- Rhoi statws mwy ffurfiol yn y system gynllunio i ‘Gynlluniau Lleoedd’ ar lefel gymunedol a rhoi mwy o lais i gymunedau wrth baratoi cynlluniau datblygu eraill;
- Gwelliannau amrywiol i gryfhau'r broses o ystyried effaith cynigion datblygu ar yr iaith Gymraeg;
- Creu cysylltiadau statudol rhwng cynlluniau trafnidiaeth a chynlluniau defnydd tir a hefyd rhwng cynlluniau morol a chynlluniau’r tir;
- Peidio ag uno awdurdodau cynllunio lleol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol;
- Cryfhau'r trefniadau i’r Cynulliad graffu ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a fydd yn disodli Cynllun Gofodol Cymru;
- Dileu hawliau pleidleisio aelodau anetholedig o Baneli Paneli Cynllunio Strategol a fydd yn gyfrifol am gynhyrchu Cynlluniau Datblygu Strategol ‘rhanbarthol’ newydd mewn rhai rhannau o Gymru;
- Newidiadau amrywiol i'r gyfundrefn ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol newydd, lle bydd Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar geisiadau penodol – mae’r newidiadau’n cynnwys diffinio Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn y Bil yn hytrach nag mewn is-ddeddfwriaeth a chyflwyno amserlen ar gyfer penderfyniadau Gweinidogion Cymru ar y ceisiadau hyn;
- Caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd lleol yn y Cynllun Dirprwyo Cenedlaethol a fydd yn pennu pryd y bydd swyddogion neu bwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol yn penderfynu ar geisiadau;
- Cadw'r gofyniad i gael Datganiadau Dylunio a Mynediad ar gyfer rhai ceisiadau cynllunio;
- Diwygio'r cynigion yn y Bil ar gyfer cofrestru Meysydd Tref neu Bentref. Ar hyn o bryd, mae’r cynigion hyn yn ceisio cyfyngu ar gyfleoedd i gofrestru’r rhain pan ddaw tir yn rhan o’r system gynllunio.
Rydym yn arbennig o falch bod y Pwyllgor wedi argymell y dylid cynnwys amserlenni statudol ar gyfer archwilio’r categori newydd, Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, ar wyneb y Bil. Roedd hyn yn bwysig iawn i ni a’n haelodau, ac os derbynnir yr argymhelliad bydd yn helpu i sicrhau bod gan ddatblygwr hyder yn system gynllunio Cymru ac yn sicrhau’r buddsoddiad sydd ei angen i drawsnewid ein cyflenwad ynni.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi croesawu'r adroddiad a'r argymhellion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg:
Rydyn ni'n croesawu'r adroddiad yn fawr iawn, yn enwedig ei gefnogaeth i roi'r Gymraeg yn ganolog i'r system ac i rymuso ein cymunedau. Rydyn ni nawr yn disgwyl i'r Llywodraeth dderbyn yr argymhellion, a fyddai'n gwneud y system gynllunio'n fwy cynaliadwy. Os nad ydy'r Llywodraeth yn gwrando, mi fyddwn ni'n ystyried herio'r Bil yn y llysoedd. Mae hwn yn fater mor bwysig i'r Gymraeg ac o ran grymuso cymunedau, mae'n rhaid i ni ystyried pob opsiwn posib er mwyn cael y maen i'r wal.Mae'r Gymdeithas Mannau Agored "wrth ei bodd bod Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am fesurau gwell i ddiogelu meysydd pentref."
Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.