Addysgu yng Nghymru: Ennill cymwysterau

Cyhoeddwyd 07/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

7 Ionawr 2016 Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4457" align="alignnone" width="640"]Mae hwn yn lun o rai graddedigion Llun: o Flickr gan Luftphilla. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Dyma'r cyntaf o ddau flog ar y proffesiwn addysgu yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy gyfnod o newid sylweddol. Mae'r blog hwn yn canolbwyntio ar y llwybrau i'r proffesiwn addysgu yng Nghymru. Bydd y blog a gyhoeddir yfory yn canolbwyntio ar y gefnogaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i athrawon cymwysedig. Ar hyn o bryd mae 37,355 o athrawon proffesiynol wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg, y corff rheoleiddio ar gyfer athrawon yng Nghymru. Mae gan athrawon gefndiroedd addysgol a chymdeithasol amrywiol. Fel y cyfryw, felly, mae nifer o lwybrau i'r proffesiwn addysgu yng Nghymru. Mae'n rhaid i athrawon mewn ysgolion a gynhelir gael Statws Athro Cymwysedig (SAC). Gellir ond cael y statws hwn drwy ennill cymwysterau cydnabyddedig (gweler isod). Yn ogystal, disgwylir i athrawon gynnal ac arddangos y safonau proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysg sy'n cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru. Llwybrau i'r proffesiwn Tystysgrif Addysg Uwch: Cyflwyniad i Addysgu Uwchradd Mae'n dal yn bosibl i rai nad oes ganddynt gymwysterau, neu y mae ganddynt gymwysterau lefel isel, fod yn athrawon ysgol uwchradd. Gallant wneud hynny drwy ddilyn y cwrs Tystysgrif Addysg Uwch: Cyflwyniad i Addysgu Uwchradd ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'r cwrs hwn—blwyddyn o hyd os yw'n llawn amser; dwy flynedd os yw'n rhan-amser—yn paratoi myfyrwyr i wneud un o'r ddwy raglen gradd eilaidd BSc (Anrh) sydd ar gael yng Nghymru sy'n caniatáu i fyfyrwyr ennill SAC. Mae'r rhain yn rhaglenni dwy flynedd. Nid oes unrhyw ofynion academaidd ffurfiol ar gyfer cael mynediad at y llwybr hwn. Serch hynny, mae angen dangos lefelau addas o sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ystod y broses ymgeisio. Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn y Brifysgol Mae prifysgolion ledled Cymru yn darparu cyrsiau israddedig, a all bara naill ai dwy neu dair blynedd (llawn amser), sy'n arwain at SAC wedi i'r myfyrwyr eu cwblhau. Er mwyn cael eu derbyn i wneud cwrs gradd mewn addysgu, fel arfer, mae gofyn i ymgeiswyr feddu ar:
  • Cymhwyster TGAU gradd B neu uwch (neu gymhwyster sydd gyfwerth â hyn) mewn Saesneg a mathemateg er mwyn addysgu ar lefel ysgol uwchradd. Yn ogystal, mae angen cymhwyster TGAU gradd C neu uwch (neu gymhwyster sydd gyfwerth â hyn) mewn gwyddoniaeth er mwyn addysgu ar lefel ysgol gynradd.
  • Fel arfer, mae angen isafswm o 200 pwynt UCAS, a enillir trwy gymwysterau Safon Uwch neu gymwysterau cyfwerth, gan gynnwys Bagloriaeth Cymru.
  • Os yw ymgeiswyr am wneud gradd dwy flynedd, mae'n ofynnol iddynt gwblhau blwyddyn mewn addysg uwch yn astudio pwnc (neu bynciau) cysylltiedig. Enghreifftiau o'r rhain fyddai cyrsiau HND, credydau gan y Brifysgol Agored, cyrsiau galwedigaethol, cymwysterau proffesiynol neu'r Dystysgrif a nodir uchod.
Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) I'r rhai sydd eisoes wedi cwblhau gradd cyn iddynt benderfynu eu bod am fod yn athrawon, mae'r Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn caniatáu i ymgeiswyr astudio am flwyddyn ychwanegol (llawn amser) er mwyn ennill SAC. Gellir ennill cymhwyster TAR yn y tair canolfan ranbarthol sy'n bodoli yng Nghymru ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon. Fel rheol, y gofynion mynediad ar gyfer cwrs TAR yw o leiaf:
  • Cymhwyster TGAU gradd B neu uwch (neu gymhwyster sydd gyfwerth â hyn) mewn Saesneg a mathemateg er mwyn addysgu ar lefel ysgol uwchradd. Yn ogystal, mae angen cymhwyster TGAU gradd C neu uwch (neu gymhwyster sydd gyfwerth â hyn) mewn gwyddoniaeth er mwyn addysgu ar lefel ysgol gynradd.
  • Gradd israddedig o sefydliad yn y DU, neu gymhwyster cyfatebol, fel arfer gradd dosbarth 2(ii) neu uwch (bydd gradd dosbarth uwch yn sicrhau mwy o gyllid i'r ymgeisydd).
