- Deddf Ceirw 1991;
- Deddf Diogelu Morloi 1970;
- Deddf Chwyn 1959;
- Deddf Gwarchod Moch Daear 1992: a
- Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
Bil Bywyd Gwyllt newydd - Comisiwn y Gyfraith yn cyhoeddi ei gynigion
Cyhoeddwyd 19/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
19 Tachwedd 2015
Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4044" align="alignnone" width="640"] Llun o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Ar 10 Tachwedd 2015 cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr ei gasgliadau ar ei adolygiad o’r gyfraith diogelu bywyd gwyllt. Yn 2011, gofynnodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Llywodraeth y DU i Gomisiwn y Gyfraith adolygu'r ddeddfwriaeth gyfredol, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ac ystyried a oedd yn addas at y diben.
Yn ei adroddiad terfynol, daeth Comisiwn y Gyfraith i'r casgliad bod y gyfraith bresennol ar warchod bywyd gwyllt yng Nghymru a Lloegr yn gymhleth, yn rhy ddryslyd ac weithiau'n anghyson. Mae felly wedi argymell y dylid cyflwyno Mesur Bywyd Gwyllt newydd i ddisodli’r holl ddarnau o ddeddfwriaeth yn y maes hwn. Mae wedi cyhoeddi ei gynigion ar gyfer Bil Drafft (PDF 2MB) ochr yn ochr â’i adroddiad terfynol.
Mae Comisiwn y Gyfraith yn awgrymu y gellid cyflwyno’r Bil hwn fel Bil Cymru a Lloegr a gosod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad, neu y gallai’r ddau sefydliad gyflwyno’r un ddarn o ddeddfwriaeth ar wahân. Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu pa broses y maent am ei defnyddio.
Y ddeddfwriaeth bresennol
Mae’r ddeddfwriaeth i ddiogelu bywyd gwyllt yn cynnwys ystod eang o bynciau, o ddiogelu moch daear a cheirw i ddiogelu planhigion gwyllt. Mae'n cynnwys y gyfraith yn ymwneud â dinistrio nythod yn anghyfreithlon, gosod trapiau a maglau a'r fasnach anghyfreithlon mewn rhywogaethau a ddiogelir. Yn ei adroddiad terfynol, mae Comisiwn y Gyfraith wedi nodi 12 o ddeddfau gwahanol y gallai un darn o ddeddfwriaeth eu disodli. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol: