Craffu ar waith y Prif Weinidog newydd ynglŷn â chefnogaeth i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Cyhoeddwyd 26/04/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 26 Ebrill 2024, mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal sesiwn graffu ar gefnogaeth i Blant sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal gyda Vaughan Gething AS, y Prif Weinidog newydd.

Rydym wedi llunio papur briffio sy’n nodi rhai o’r materion allweddol y gallai'r Pwyllgor eu trafod. Mae ein Briff Ystadegol diweddaraf ar Blant sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal 2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, hefyd yn nodi'r ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd.

Mae’r gwaith craffu hwn gan y Pwyllgor yn dilyn cyhoeddi dau adroddiad gan bwyllgorau’r Senedd yn 2023 ar sut y cefnogir y grŵp hwn o blant, a chrynhoir y wybodaeth yn ein herthygl Diwygio radical ar gyfer gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Yn ystod y sesiwn hon, bydd Vaughan Gething AS hefyd yn cael ei holi’n fanwl ar ei flaenoriaethau fel Prif Weinidog newydd. Rydym wedi llunio papur briffio ar wahân sy’n nodi addewidion Vaughan Gething yn ei ymgyrch i fod yn arweinydd Llafur Cymru a’r ymrwymiadau a wnaed ers iddo ddod yn Brif Weinidog.

Gellir gwylio cyfarfod y Pwyllgor yn fyw, neu ar alw, ar SeneddTV. Hefyd cyhoeddir trawsgrifiad o’r cyfarfod.


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru