Ffordd ger Castell Harlech gydag arwyddion terfyn cyflymder 20 mya yn y blaen

Ffordd ger Castell Harlech gydag arwyddion terfyn cyflymder 20 mya yn y blaen

Y wybodaeth ddiweddaraf am derfynau cyflymder 20 mya

Cyhoeddwyd 24/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'n deg dweud bod polisi terfyn cyflymder rhagosodedig 20 mya Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddadleuol – yn ddiweddar ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb fwyaf yn hanes y Senedd a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y polisi. Denodd 469,571 o lofnodion, a oedd yn torri pob record.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi dweud y gwneir newidiadau i’r modd y mae’r polisi wedi’i roi ar waith.

Yn dilyn ein herthyglau blaenorol ar weithredu’r polisi a sut y caiff y polisi ei orfodi a’i fonitro, rydym yma yn crynhoi'r hyn sydd wedi digwydd ers cyflwyno’r polisi, yn ystyried sefyllfa ddiweddaraf Llywodraeth Cymru ac yn edrych ar rywfaint o'r data monitro cynnar.

A fydd y polisi yn cael ei wrthdroi?

Pan newidiodd y terfyn cyflymder rhagosodedig ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30 mya i 20 mya fis Medi diwethaf, mae'n deg dweud bod rhywfaint o wrthwynebiad cryf gan y cyhoedd, a amlygodd ei hun gyda’r ddeiseb, a straeon am arwyddion 20 mya yn cael eu fandaleiddio, a oedd yn gyffredin.

Ers hynny cafwyd Prif Weinidog newydd, a Gweinidog Trafnidiaeth newydd. Dywedodd Vaughan Gething AS, y Prif Weinidog newydd, yn ystod ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth fod Llywodraeth Cymru wedi cael peth o’r ochr gyfathrebu yn anghywir o ran y polisi.

Yr wythnos diwethaf, roedd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, (Ysgrifennydd y Cabinet) yn ei swydd newydd yn adleisio barn y Prif Weinidog, gan grybwyll cynlluniau ar gyfer ‘ymgyrch wrando genedlaethol’. Nid yw’r Prif Weinidog nac Ysgrifennydd y Cabinet, fodd bynnag, wedi dweud y bydd y polisi’n cael ei ddileu.

Yn ddiweddar hefyd, gwrthododd y Senedd gynnig a oedd yn galw am wrthdroi’r polisi, ac yn lle hynny fe gytunodd ar welliant a oedd yn croesawu’r “ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fireinio’r gwaith o weithredu terfynau cyflymder 20 mya yng Nghymru”. Yn ystod y ddadl, awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet fod angen “sicrhau bod terfynau 20 mya yn cael eu targedu’n briodol” mewn mannau “lle mae plant a’r henoed mewn perygl”.

Yn dilyn sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans ei bod y tu hwnt o siomedig gyda’r awgrym y gallai Llywodraeth Cymru gymryd cam sylweddol yn ôl.

Beth sy'n cael ei adolygu?

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud, er ei bod yn parhau i gredu mai 20 mya yw’r terfyn cyflymder cywir mewn mannau megis ger ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd, canolfannau cymunedol, mannau chwarae ac mewn ardaloedd preswyl prysur mae’n bwrw ymlaen i fireinio’r polisi.

Nododd Ysgrifennydd y Cabinet gynlluniau i ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau y ceir y cyflymder cywir ar y ffyrdd cywir.

Mae hyn yn cynnwys adolygu sut mae ei ganllawiau i awdurdodau priffyrdd ar osod eithriadau i'r terfyn wedi'u cymhwyso. Er bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i hyn, gyda gwaith yn mynd rhagddo’n dda, mae bellach wedi gofyn i’r adolygiad ddod i “gasgliad cyflym”.

Er bod y terfyn diofyn ar ffyrdd cyfyngedig) nawr yn 20 mya, gall awdurdodau priffyrdd (awdurdodau lleol ar gyfer ffyrdd lleol a Gweinidogion Cymru ar gyfer cefnffyrdd / traffyrdd) ddefnyddio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TROs) i newid y terfyn a phennu eithriadau i’r terfyn diofyn ble bo’n briodol.

Awgrymodd Lee Waters AS, y cyn Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, a gyflwynodd y polisi, yn fuan ar ôl i'r polisi ddod i rym bod awdurdodau lleol ledled Cymru wedi dehongli'r canllawiau ar bennu eithriadau yn wahanol. Mae ein dadansoddiad blaenorol ar y mater yn cefnogi hyn.

Yn dilyn hyn mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tîm adolygu, o dan arweiniad Phil Jones (a oedd hefyd yn arwain Tasglu Llywodraeth Cymru ar derfynau cyflymder 20 mya yn 2019), i edrych yn fanwl ar sut mae'r canllawiau wedi'u cymhwyso.

Cyhoeddodd y tîm adolygu ei adroddiad cychwynnol ym mis Chwefror a gwnaeth chwe argymhelliad cychwynnol gan gynnwys y canlynol:

  • dylai'r canllawiau gael eu hadolygu a'u hehangu i roi sylw i'r holl derfynau cyflymder mewn anheddau, ac nid y rhai sydd wedi methu â chyflawni 20 mya o ganlyniad i'r newid yn y gyfraith yn unig;
  • darparu hyfforddiant i swyddogion awdurdodau priffyrdd i helpu i ddehongli a chymhwyso'r canllawiau; ac
  • y dylid ceisio cyngor cyfreithiol ar atebolrwydd posibl awdurdodau priffyrdd wrth wneud eithriadau newydd i gynyddu'r terfyn cyflymder yn lleol.

Yn ei ddatganiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn disgwyl adroddiad terfynol y tîm adolygu ‘o fewn yr wythnosau nesaf’ ac y bydd yn ei gyhoeddi cyn gynted â phosib.

Pa effaith a gafodd 20 mya yn yr ardaloedd prawf?

Yn arwain at y cyfnod y daeth y polisi i rym yn genedlaethol, cynhaliwyd profion mewn wyth cymuned ledled Cymru.

Cafodd yr adroddiad monitro cyntaf ar yr effaith yn yr ardaloedd prawf ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023, ac yna cafwyd adroddiad monitro terfynol ym mis Chwefror 2024. Roedd Data hyd at fis Mai 2023 yn dangos newidiadau cadarnhaol o ran lleihau cyflymder ac agweddau at deithio llesol, dim newidiadau canfyddadwy o ran ansawdd aer lleol a mân newidiadau negyddol o ran amseroedd teithio.

Ffigur 1: Crynodeb o effaith terfynau cyflymder rhagosodedig 20 mya yn yr ardaloedd prawf

 

Ffynhonnell: Crynodeb Ymchwil y Senedd o Adroddiad monitro terfynol ardaloedd cam 1 o ran terfyn cyflymder 20 mya rhagosodedig ar ffyrdd cyfyngedig Trafnidiaeth Cymru.

Noder: Mae’r graffig hwn yn crynhoi canfyddiadau Trafnidiaeth Cymru. Mae’r termau sydd wedi’u cynnwys wedi’u cymryd yn uniongyrchol o’r adroddiad ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi asesu’r effaith.

Roedd yr adroddiad monitro terfynol hefyd yn dangos gostyngiad cyffredinol ym mhrydlondeb y gwasanaeth yn ystod y cyfnod brig, gyda gwasanaethau ar-amser yn gostwng tua 6 i 13 pwynt canran. Oddeutu amser cyflwyno’r polisi’n genedlaethol yn mis Medi, dywedodd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr (CPT). fod y newid wedi creu rhai heriau i wasanaethau bysiau, a dywedodd Bysiau Arriva Cymru y gallai arwain at doriadau i wasanaethau.

Yn ei lythyr ar yr adolygiad o'r canllawiau at awdurdodau lleol, dywed Llywodraeth Cymru y “gallai diweddariadau i’r canllawiau gynnwys…ystyried yr effaith ar lwybrau bysiau”.

Beth fu effaith y polisi yn genedlaethol?

Er ei bod yn ddyddiau cynnar ers i’r polisi gael ei gyflwyno’n genedlaethol, ac y dylid trin data yn ofalus, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi data rhagarweiniol ar newidiadau cyflymder cyfartalog. Mae'r data, a gasglwyd ar y prif ffyrdd trwodd mewn 43 o leoliadau mewn naw anheddiad yn dangos bod cyflymder cyfartalog ar y ffyrdd hyn wedi gostwng ar gyfartaledd o 4 mya, sef o 28.9 mya i 24.8 mya.

Pan holwyd ymhellach a oedd hyn yn cael ei ystyried yn llwyddiant, dywedodd y cyn Ddirprwy Weinidog fod pob gostyngiad o 1 mya o ran cyflymder yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, felly dywedodd fod hwn yn drobwynt gwirioneddol.

Er nad oes data ar gael ar yr effaith o ran gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd eto, mae Partneriaeth GanBwyll wedi dechrau cyhoeddi data ar ymgysylltu a gorfodi. Mae’r data ar gyfer mis Ionawr tan fis Mawrth 2024 yn dangos bod 97% o gerbydau a oedd yn cael eu monitro yn teithio o dan y trothwy gorfodi presennol o 26mya.

Mae GanBwyll hefyd wedi dechrau cyhoeddi data ar droseddau 20 mya. Er bod data ar gyfer gogledd Cymru yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd, mae data ar gyfer canolbarth a de Cymru yn dangos bod cyfanswm nifer y troseddau wedi cynyddu’n raddol o fis Tachwedd 2023 tan fis Mawrth 2024, gyda chyflymder troseddu cyfartalog o 28.3 mya dros y cyfnod hwn.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

O edrych at y dyfodol, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith monitro ar gyfer y polisi, a disgwylir y caiff adroddiad interim ar gyflwyno'r polisi’n genedlaethol ei gyhoeddi ym mis Mehefin. Yn dilyn hyn, bydd adroddiad pellach ym mis Rhagfyr ar y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu, a bydd adroddiadau wedyn yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol. Mae'r fframwaith yn nodi y caiff data ei gasglu am hyd at bum mlynedd ar ôl rhoi’r polisi ar waith.

Fel y soniwyd, bydd y tîm adolygu’r canllawiau hefyd yn cyflwyno ei adroddiad terfynol i Lywodraeth Cymru yn fuan.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru