i’r casgliad (4.5MB) y dylid mabwysiadu dull tebyg yng Nghymru.

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, dywedodd y Llywydd mai’r arweinwyr barnwrol ar gyfer pob tribiwnlys sy’n pennu’r cynnwys ar gyfer eu hadroddiadau. Dywedodd:

it would be almost impossible, in my view, to standardise them without losing their main purpose, which is to provide information publicly, in detail, about the work of each tribunal.

Sut mae tribiwnlysoedd Cymru yn sicrhau bod gan bobl fynediad at gyfiawnder?

Un o ddyletswyddau Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yw sicrhau bod Tribiwnlysoedd Cymru yn hygyrch. Dim ond yn y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl y mae cymorth cyfreithiol ar gael, ac o dan rai amgylchiadau yn y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig. Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, eglurodd y Llywydd sut mae tribiwnlysoedd Cymru yn ceisio cefnogi ymgyfreithwyr drostynt eu hunain (unigolion heb gynrychiolaeth).

Mae Tribiwnlysoedd Cymru wedi dechrau cynnal gwrandawiadau o bell yn ystod pandemig y coronafeirws. Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, soniodd y Llywydd am fanteision gwrandawiadau o bell, er enghraifft drwy ganiatáu i ymgyfreithwyr yn y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig gymryd rhan mewn gwrandawiadau o’u cartrefi eu hunain. Dywedodd: ‘I foresee that digitalised working and remote hearings will become more of a feature of our tribunals as we go into the future’.

Fodd bynnag, codwyd pryderon ynghylch effaith y pandemig ar fynediad at gyfiawnder. Yn ei adolygiad cyflym o effaith y pandemig, nododd y Cyngor Cyfiawnder Sifil (PDF, 7.8MB) fod ymatebwyr yn teimlo mai’r effaith net oedd cyfyngu’n artifisial ar nifer yr ymgyfreithwyr drostynt eu hunain a’r bobl sy’n agored i niwed sy’n cymryd rhan mewn gwrandawiadau yn ystod y cyfnod hwn.

Argymhellodd y Cyngor Cyfiawnder Sifil (PDF, 7.8MB) y dylid cymryd camau brys i gasglu gwybodaeth sylfaenol am ddefnyddwyr lleyg, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig, iaith, cod post, oedran a statws cynrychiolaeth. Y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig yw’r unig un o Dribiwnlysoedd Cymru i gynnwys data ar gydraddoldeb yn ei adroddiad blynyddol. Pan ofynnodd y Pwyllgor iddo am gasglu data, dywedodd y Llywydd y byddai’n trafod hyn ag Uned Tribiwnlysoedd Cymru.

Codwyd pryderon penodol ynghylch effaith newidiadau i weithdrefn y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl o ran mynediad at gyfiawnder. Yn ystod pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd gwrandawiadau dros y ffôn. Cyhoeddodd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Gyfarwyddyd Ymarfer ar y cyd â Llywydd y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl, gyda chymeradwyaeth Prif Weinidog Cymru. Mae hyn yn caniatáu i’r tribiwnlys hepgor gwrandawiad pe bai’n anymarferol ei gynnal. Yn ôl y Cyfarwyddyd Ymarfer ar gyfer y tribiwnlys cyfatebol yn Lloegr, caniateir i’r tribiwnlys awgrymu gwrandawiad papur yn unig a dim ond mewn rhai achosion. Codwyd pryderon gan Ruth Coombs, Pennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, am effaith y dull hwn ar gleifion yng Nghymru wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau (PDF, 429KB) y Senedd ar 16 Mehefin. Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, dywedodd y Llywydd nad oedd gwrandawiadau iechyd meddwl o bell yn ddelfrydol, gan gadarnhau nad oedd y darpariaethau brys wedi cael eu defnyddio.

Y camau nesaf

Bydd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd yn casglu rhagor o dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad, Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru, yn yr hydref.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: