Cofnod Blog ar Ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar Adolgyiad Hill

Cyhoeddwyd 26/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

26 Tachwedd 2013 Erthygl gan Michael Dauncey, National Assembly for Wales Research Service Y prynhawn yma, bydd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, yn gwneud datganiad i'r Cyfarfod Llawn ar 'Adolygiad Hill'. Cafodd adolygiad Robert Hill, Darparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol ei gyhoeddi ar 18 Mehefin 2013, a gwnaeth Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, ddatganiad, hefyd, yn cyhoeddi ymgynghoriad 12 wythnos ar yr holl opsiynau yn yr adroddiad. Roedd Hill yn nodi cyfanswm o 85 o opsiynau o dan y pum pennawd a ganlyn:
  • Gwella addysgu a dysgu
  • Cryfhau arweinyddiaeth ysgolion
  • Cynyddu partneriaethau rhwng ysgolion o fewn cyd-destun sy'n cynnig rhagor o annibynniaeth
  • Gwella atebolrwydd
  • Trefnu swyddogaethau gwella ysgolion
Daeth adroddiad Robert Hill i'r casgliad mai gwella ansawdd addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth oedd yr unig ffordd i ysgolion godi safonau cyflawni.  Roedd llawer o'r opsiynau a gyflwynodd yn canolbwyntio ar sut y gallai hyn, ynghyd ag arweinyddiaeth gryfach mewn ysgolion, gael eu cyflawni.  Canfu adroddiad Hill, fodd bynnag, bod y trefniadau presennol ar gyfer swyddogaethau gwella ysgolion yng Nghymru yn "ddifrifol o anfoddhaol".  Felly cyflwynodd nifer o opsiynau, a oedd yn cynnwys cael gwared ar draean o wasanaethau addysg yr awdurdodau lleol erbyn mis Ebrill 2014, naill ai drwy uno'n wirfoddol neu drwy ymyrraeth Gweinidogol ar ôl cael arolygiad anfoddhaol gan Estyn. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymateb i ddau o'r opsiynau gwella ysgolion, sef y rhai yr oedd yn eu hystyried y rhai mwyaf brys, a gwnaeth y Gweinidog ddau ddatganiad y mis diwethaf. Yn gyntaf, ar 1 Hydref 2013, dywedodd y byddai awdurdodau lleol yn cadw eu cyfrifoldeb statudol dros addysg, ond y byddai model cenedlaethol ar gyfer gweithio rhanbarthol ac y byddai consortia rhanbarthol yn cael eu hariannu'n uniongyrchol drwy frigdorri'r Grant Cynnal Refeniw (RSG).  Yn ddiweddarach, ar 7 Hydref 2013, yn dilyn trafodaethau â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cyhoeddwyd y byddai awdurdodau lleol yn parhau i gael cyllid gwella ysgolion drwy'r Grant Cynnal Refeniw ond y byddai tua £19 miliwn yn cael ei glustnodi neu ei ddiogelu yn 2014-15 ar gyfer gwaith y consortia rhanbarthol fel y nodir yn y model cenedlaethol.  Yn ogystal, bydd angen i lywodraeth leol ymrwymo i 'Gytundeb Darparu Addysg' rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru ac, os na fydd awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'r cytundeb, byddant yn colli rheolaeth ar y cyllid gwella ysgolion y flwyddyn ganlynol. Yn ei ddatganiad ar 1 Hydref 2013, dywedodd y Gweinidog bod gweddill yr opsiynau yn adroddiad Hill (ac eithrio'r ddau y cyfeiriodd atynt yn yr adroddiad hwnnw) yn "dal i gael eu dadansoddi" ac y byddai'n "gwneud datganiad pellach am hynny maes o law".