- NUTS1: 12 ardal yn y DU - Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a naw rhanbarth Lloegr.
- NUTS2: 37 o ardaloedd neu isranbarthau yn y DU - grwpiau o siroedd ac awdurdodau unedol yn bennaf.
- NUTS3: 139 o ardaloedd yn y DU - siroedd unigol ac awdurdodau unedol (a elwir yn ardaloedd lleol hefyd) yn bennaf.
- Yn 2014, roedd gan Gymru yr ail gynnydd isaf mewn GYG y pen o'r 12 rhanbarth NUTS1 (2.1 y cant). Dim ond yng Ngogledd Iwerddon y bu twf llai (1.9 y cant).
- Roedd GYG y pen yng Nghymru yn 2014 yn £17,573, neu'n 71.4 y cant o gyfartaledd y DU (gostyngiad o 1.1 pwynt canran ers 2013, o gymharu â chyfartaledd y DU).
- GYG y pen yng Nghymru yn 2014 oedd yr isaf o'r 12 rhanbarth NUTS1 yn y DU, ac mae wedi bod yr isaf bob blwyddyn ers 2001.
- Ar lefel NUTS2, roedd GYG y pen yn nwyrain Cymru yn 84.0 y cant o gyfartaledd y DU, sef gostyngiad o 1.8 pwynt canran ers 2013. Roedd GYG y pen yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 2014 yn 64.0 y cant o gyfartaledd y DU, sef gostyngiad o 0.7 pwynt canran o gymharu â 2013.
- Yn 2014, GYG y pen yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd oedd yr isaf o holl ardaloedd NUTS2 y DU, sef 64.0 y cant o gyfartaledd y DU.
- Yn 2014, roedd y ddwy ardal NUTS3 a oedd â’r GYG y pen isaf yn y DU ill dwy yng Nghymru (roedd Cymoedd Gwent yn 54.8 y cant o gyfartaledd y DU ac roedd Ynys Môn yn 53.5 y cant o gyfartaledd y DU.)
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn 'yn rhannol' ac ystyriwyd y mater wedi hynny fel rhan o adolygiad o’r data economaidd a wnaed gan y Prif Economegydd a'r Prif Ystadegydd. Mae canfyddiadau’r adolygiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015, yn nodi bod “ystod o opsiynau ar gyfer llunio dangosydd chwarterol o GYG”. Fel y disgwylir mae ystod o gostau hefyd, o’r opsiwn costau isaf a fyddai’n cynnwys costau ychwanegol “bach iawn”, i’r costau o ddatblygu GYG “llawn” a fyddai’n costio mwy “nag £1 filiwn gyda’r potensial o gostau rheolaidd uchel iawn.” Casgliad yr adolygiad oedd:Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i wella ansawdd ac amseroldeb yr ystadegau economaidd sydd ar gael i Gymru. Yn benodol, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol neu ei chomisiynu i gynhyrchu ffigurau Cynnyrch Domestig Gros ar gyfer Cymru, ar yr un sail ac amlder ag y bydd yn ei wneud ar gyfer y DU.
Felly, mae’n edrych yn debyg y bydd y dull presennol o gynhyrchu ystadegau GYG yn flynyddol ar gyfer Cymru’n unig yn parhau yn y dyfodol. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn SaesnegFelly, er na chynigir llunio GYG chwarterol yn y byrdymor i ddiwallu anghenion Llywodraeth Cymru ei hun, bydd angen i'r Prif Ystadegydd ystyried ymhellach yr achos dros weithredu ar yr opsiwn costau isaf, gan gynnwys y manteision a'r problemau sy'n gysylltiedig â mesur o'r fath, pe bai lefel uchel o alw gan randdeiliaid wedi'i mynegi yn yr ymateb i gylchoedd yr ymgynghoriad rheolaidd yn y dyfodol a gynhelir ar ystadegau economaidd.