  • Disgwylir bod o leiaf 50% o radd athro ysgol uwchradd yn berthnasol i'r pwnc addysgu arbenigol yr ymgeisir amdano, ac eithrio siaradwyr brodorol Ieithoedd Tramor Modern a Chymraeg, sy'n cael eu hannog i ymgeisio hyd yn oed os nad yw eu gradd yn gysylltiedig â'u hiaith.
  • Dylai addysg blaenorol athro ysgol gynradd (gradd, Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol) gyd-fynd ag o leiaf un o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Y Rhaglen Athrawon Graddedig Mae'r Rhaglen Athrawon Graddedig yn cael ei darparu'n flynyddol drwy'r tair canolfan ranbarthol ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon. Gall pob canolfan dderbyn nifer penodol o gyfranogwyr drwy'r Rhaglen Athrawon Graddedig (cyfanswm cenedlaethol o 60 yn 2015/16). Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion mynediad ar gyfer rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon (gweler uchod), mae'n rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y Rhaglen Athrawon Graddedig gael gradd (neu gymhwyster sydd gyfwerth â gradd) mewn pwnc priodol. Mae'r Canolfannau ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn rhoi cyngor ynghylch a yw pynciau gradd yn gydnaws â gwneud cais ar gyfer y Rhaglen Athrawon Graddedig a'r gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen. Mae'r Rhaglen Athrawon Graddedig yn cynnig ffordd o gymhwyso fel athro tra bod yr ymgeisydd yn parhau i gael ei gyflogi mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Bydd hyfforddeion yn dilyn rhaglen unigol sydd wedi'i theilwra i'w hanghenion ac sy'n para rhwng tri mis a deuddeg mis. Mae'r rhan fwyaf o leoedd ar y Rhaglen Athrawon Graddedig ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu cyflogi mewn ysgol a gynhelir am o leiaf blwyddyn, ond mae rhai lleoedd ar gael ar gyfer y rhai nad ydynt yn y sefyllfa hon. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r ymgeisydd ddod o hyd i ysgol sy'n fodlon ei gyflogi cyn ymuno â'r Rhaglen Athrawon Graddedig. Mae gan y Rhaglen Athrawon Graddedig ddwy ffrwd, ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, sy'n wahanol o ran natur a phwyslais. Athrawon sydd wedi'u cymhwyso dramor Mae'r Cyngor Gweithlu Addysg yn darparu gwybodaeth am y broses y mae athrawon sydd wedi'u cymhwyso mewn unrhyw un o wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) yn ei dilyn i wneud cais am statws SAC yng Nghymru. Yng Nghymru, nid oes llwybr uniongyrchol o ran cydnabyddiaeth SAC mewn perthynas ag athrawon sydd wedi'u cymhwyso y tu allan i'r AEE. Faint o bobl sy'n cael eu hyfforddi i addysgu yng Nghymru? Mae Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon sy'n arwain at SAC yn bwnc cwota. Felly, mae'r tair canolfan ranbarthol yn cael targedau ar gyfer recriwtio pobl i gyrsiau Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon (sef 'targedau derbyn'). Mae hon yn broses â dwy gam iddi. Yn gyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) ynghylch beth yw'r gofynion cyffredinol ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Yn ail, mae HEFCW yn rhannu'r dyraniadau hyn ymhlith y tair canolfan (PDF 640KB) [Saesneg yn unig]. Roedd y dyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16 (PDF 640KB) [Saesneg yn unig] fel a ganlyn:
  • 750 o leoedd ar gyfer athrawon ysgolion cynradd (300 ar gyfer y rhai ar y llwybr i Israddedigion; 450 ar gyfer y rhai ar y llwybr TAR).
  • 880 o leoedd ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd (95 ar gyfer y rhai ar y llwybr i Israddedigion; 785 ar gyfer y rhai ar y llwybr TAR.)
Mae'r rhain yn ychwanegol i'r 60 lle sydd ar gael drwy'r Rhaglen Athrawon Graddedig (30 o leoedd cynradd a 30 o leoedd uwchradd). Mae gofyn i HEFCW sicrhau bod recriwtio yn parhau i fod o fewn amrediad y targedau recriwtio, gan osgoi tan-recriwtio neu or-recriwtio sylweddol. Mae'n gwneud hyn drwy weithredu system o gosbau mewn perthynas â tharged derbyn canolfan Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Amlinellir y dull hwn o weithredu yn ei Gylchlythyr, Initial Teacher Training: Controls on recruitment against intake targets, W15/08HE (PDF 65KB) [Saesneg yn unig]. Dyfodol hyfforddi athrawon yng Nghymru Mae'r drefn bresennol yng Nghymru o ran Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd yng ngoleuni adroddiad yr Athro John Furlong, sef 'Addysgu Athrawon Yfory'. Roeddem wedi cyhoeddi blog am y newidiadau arfaethedig ym mis Mehefin 2015. Mae Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi gwneud dau ddatganiad (ar 23 Mehefin 2015 a 15 Hydref 2015) ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Furlong. Mae wedi nodi y bydd y system gyfredol o ran Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn cael ei newid yn sylfaenol erbyn Medi 2018. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg