Diwygio’r diwygiadau: rhagor o newidiadau’n debygol i’r PAC

Cyhoeddwyd 29/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ers ei enwebu i’r swydd, mae Comisiynydd Amaethyddiaeth newydd yr UE, Phil Hogan, wedi dangos yn glir mai ei fwriad yw ceisio symleiddio’r PAC ac, yn benodol, symleiddio gofynion newydd y PAC. Er mai dim ond ar 1 Ionawr 2015 y daeth y fersiwn ddiweddaraf o’r PAC i rym yn llawn, mae’n ymddangos bod newidiadau ar y gweill eisoes. Mae’r Comisiynydd Hogan wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o’r modd y mae’r PAC newydd yn gweithio, a hynny erbyn diwedd 2015, ac mae wedi addo cyflwyno unrhyw newidiadau’n fuan iawn wedyn. Mae parodrwydd y Comisiynydd Hogan i ystyried symleiddio’r PAC ymhellach eisoes wedi ysgogi Aelodau Senedd Ewrop ac aelod-wladwriaethau i gynnig nifer o awgrymiadau tra bo cyrff anllywodraethol yn ymwneud â’r Amgylchedd wedi rhybuddio rhag gwanhau rhinweddau gwyrdd y diwygiadau. [caption id="attachment_2252" align="alignright" width="300"]Craffu ar waith Phil Hogan yn Senedd Ewrop, "© Undeb Ewropeaidd – Senedd Ewrop" trwyddedwyr o dan Creative Commons Craffu ar waith Phil Hogan yn Senedd Ewrop, "© Undeb Ewropeaidd – Senedd Ewrop" trwyddedwyr o dan Creative Commons[/caption] Anfonodd Comisiynydd Hogan lythyr at yr aelod-wladwriaethau i ofyn am awgrymiadau ar gyfer symleiddio’r PAC erbyn diwedd mis Chwefror 2015. Yn ôl AGRAFACTS, yn ei lythyr, amlinellodd y Comisiynydd dair prif egwyddor y byddai angen i unrhyw awgrymiadau gydymffurfio â nhw:
  • Dylai’r penderfyniadau gwleidyddol sylfaenol ynghylch cynnwys y pecyn diwygio yn 2013 barhau, felly dylai unrhyw awgrymiadau ynghylch symleiddio’r PAC ganolbwyntio ar ddiwygiadau y gellir eu cyflwyno o fewn y fframwaith polisi presennol.
  • Ni ddylai’r awgrymiadau wanhau system rheoli ariannol y PAC.
  • Dylai aelod-wladwriaethau roi blaenoriaeth i’r meysydd hynny sy’n peri’r pryder mwyaf i randdeiliaid a lle y byddai lleihau’r baich ariannol o fudd i’r gymuned amaethyddol gyfan.
Latfia sy’n Llywyddu Cyngor yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd, ac mae wedi nodi ei bod yn gobeithio sicrhau cytundeb rhwng yr aelod-wladwriaethau ynghylch y meysydd allweddol i’w symleiddio a hynny yng nghyfarfod y Cyngor Amaethyddol ar 11 Mai 2015. Bydd angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno unrhyw flaenoriaethau drwy gyfrwng Llywodraeth y DU os yw am ddylanwadu ar gasgliadau’r Cyngor. Mae nifer o aelod-wladwriaethau eisoes wedi awgrymu bod gofynion materion gwyrdd y PAC yn faes y byddent yn hoffi eu symleiddio’n sylweddol. Mae Llywodraeth y DU a’r Alban wedi amlinellu hyn fel blaenoriaeth. Mae NFU Cymru hefyd o blaid symleiddio’r rheolau hyn. Os ceir cytundeb cyffredinol clir o blaid symleiddio’r mesurau erbyn diwedd 2015, gallai hynny olygu y bydd y Polisi’n newid dim ond deuddeg mis wedi iddo ddod i rym.
Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.