Mynd gyda’r llif: llinell amser o ran perfformiad Dŵr Cymru

Cyhoeddwyd 19/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae cwmnïau dŵr mewn sefyllfa hollbwysig ar gyfer diogelu iechyd yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. Mae pryder ynghylch llygredd ein dyfrffyrdd wedi bod yn cynyddu, ac o ganlyniad, mae gwaith craffu ar arferion cwmnïau dŵr wedi dod yn fwy llym.

Er gwaethaf hyn, a buddsoddi parhaus i wella’r gwasanaethau, mae perfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru yn parhau i ddirywio. Ddydd Mercher 24 Ebrill, bydd y Senedd yn cynnal dadl ar yr adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Yn yr adroddiad mae Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor yn dweud bod angen i’r cwmni “wella ei berfformiad o ddifrif”.

Mae'r llinell amser isod yn amlygu datblygiadau allweddol yn y blynyddoedd diwethaf o ran perfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru, a sut mae rheoleiddwyr a seneddau wedi ymateb.

14 Mawrth 2024

Mewn ymchwiliad gan Ofwat i broblemau a nodwyd, ac a hunan-nodwyd gan Dŵr Cymru, ar ei berfformiad o ran gollyngiadau a data ar y defnydd y pen, canfuwyd bod Dŵr Cymru wedi camarwain cwsmeriaid a rheoleiddwyr a gorchmynnwyd y cwmni i dalu £40 miliwn ar gyfer pecyn gwneud iawn i gwsmeriaid.

29 Chwefror 2024

Anfonwyd Data Monitro Hyd Digwyddiad 2023 (EDM) Dŵr Cymru at Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae'r data yn cofnodi nifer yr amseroedd a hyd yr amseroedd y mae gorlifoedd storm wedi bod yn parhau.

Adroddir bod y data yn dangos 105,943 o orlifoedd, ac roedd 93 y cant ohonynt wedi'u graddio'n "sylweddol", a bod gorlifoedd storm yn gweithredu am dros 916,000 o oriau.

Dywedodd Dŵr Cymru fod y nifer fwy o ollyngiadau o ganlyniad i dywydd gwlyb yn 2023, gan fod gorlifoedd storm wedi'u cynllunio i weithredu pan fydd gormod o ddŵr glaw yn mynd i mewn i'r system.

8 Chwefror 2024

Cyhoeddodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ei Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru. Galwodd ar Dŵr Cymru i:

  • egluro sut mae’n cynllunio ar gyfer pwysedd o ran yr hinsawdd yn y dyfodol, er mwyn lliniaru digwyddiadau llygredd difrifol.
  • ymrwymo i osod targed mwy ymestynnol ar gyfer lleihau achosion o lygredd erbyn 2030; ac
  • ymrwymo i uchelgais o ddim achosion o lygredd yn yr amser byrraf posibl.

Mae Llywodraeth Cymru, Ofwat, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wedi ymateb.

22 Tachwedd 2023

Cafodd Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU ragor o dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i ansawdd dŵr yng Nghymru.

Bu ymgyrchwyr (gan gynnwys yr Athro Peter Hammond), Cyfoeth Naturiol Cymru, Ofwat a Dŵr Cymru yn trafod adroddiadau am ollyngiadau dŵr gwastraff anghyfreithlon heb eu trin a materion eraill.

9 Tachwedd 2023

Clywodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith dystiolaeth gan Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat am y cynnydd parhaus o ran gorlif carthffosydd yn gweithredu y tu hwnt i amodau eu trwydded.

Craffwyd ar berfformiad amgylcheddol diweddar Dŵr Cymru, ac adroddodd ynghylch dadansoddiad a oedd yn dangos nifer o achosion o dorri amodau trwyddedau ledled Cymru. Craffwyd ar Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch ei ymateb i’r digwyddiadau hynny.

24 Hydref 2023

Diweddarwyd camau gweithredu Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru i ddangos cynnydd yn erbyn y camau gweithredu.

23 Hydref 2023

Roedd Adroddiad ar Berfformiad Cwmniau Dŵr gan Ofwat yn graddio Dŵr Cymru fel cwmni a oedd “ar ei hôl hi”. Bydd yn rhaid i Dŵr Cymru ddychwelyd arian i gwsmeriaid drwy leihau biliau o ganlyniad i hyn.

19 Hydref 2023

Adroddwyd bod Dŵr Cymru wedi “cyfaddef ei fod yn gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon o ddwsinau o'i weithfeydd prosesu”.

Gwnaed y dadansoddiad o ddata Dŵr Cymru a arweiniodd at yr adroddiad gan yr Athro Peter Hammond o'r ymgyrch Windrush Against Sewage Pollution (WASP). Roedd yn dangos bod “2,274 diwrnod o dorri trwydded yn ymwneud â gollwng carthion heb ei drin” rhwng 2018 a 2023.

Mewn ymateb, cadarnhaodd Dŵr Cymru ei gynlluniau i gyflymu buddsoddiad ar gyfer gwella ansawdd dŵr, gan gynnwys buddsoddiad o £20 miliwn mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff newydd yn Aberteifi, a oedd wedi’i nodi fel un o’r safleoedd a oedd wedi gwneud waethaf o ran perfformiad.

2 Hydref 2023

Cyflwynodd Dŵr Cymru ei Gynllun Busnes arfaethedig ar gyfer 2025-30 i Ofwat.

Os cymeradwyir ef, bydd Dŵr Cymru yn buddsoddi bron £19 biliwn yn yr amgylchedd rhwng 2025 a 2030 – sydd 84% yn rhagor nag a fuddsoddodd rhwng 2020 a 2025. Mae’r swm hwn, fodd bynnag, wedi cynyddu ers hynny, i gynnwys gwariant ychwanegol ar yr amgylchedd, ochr yn ochr â chynnydd arfaethedig i filiau blynyddol cyfartalog cwsmeriaid.

25 Gorffennaf 2023

Ysgrifennodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at Dŵr Cymru yn mynegi pryder ynghylch ei ddirywiad o ran ei berfformiad amgylcheddol.

Ymatebodd Dŵr Cymru gan roi esboniadau am y dirywiad. Dywedodd y “dylid ystyried y sychder a'r tymheredd uchel a brofwyd yn 2022 wrth asesu ein perfformiad llygredd.”

12 Gorffennaf 2023

Israddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru Dŵr Cymru i sgôr 2-seren (sef, bod angen gwella) (yr uchafswm posibl yw 4-seren) yn dilyn dirywiad pellach o ran ei berfformiad amgylcheddol.

Adroddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod achosion o lygredd wedi codi 7 y cant yn 2022, a bod Dŵr Cymru wedi achosi 89 o ddigwyddiadau llygredd carthion (cafodd 84 o’r rhain eu categoreiddio fel rhai oedd yn cael effaith amgylcheddol isel ac roedd pump ohonynt yn cael eu hystyried fel rhai oedd yn cael effaith fawr neu sylweddol).

Hefyd, bu dirywiad o 7 y cant yn ôl yr hyn y mae Dŵr Cymru ei hun yn nodi ynghylch ei berfformiad o ran digwyddiadau llygredd o gymharu â 2021, gyda dim ond 69 y cant o achosion o lygredd wedi’u hunan-nodi yn 2022.

15 Mawrth 2023

Cynhaliodd Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU ddwy sesiwn dystiolaeth a oedd yn edrych ar ansawdd dŵr yng Nghymru gydag ymgyrchwyr, cwmnïau dŵr ac Ofwat.

Roedd Cadeirydd y Pwyllgor, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, yn galw am ragor o frys i atal rhagor o ollyngiadau carthion niweidiol.

5 Gorffennaf 2022

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Dasglu Ansawdd Afonydd Gwell yng Nghymru i “werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifo yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym”.

Cyhoeddwyd pum cam gweithredu ar gyfer pob un o'r pum maes a nodwyd bod angen cymryd camau ychwanegol ynddynt.

Dechrau 2022

Mewn ymateb i brotestiadau cyhoeddus dros ollyngiadau carthion, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ymchwiliad cychwynnol i orlifoedd carthffosydd a'u heffaith ar ansawdd dŵr.

Gwnaeth nifer o argymhellion i Dŵr Cymru, a oedd yn canolbwyntio ar well monitro a gwell dulliau adrodd ynghylch gollyngiadau carthion a'u heffaith.

Mewn ymateb, cydnabu Dŵr Cymru fod “angen gwneud rhagor, ac y gellir gwneud rhagor i leihau faint o ollyngiadau sydd o Orlifoedd carthffosydd/gorlifoedd storm cyfun [CSO]”.

Ceir rhagor o fanylion yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru