Brexit Cyfansoddiad

Y ddadl ynglŷn â datganoli sy’n ganolog i Fil Marchnad Fewnol y DU

Yn ôl Llywodraeth y DU, mae Brexit yn cynrychioli 'ymchwydd pŵer' i’r llywodraethau datganoledig, gyda phwerau newydd yn trosglwyddo o'r UE i'r sefydliadau datganoledig. Maent yn dadlau bod angen Bil Marchnad Fewnol y DU i ddiogelu masnach a rheoli gwahaniaethau ar ôl Brexit. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn anghytuno ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd i bwerau datganoledig ar ôl Brexit ac yn dweud bod y Bil yn gyfystyr ag ymgais i fachu pŵer sy'n tanseilio datganoli.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

24 Medi 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn ôl Llywodraeth y DU, mae Brexit yn cynrychioli ‘ymchwydd pŵer’ i’r llywodraethau datganoledig, gyda phwerau newydd yn trosglwyddo o’r UE i’r sefydliadau datganoledig. Maent yn dadlau bod angen Bil Marchnad Fewnol y DU i ddiogelu masnach a rheoli gwahaniaethau ar ôl Brexit. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn anghytuno ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd i bwerau datganoledig ar ôl Brexit ac yn dweud bod y Bil yn gyfystyr ag ymgais i fachu pŵer sy’n tanseilio datganoli.

Yn y pen draw, mae’r ddadl yn ymwneud â chwestiynau sylfaenol am yr hyn sy’n digwydd i bwerau datganoledig a sut y dylid rheoli gwahaniaethau rheoleiddiol mewn meysydd datganoledig ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben.

Brexit: Ymchwydd pŵer?

Yn ystod gwaith craffu ar Fil Marchnad Fewnol y DU yn Nhŷ’r Cyffredin, roedd Llywodraeth y DU yn dadlau bod Brexit yn cynrychioli ‘ymchwydd pŵer’ i’r llywodraethau a seneddau datganoledig. Mae’n dweud y bydd pwerau newydd a oedd ym Mrwsel gynt yn llifo i’r llywodraethau datganoledig ar ôl 31 Rhagfyr. Yn ystod y cyfnod pwyllgor, dywedodd Paul Scully, un o Weinidogion Llywodraeth y DU y canlynol:

So when ​we leave the transition period at the end of this year, and the laws made in Europe can now be made across the UK, hundreds of powers will flow from the EU to the devolved nations and the UK Government in an unprecedented transfer of powers. It is really important to remember that we are devolving powers down to those devolved nations.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn anghytuno â’r safbwynt hwn. Maent wedi dadlau bod y sefydliadau datganoledig wedi bod â phwerau dros feysydd fel amaethyddiaeth, safonau bwyd a’r amgylchedd erioed – dim ond cyfraith yr UE oedd yn cyfyngu arnynt. Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Materion Allanol y Senedd yn 2017, dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd y canlynol:

Those competencies are here now. We choose to exercise them at the European level. When the European level isn’t there, we will still be here and the competencies will be here as well.

[…]

[W]hat sometimes appears to be a rather different view of the world at the Westminster end—that post Brexit, these competencies are free-floating and they could grab them first, is not our view of the world.

Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd y llywodraethau datganoledig yn cael pwerau newydd dros feysydd polisi megis ansawdd aer. Nid yw ansawdd aer wedi’i gadw’n ôl, felly caiff y Senedd ddeddfu yn y maes hwn yn barod. Fodd bynnag, pan oedd y DU yn aelod o’r UE, nid oedd y Senedd yn cael pasio deddf a fyddai’n mynd yn groes i gyfraith yr UE mewn perthynas ag ansawdd aer. Ar ddiwedd y cyfnod pontio, byddai’r Senedd yn cael pasio deddf heb orfod sicrhau ei bod yn bodloni gofynion yr UE.

Nid yw Bil y Farchnad Fewnol ei hun yn rhoi pwerau newydd i’r sefydliadau datganoledig. Mae’n cadw rheolaeth dros gymorthdaliadau yn San Steffan, ond fel arall nid yw’n cyffwrdd â phwerau datganoledig. Yr hyn y mae llywodraethau’r DU yn anghytuno yn ei gylch yw sut y bydd y Bil yn effeithio ar gyfreithiau a pholisïau datganoledig yn ymarferol.

Bil Marchnad Fewnol y DU: Ymgais i fachu pŵer?

Mae Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn cytuno y bydd ganddynt fwy o ryddid i wneud cyfreithiau gwahanol ar ôl i’r DU adael marchnad sengl yr UE, felly bydd angen iddynt ddod o hyd i ffyrdd newydd o reoli gwahaniaethau a diogelu masnach fewnol. Fodd bynnag, nid ydynt yn cytuno sut y dylent wneud hyn.

Yn 2017, cytunodd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i gydweithio i reoli gwahaniaethau rheoleiddiol mewn meysydd datganoledig drwy sefydlu fframweithiau cyffredin. Byddai’r rhain yn pennu safonau gofynnol a’r paramedrau y gallai gwahaniaethau ddatblygu oddi mewn iddynt. Fodd bynnag, erbyn hyn, mae Llywodraeth y DU yn dweud na fydd fframweithiau cyffredin yn gwneud digon i warantu uniondeb y farchnad fewnol yn ei chyfanrwydd. Mae’n dadlau bod angen Bil y Farchnad Fewnol i sicrhau y gall cwmnïau fasnachu heb rwystrau ym mhob rhan o’r DU. Mae’r llywodraethau datganoledig yn anghytuno.

Byddai’r Bil yn sefydlu rheolau newydd i lywodraethu nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau yn y DU yn yr holl feysydd polisi, gan gynnwys rhai datganoledig. Mae’n gwneud hyn drwy roi dwy egwyddor allweddol yn y gyfraith: cydnabyddiaeth gilyddol a dim gwahaniaethu. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu y bydd modd i unrhyw nwydd neu wasanaeth sy’n bodloni’r safon ofynnol mewn un rhan o’r DU gael ei werthu’n awtomatig mewn rhannau eraill o’r DU, heb orfod bodloni’r safonau sydd mewn grym yn y rhannau eraill hynny.

Er enghraifft, pe bai’n gyfreithlon gwerthu bwydydd o gnydau a addaswyd yn enetig yn Lloegr heb eu labelu fel bwydydd GM, gellid eu gwerthu yng Nghymru waeth beth fo’r rheolau ynghylch labelu bwydydd GM. Gallai’r Senedd a Llywodraeth Cymru (yn amodol ar brofion ar gyfer cymhwysedd deddfwriaethol, gan gynnwys hawliau dynol) gyflwyno gwaharddiad, ond dim ond i gynhyrchwyr o Gymru y byddai’n gymwys, ac ni fyddent yn cael gwahaniaethu yn erbyn cynhyrchwyr o Loegr os nad oeddent yn bodloni safonau Cymru. Byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r Senedd benderfynu a fyddent am gymryd y risg o roi cynhyrchwyr o Gymru dan anfantais gystadleuol cyn cyflwyno gwaharddiad o’r fath, gan na fyddent yn cael atal nwyddau a addaswyd yn enetig a heb label i nodi hynny rhag cael eu gwerthu yng Nghymru.

Mae Nodiadau Esboniadol y Bil yn cydnabod bod y darpariaethau hyn yn gosod terfyn newydd ar effaith cyfreithiau datganoledig, ond maent yn nodi bod  y gwrthbwysir hyn gan leihad yn y risg y gallai mwy o wahaniaethau arwain at rwystrau ychwanegol i fusnesau. Mae’r asesiad o effaith y Bil gan Lywodraeth y DU yn asesu manteision economaidd y Bil o’u cymharu â’r senario wrthffeithiol o gyfundrefnau rheoleiddiol ar wahân sydd heb eu rheoli. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn dweud eu bod yn dal i fod yn ymrwymedig i gytuno ar fframweithiau cyffredin ac yn dadlau y byddai’r rhain yn darparu mecanwaith digonol ar gyfer rheoli gwahaniaethau. Cewch ragor o wybodaeth am fframweithiau cyffredin yn ein papur briffio o fis Gorffennaf eleni.

Cymharu’r marchnadoedd mewnol

Barn Llywodraeth y DU yw y bydd marchnad fewnol y DU yn fwy democrataidd na Marchnad Sengl yr UE, oherwydd y bydd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn cael arfer cyfrifoldebau a oedd yn gyfrifoldebau’r UE gynt. Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig ar 10 Medi, dadleuodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y byddai marchnad fewnol y DU yn gam ymlaen yn ddemocrataidd ac yn economaidd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno. Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod Aelod-wladwriaethau ym Marchnad Sengl yr UE yn gweithio ar y cyd i greu rheolau. O dan y Bil, Llywodraeth a Senedd y DU yn unig fyddai’n gwneud y rheolau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dadlau bod Marchnad Sengl yr UE yn diogelu ymreolaeth y llywodraethau i wneud eu polisïau eu hunain drwy ganiatáu i’r llywodraethau gyflwyno cyfreithiau sy’n atal rhyddid i symud nwyddau a gwasanaethau, ar yr amod y gellir cyfiawnhau’r rhain am resymau cymesur o ran budd y cyhoedd, megis safonau amgylcheddol neu ddiogelu defnyddwyr. O dan Fil y Farchnad Fewnol, dim ond am resymau cyfyngedig y byddai llywodraethau yn cael cyfiawnhau gwaharddiadau o egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol a dim gwahaniaethu, megis argyfyngau o ran iechyd y cyhoedd neu o ran iechyd anifeiliaid a phlanhigion. Mae’r papur hwn gan Dr Kathryn Wright o Brifysgol Efrog, a luniwyd ar gyfer Pwyllgorau’r Senedd, yn crynhoi’r gwaharddiadau a ganiateir o dan reolau Marchnad Sengl yr UE. Mae’n esbonio pam roedd Senedd yr Alban yn cael deddfu am isafbris uned am alcohol, er iddo fynd yn groes i rai o reolau’r Farchnad Sengl.

Gan fynd ymhellach yn ôl mewn amser, mae Llywodraeth y DU yn dadlau bod dull gweithredu’r Bil yn gyson â’r ffordd roedd y farchnad fewnol yn arfer gweithio cyn i’r DU ymuno â’r Gymuned Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae’r llywodraethau datganoledig yn herio hyn hefyd. Yn ei hymateb i’r Papur Gwyn, dywedodd Llywodraeth yr Alban y canlynol:

The framework for executive and legislative decision making in the UK was changed fundamentally by devolution in 1998 which created sources of legislative and executive authority beyond Westminster and Whitehall.

Y camau nesaf

Mae Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn credu nad oes dim siawns y bydd y Senedd yn cydsynio i’r Bil. I gael gwybod mwy am y Bil a sut y byddai’n effeithio ar ddatganoli yn ymarferol, gallwch ddarllen papur briffio’r Gwasanaeth Ymchwil.


Erthygl gan Nia Moss a Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: