- O ystyried pwysigrwydd gweithgynhyrchu i Gymru, byddai gosod tariffau yn peri risg sylweddol i’r sector hwn, yn enwedig i’r gweithgynhyrchwyr sy’n gysylltiedig â chadwyni gwerth byd-eang;
- Mae risg sylweddol i’r fasnach mewn cynhyrchion amaethyddol;
- Heb ystyriaeth ofalus, bydd cyfyngu ar allu dinasyddion yr UE i weithio yn y DU ar ôl Brexit yn cael effaith niweidiol ar lawer o wasanaethau cyhoeddus, ar rai busnesau ac ar brosiectau seilwaith yn y dyfodol yng Nghymru.
- Mater o’r brys mwyaf i’r sector addysg uwch yng Nghymru yw cael eglurhad ar statws dinasyddion yr UE sy’n gweithio ac yn astudio yng Nghymru;
- Dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth baratoi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau.
- Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio ei Phapur Gwyn arni, gan gynnwys manylion y gwaith sydd wedi’i wneud ar fodelu senarios ym mhob sector.
- Dylai Llywodraeth Cymru roi cofrestr risgiau i’r Pwyllgor ar gyfer pob maes lle y bydd Brexit yn effeithio ar ei gweithgarwch.
- Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r camau y mae wedi’u cymryd er 24 Mehefin 2016 i sicrhau ei bod yn cael gafael ar y swm mwyaf posibl o gyllid Ewropeaidd ac yn ei ddefnyddio cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
- Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i’w chynnwys yn llawn wrth lunio’i safbwynt ar gyfer y trafodaethau. Dylai gymryd rhan yn uniongyrchol yn y trafodaethau hynny sy’n ymwneud â phwerau datganoledig, neu â materion sy’n effeithio ar bwerau datganoledig.
- Mae’r Pwyllgor hefyd yn dod i’r casgliad y byddai sicrhau priodoldeb cyfansoddiadol yn gofyn cael cydsyniad y Cynulliad ar gyfer yr holl Ddeddfau posibl sy’n gysylltiedig â Brexit a gyflwynid gan Senedd y DU.
- Mae’r Pwyllgor yn nodi, petai’r Bil Diddymu yn tarfu ar y setliad datganoli, y byddai’n cefnogi egwyddor gwarchod y setliad datganoli drwy gyflwyno ‘Bil Parhad i Gymru’.
- pob cyfraith ddomestig sy’n gymwys i Gymru a wnaed at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE-nghyfraith / disgresiwn, a
- yr holl hawliau a’r rhwymedigaethau sy’n uniongyrchol berthnasol/uniongyrchol effeithiol sy’n deillio o gyfraith yr UE
Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.