Beth sydd nesaf i Borthladdoedd Cymru?

23 Mehefin 2015

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o Borthladd Caerdydd

Llun o Flickr gan Ben Salter trwyddedwyd o dan Creative Commons

Bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyfarfod Llawn am borthladdoedd ddydd Mawrth 7 Gorffennaf.

Porthladdoedd Cymru

Mae gan Gymru 32 o borthladdoedd gydag Aberdaugleddau, Caerdydd, Caergybi, Casnewydd, Port Talbot, Abergwaun ac Abertawe yn aml yn cael eu rhestru fel “prif borthladdoedd” sy’n cludo mwy nag 1 miliwn o dunelli o nwyddau.

Mae Aberdaugleddau, Caerdydd a Chasnewydd hefyd wedi’u dynodi’n borthladdoedd “rhwydwaith craidd” yn yr EU Trans-European Transport Network (TEN-T), tra bod Abertawe, Abergwaun a Chaergybi wedi’u cynnwys ar y “rhwydwaith cynhwysfawr”.

Yng Nghymru, fel yn y DU yn gyffredinol, mae’r sector porthladdoedd dan berchnogaeth breifat yn bennaf ac wedi’i ddadreoleiddio.

Datganoli

Yn wahanol i’r Alban, nid yw polisi porthladdoedd a phenderfyniadau cynllunio wedi’u datganoli ar hyn o bryd yng Nghymru, ac eithrio porthladdoedd pysgota a hamdden bach a theithio o fewn Cymru.

Dogfen bolisi allweddol Llywodraeth y DU yw’r National Policy Statement for Ports.  Mae polisi yng Nghymru a Lloegr yn cael ei arwain gan y farchnad ac nid yw’n ymyrryd. Pwysleisiodd yr Adran Drafnidiaeth fanteision y dull gweithredu hwn yn ei dystiolaeth i ymchwiliad 2012 y Pwyllgor Menter a Busnes i Gysylltedd Rhyngwladol drwy Borthladdoedd a Meysydd Awyr Cymru .

Ym mis Mawrth 2015 Dywedodd y Comisiwn Silk:

Mae’r dystiolaeth a gafwyd am y mater hwn yn galw’n bennaf am ddatganoli datblygu porthladdoedd er mwyn gallu creu polisi arbennig i Gymru gan sicrhau datblygiad economaidd y sector hwn a chreu seilwaith trafnidiaeth integredig ar gyfer nwyddau. Serch hynny, byddai’n bwysig cynnal a chryfhau gallu porthladdoedd Cymru i gystadlu. Credwn y byddai datganoli’n gwella’r cydlyniant rhwng trafnidiaeth leol, cynllunio a datblygu porthladdoedd

Argymhellodd Silk y dylid datganoli “datblygu porthladdoedd, gan gynnwys gorchmynion harbwr a goruchwylio porthladdoedd yr Ymddiriedolaethau”. Mae Porthladdoedd Ymddiriedolaeth yn gyrff statudol annibynnol sy’n cael eu llywodraethu gan eu statudau eu hunain dan reolaeth bwrdd annibynnol lleol. Y porthladdoedd ymddiriedolaeth yng Nghymru yw Aberdaugleddau, Casnewydd, Castell-nedd, Saundersfoot a Chaernarfon.

Roedd y Pecyn datganoli Dydd Gŵyl Dewi yn cytuno â Silk bod “datganoli polisi porthladdoedd yn cydweddu’n dda â chyfrifoldebau presennol y Cynulliad a Llywodraeth Cymru mewn meysydd megis datblygu economaidd, trafnidiaeth a thwristiaeth”. Caiff hyn ei gadarnhau yn y nodiadau cefndir i Araith y Frenhines.

Argymhellion Allweddol y Pwyllgor Menter a Busnes

Gwnaeth y Pwyllgor Menter a Busnes 11 o argymhellion ynglŷn â phorthladd yn ei adroddiad ar yr ymchwiliad i borthladdoedd a meysydd awyr.  I ddechrau Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2012 , a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor ym mis Hydref 2014 .

Ymhlith argymhellion eraill, cynigiodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaethau dichonoldeb ar forgludiant byr (hy masnach arfordirol a chludo nwyddau) a logisteg porthladd-ganolog (sy’n cynnwys sefydlu canolfannau dosbarthu mewn porthladdoedd).   Er bod papur y Gweinidog ym mis Hydref 2014 yn tynnu sylw at y ffaith na wnaeth ei Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gludo Nwyddau nodi achos dros gynnal astudiaethau pellach i forgludiant byr, dywedodd wrth y Cynulliad yn ystod Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar borthladdoedd  ar 22 Hydref 2014

Hyd yn hyn, y farn gyffredinol oedd y byddai’r cyfleoedd yn gyfyngedig. Fodd bynnag, rwy’n awyddus i brofi’r awydd cyfredol yn y farchnad am wasanaethau o’r fath ac i ganfod pa gamau a allai fod eu hangen i hwyluso cynnydd. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at Grŵp Porthladdoedd Cymru, sy’n dwyn holl fuddiannau porthladdoedd Cymru ynghyd, i ofyn iddo ystyried y mater ac i roi barn y sector ar y potensial ar gyfer cynyddu morgludiant o borthladd i borthladd yng Nghymru cyn adrodd yn ôl i’r Cynulliad wrth gwrs.

Tynnodd y Pwyllgor hefyd sylw at  bwysigrwydd strategol porthladdoedd i’r sector ynni adnewyddadwy. Nododd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) i hwyluso datblygiad y sector ynni adnewyddadwy.  Daeth y papur i’r casgliad:

Er gwaethaf y newyddion siomedig ynghylch fferm wynt “Rhiannon” ac “Atlantic Array” ar y môr,  rydym yn obeithiol bod cyfleoedd posibl o hyd ar gyfer Porthladdoedd Cymru o ran buddsoddiad yn y dyfodol mewn ffermydd gwynt ar y môr, ardaloedd arddangos morol a morlyn llanw Bae Abertawe. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda gweithredwyr porthladdoedd a buddsoddwyr i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy sy’n bresennol drwy’r gadwyn gyflenwi.

Yn olaf, gwnaeth y Pwyllgor ddau argymhelliad ar dwristiaeth, yn enwedig twristiaeth mordeithiau. Roedd y Pwyllgor wedi canfod bod y farchnad mordeithiau yn fywiog, a bod cyfleoedd i Gymru.  Fodd bynnag, nid oedd y cyfleoedd hyn yn cael eu defnyddio’n llawn ac mae angen buddsoddi yng Nghymru ond, er y byddai o fudd i dwristiaeth Cymru, efallai na fyddai’n creu digon o elw i gyfiawnhau i’r porthladdoedd eu hunain fuddsoddi. Dywedodd CruiseCymru wrth y Pwyllgor fod porthladdoedd Iwerddon wedi buddsoddi “yn sylweddol” yn y seilwaith.  Canfu hefyd yr angen i fuddsoddi mewn marchnata i ddatblygu’r farchnad mordeithiau.

Amlinellodd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ym mis Hydref 2014 y camau gweithredu ar gyfleusterau angori, a datblygu’r farchnad mordeithiau, gan nodi “Mae gan CruiseCymru gynllun marchnata sy’n gysylltiedig â Chynllun Busnes Blynyddol Croeso Cymru a’r strategaeth dwristiaeth gyffredinol” Partneriaeth ar gyfer Twf ””.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg