Beth yw Sefyllfa Byd Natur flwyddyn ar ôl cyhoeddi adroddiad?

Cyhoeddwyd 11/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Mehefin 2013 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru   [caption id="attachment_1299" align="aligncenter" width="300"]Llun gan Linton Snapper Flickr .Licensed under Creative Commons. Llun gan Linton Snapper Flickr .Licensed under Creative Commons.[/caption]  

Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd adroddiad Sefyllfa Byd Natur gan glymblaid o 25 o sefydliadau bywyd gwyllt. Roedd yr adroddiad yn ystyried sefyllfa byd natur yn y DU, ac yn dod i'r casgliad, o'r 3148 o rywogaethau a astudiwyd fel rhan o'r adroddiad, roedd 60% wedi dirywio dros y degawdau diwethaf yn y DU, gydag un rhywogaeth o bob 10 mewn perygl o ddiflannu. Yn ei ymateb cychwynnol i ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd:

Er bod yr adroddiad yn cyflwyno rhai hanesion o lwyddiant nodedig o ran cadwraeth, fel cynnydd mewn rhywogaethau fel ystlumod pedol, y barcud coch a’r dyfrgi, mae’r adroddiad yn amlwg yn tynnu sylw at ddirywiad dramatig nifer o rywogaethau. Mae’n amlwg na all y sefyllfa barhau fel y mae, na dirywio ymhellach. [fy mhwyslais i]

Flwyddyn bron ers cyhoeddi’r adroddiad, cynhaliodd Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd sesiwn bord gron ar 21 Mai i asesu graddfa’r cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf. Yn 2010, cynhaliodd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad blaenorol hefyd ymchwiliad i ystyried pam mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chyrraedd targed 2010 i atal colli bioamrywiaeth, a gwnaed 19 o argymhellion ar gyfer gwella. Ystyriwyd y cynnydd a wnaed yn ôl yr argymhellion hyn hefyd.

Beth oedd gan y tystion i’w ddweud wrth y Pwyllgor?

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r glymblaid a luniodd yr Adroddiad. Er eu bod yn croesawu’r gefnogaeth wleidyddol i’r camau i fynd i’r afael â dirywiad bioamrywiaeth, mynegwyd teimlad o rwystredigaeth ynghylch cyflymder y cynnydd a wnaed. Dywedodd y sefydliadau bod angen brys i Lywodraeth nodi gweledigaeth glir yngl ŷn â’r hyn y bydd cyflawni ein targedau bioamrywiaeth yn ei olygu i Gymru, a chyhoeddi strategaeth sy’n nodi'r camau y bydd angen eu cymryd i gyflawni newid sylfaenol. Wrth siarad yn y sesiwn, dywedodd Katie -Jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru:

The piece that we have yet to see from Government is a clear strategy or plan as to what it is that needs to be recovered by when and a really clear idea of what success would look like, because so much flows from that. The resources of the other sectors—the private sector, the third sector—and across the public sector—can be galvanised towards the same shared endeavour. That clarity is lacking.

Gallwch wylio'r sesiwn yn llawn ar Senedd TV yma. Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn am ragor o wybodaeth am y cynnydd a wnaed, ac efallai y bydd yn trafod rhai o’r materion a godwyd yn ystod ei sesiwn graffu cyffredinol gyda'r Gweinidog yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf.