Bil yr Amgylchedd (Cymru) – gosodwyd heddiw

Cyhoeddwyd 11/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Mai 2015 Erthygl gan Katy Orford a Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru [caption id="attachment_2946" align="alignnone" width="682"]Llun o bili-pala glas cyffredin Llun o Flickr gan Matt Clark. Trwydded Creative Commons.[/caption] Mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) (PDF, 344KB) a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig wedi'u gosod heddiw a chânt eu cyflwyno yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. Mae cynnwys y Bil yn eang ac yn cwmpasu o leiaf wyth maes gwahanol, gan gynnwys rheoli adnoddau naturiol, targedau newid yn yr hinsawdd, rheoli gwastraff a chodi tâl ar fagiau plastig, rheoli pysgodfeydd pysgod cregyn, trwyddedu morol, draenio tir a sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi mai ei nod ar gyfer y Bil yw rhoi deddfwriaeth ar waith a fydd yn golygu y gellir rheoli adnoddau Cymru mewn ffordd sy'n fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig a sefydlu'r fframwaith deddfwriaethol sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae'r Bil y trydydd mewn cyfres o ddarnau arwyddocaol o ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru a fydd yn cael effaith ar reoli'r amgylchedd yng Nghymru. Y darnau eraill o ddeddfwriaeth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a'r Bil Cynllunio (Cymru). Dyma ddelwedd o Amserlen Bil yr Amgylchedd (CymruPrif ddarpariaethau Bil yr Amgylchedd (Cymru) yw:
  1. Hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol
Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fabwysiadu Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno datganiadau ardal sy'n nodi'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol ar lefel ardal. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a fydd yn nodi tystiolaeth ar gynnydd Cymru tuag at ei nodau o ran rheoli adnoddau naturiol a'r amgylchedd. Bydd yn diwygio diben statudol Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn rhoi pwerau gwell iddo gyflawni cytundebau rheoli tir a chynlluniau arbrofol. Bydd hefyd yn cryfhau'r dyletswyddau cyfredol sydd ar awdurdodau cyhoeddus i ystyried bioamrywiaeth.
  1. Sefydlu targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
Bydd y Bil yn cyflwyno targedau statudol i leihau allyriadau a chyllidebu carbon mewn ymgais i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.
  1. Diwygio'r gyfraith sy'n ymwneud â chodi tâl am fagiau plastig
Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cynnig rhoi pwerau ehangach i Weinidogion Cymru godi tâl am fagiau plastig, nid dim ond bagiau untro, a byddai'n golygu y gallai Gweinidogion Cymru ond ei gwneud yn ddyletswydd ar werthwyr i roi unrhyw enillion net o'r taliadau i achosion da. Ar hyn o bryd, gall Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod enillion net yn cael eu cyfeirio at achosion amgylcheddol.
  1. Darparu ar gyfer casglu gwastraff ar wahân, atal gwastraff bwyd rhag cael ei waredu i garthffosydd a darparu ar gyfer atal neu reoleiddio gwastraff a waredir drwy ei losgi
Byddai Gweinidogion Cymru yn cael pwerau ehangach i'w gwneud yn ofynnol bod mathau gwahanol o wastraff yn cael eu casglu ar wahân. Byddai'r Bil yn gwahardd eiddo annomestig rhag gwaredu gwastraff bwyd i garthffosydd ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru atal y broses o losgi rhai mathau o wastraff y gellir ei ailgylchu.
  1. Gwneud darpariaeth ynghylch pysgodfeydd unigol a rheoleiddiedig ar gyfer pysgod cregyn
Bydd y Bil yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 er mwyn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru sicrhau bod Gorchmynion Unigol a Rheoleiddiedig ar gyfer pysgod cregyn yn ystyried yr angen i warchod amgylchedd y môr.
  1. Gwneud darpariaeth ynghylch ffioedd ar gyfer trwyddedau morol
Byddai Gweinidogion Cymru neu gorff sy'n gweithredu ar eu rhan, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gallu cyflwyno taliadau newydd ar gyfer rhai gwasanaethau sy'n gysylltiedig â chyflwyno trwyddedau morol. Byddai'r rhain yn cynnwys taliadau am gyngor cyn gwneud cais a roddir i ddatblygwyr sydd am wneud gweithgareddau morol.
  1. Sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi mai diben y cynnig hwn yw dileu a newid rhai o swyddogaethau statudol y pwyllgor cyfredol, Rheoli Perygl Llifogydd Cymru, er mwyn sefydlu pwyllgor sydd â rôl cynghori/ymgynghori ehangach.
  1. Gwneud mân newidiadau i'r gyfraith ynghylch draenio tir ac is-ddeddfau a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru
Nod y Bil yw diwygio pob adran berthnasol yn Neddf Draenio Tir 1991 er mwyn caniatáu ar gyfer dosbarthiad ehangach sydd wedi'i dargedu'n well ar gyfer hysbysiadau a gweithdrefnau gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar faterion draenio mewnol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer dull apelio fel y gall awdurdodau lleol herio ardollau arbennig a gyflwynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'i swyddogaethau draenio mewnol ac yn ymestyn pwerau Gweinidogion Cymru i fynd ar dir i sicrhau bod perchennog tir wedi cydymffurfio â Gorchymyn i wella problemau gyda draenio ar y tir. Papur Gwyn 2013 Roedd Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar 23 Hydref 2013 yn gofyn am sylwadau ar nifer o gynigion ac mae hyn yn sail i'r Bil newydd. Fodd bynnag, mae nifer o newidiadau arwyddocaol wedi'u gwneud hefyd, gan gynnwys ychwanegu targedau statudol mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd a'r ddyletswydd o ran cryfhau'r fioamrywiaeth a roddir ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod cynnwys y targedau newid yn yr hinsawdd yn adlewyrchu'r sylwadau a fynegwyd yn adroddiad terfynol Y Gymru a Garem ym mis Mawrth 2015 a ganfu yr ystyriwyd mai newid yn yr hinsawdd oedd y mater mwyaf critigol a oedd yn wynebu cenedlaethau'r dyfodol yn ôl pobl Cymru. Caiff y Bil ei ystyried nawr gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad a fydd yn lansio ymgynghoriad ar y Bil ar 15 Mai. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg