Y Comisiwn Ewropeaidd yn lansio ymgynghoriad ar strategaeth newydd 'uchelgeisiol' ar gyfer yr economi gylchol

Cyhoeddwyd 02/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

02 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3389" align="alignright" width="682"]Llun o ganiau metel mewn cawell Llun: Flikr gan DaveBleasdale. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Yn dilyn tynnu'n ôl y pecyn blaenorol ar ddechrau'r flwyddyn, a oedd yn ddadleuol, mae'r Comisiwn yn anelu at gyflwyno strategaeth newydd a 'mwy uchelgeisiol' ar gyfer yr economi gylchol tuag at ddiwedd 2015. Bydd y strategaeth yn mynd i'r afael ag ystod o sectorau economaidd, gan gynnwys gwastraff, gyda'r bwriad o drawsnewid Ewrop yn economi sy'n fwy cystadleuol ac yn effeithlon o ran adnoddau.  Wrth baratoi ei strategaeth, lansiodd y Comisiwn ymgynghoriad cyhoeddus ar yr economi gylchol ar 28 Mai. Yng ngweddill y ddogfen yma, rydym yn amlinellu beth a olygir gan economi gylchol, hanes y cynnig a'i statws presennol. Beth yw economi gylchol? Mae faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu yn cynyddu'n gyson. Ers i brosesau gweithgynhyrchu ddatblygu yn ystod y chwyldro diwydiannol, mae economïau wedi defnyddio patrwm o dwf 'cymryd, gwneud, defnyddio, gwaredu'. Mae'r economi linellol hon yn seiliedig ar y dybiaeth bod adnoddau yn ddigonol ac yn rhad i'w gwaredu. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn ceisio troi'r economi linellol hon yn economi gylchol. Mae hyn yn golygu ailddefnyddio, atgyweirio, adnewyddu ac ailgylchu deunyddiau a chynhyrchion fel y gellir troi 'gwastraff' yn adnodd. Hanes y strategaeth yn yr UE Cafodd pecyn economi gylchol y Comisiwn Ewropeaidd (COM/2014/0397, 2014/0201/COD) ei lunio o dan y Comisiwn diwethaf, sef Comisiwn Barroso. Roedd yn cynnwys chwech o gyfreithiau ar wastraff; pecynnu, tirlenwi, cerbydau diwedd oes, batris a chroniaduron, a gwastraff offer electronig. Roedd y pecyn yn cynnwys targedau statudol, sef ailgylchu 70% o wastraff trefol erbyn 2030, ailgylchu 80% o becynnau fel gwydr, papur, metel a phlastig erbyn 2030, a gwahardd tirlenwi gwastraff ailgylchadwy a bioddiraddiadwy erbyn 2025. Fodd bynnag, roedd Rhaglen Waith cyntaf y Comisiwn newydd, sef Comisiwn Junker, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2014 ac a oedd yn nodi blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer 2015, yn cynnwys tynnu'n ôl y pecyn economi gylchol. Cyhoeddodd y Comisiwn y byddai'r pecyn yn cael ei ddisodli gan gynnig 'mwy uchelgeisiol' erbyn diwedd 2015. Mae Aelodau o Senedd Ewrop, Gweinidogion Amgylchedd cenedlaethol ac ymgyrchwyr wedi dadlau yn gryf yn erbyn y penderfyniad hwn, gan ddweud y byddai rhoi'r gorau i'r cynnig yn achosi oedi diangen o ran trosglwyddo i economi gylchol.  Ym memorandwm esboniadol y DU ar Raglen Waith y Comisiwn, nododd Llywodraeth Cymru ei bod yn 'siomedig' gyda'r ffaith bod y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl, ond yn edrych ymlaen at weld y cynigion newydd yn y dyfodol agos. Fe wnaeth y memorandwm hefyd amlygu pryder Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch yr ansicrwydd o ran deddfwriaeth economi gylchol yn y dyfodol a cholli'r gwaith a wnaed eisoes ar y cynigion. Cynigion yn 2015 ar gyfer economi gylchol Ym mis Ebrill 2015, cyhoeddodd Comisiwn Junker gynllun a oedd yn cynnwys disgrifiad rhagarweiniol o'i waith ar y strategaeth newydd ar gyfer yr economi gylchol.  Disgwylir i'r fenter gael ei gyhoeddi tua diwedd 2015 ar ffurf Cyfathrebiad, gan gynnwys Cynllun Gweithredu. Yn ôl y Comisiynydd dros yr Amgylchedd, y Môr a Physgodfeydd, Karmenu Vella, byddai'r Cyfathrebiad yn mynd i'r afael â dwy agwedd ar yr economi gylchol, sef: - Y cam cynhyrchu a defnyddio, cyn i gynhyrchion ddod yn wastraff; - Pan na fydd cynhyrchion yn wastraff bellach, er mwyn datblygu marchnad ar gyfer y cynnyrch wedi'i ailgylchu. Bydd y Cyfathrebiad hwn yn rhan o becyn o fesurau, gan gynnwys cynnig i adolygu targedau gwastraff yr UE. Lansio ymgynghoriad cyhoeddus Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei lansio ar 28 Mai a bydd yn rhedeg tan 20 Awst. Bydd ei ganlyniadau yn bwydo i mewn i'r pecyn o fesurau ar yr economi gylchol a'i nod yw casglu barn rhanddeiliaid ar: 1) Y cam cynhyrchu ac, yn arbennig, sut y gall y modd y caiff cynhyrchion eu dylunio hwyluso ailgylchu, ymestyn oes drwy ailddefnyddio, adnewyddu neu atgyweirio, a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd; 2) Sut y gallai dewisiadau defnyddwyr hyrwyddo'r economi gylchol yn y cyfnod defnyddio; 3) Rhwystrau i ddatblygu marchnad ar gyfer deunyddiau crai eilaidd; 4) Y posibilrwydd o fabwysiadu mesurau ar gyfer sectorau penodol er mwyn "cau'r ddolen" yn yr economi gylchol; a 5) Rôl "ffactorau galluogi" fel arloesi, buddsoddi a datblygu'r sgiliau a chymwysterau sy'n ofynnol yn natblygiad yr economi gylchol. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg