Toriadau i’r Gymraeg – y Prif Weinidog i ymateb

12 Ionawr 2016

Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Fore Mercher, 13 Ionawr 2016, fe fydd y Prif Weinidog yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad i ateb cwestiynau am yr arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gefnogi’r Gymraeg.

Fe gyhoeddwyd cyllideb ddrafft y Llywodraeth ar gyfer 2016-17 ar 8 Rhagfyr 2015. Ynddi, mae’r arian sydd ar gael i hyrwyddo’r iaith am ostwng o £27.2 miliwn yn 2015-16 i £25.6 miliwn yn 2016-17 – dyna gwtogiad o 5.9%, neu 7.5% mewn termau real.

Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor (PDF 513 KB), mae’r Prif Weinidog yn datgan bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod blaenoriaethu gwariant ar y “rhai sydd ei angen fwyaf”. Mae’n nodi ei fod, o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wedi gorfod “canolbwyntio adnoddau” ar y pethau hynny a fydd yn arwain at yr “effaith gadarnhaol fwyaf”.

Mae’r Prif Weinidog yn pwysleisio hefyd bod Llywodraeth Cymru “yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau dyfodol yr iaith”. Dywed na fydd “arian ar ei ben ei hun yn sicrhau y bydd yr iaith yn parhau i ffynnu” , ac y bydd y Llywodraeth yn “parhau i weithio’n agos gyda sefydliadau partner er mwyn gosod sylfaen gadarn i’r iaith yn y dyfodol”.

Mewn papurau sydd wedi’u cyflwyno i ymgynghoriad Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ar y gyllideb ddrafft, mae sawl corff yn beirniadu’r toriad, gan honni ei fod yn arwydd o ddiffyg cynllunio strategol yn y tymor hir.

Mae Dyfodol i’r Iaith (PDF 340 KB) yn nodi bod y toriadau’n cael eu gwneud er gwaethaf cynnydd yng nghyfanswm yr arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae’n gweld hyn yn dystiolaeth bod y Gymraeg yn “yn llai o flaenoriaeth i’r Llywodraeth nag y bu”.

Tra bo’r Llywodraeth yn dweud ei bod wedi neilltuo £1.2 miliwn yn y gyllideb i “leddfu effaith y gostyngiadau ar gyllid i’r Gymraeg”, mae Cymdeithas yr Iaith (PDF 727 KB) yn holi “a fydd y £1.2 miliwn hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r waelodlin flwyddyn nesaf ar gyfer cyllideb hyrwyddo’r Gymraeg ai peidio?”

Yn ôl Dathlu’r Gymraeg (PDF 542 KB), fe fydd y toriad yn “cael effaith niweidiol dros ben ar y gwaith sy’n cael ei wneud i hybu’r Gymraeg ac yn rhoi nifer mawr o swyddi mewn perygl”. Mae Mentrau Iaith Cymru (PDF 120 KB) hwythau yn methu â “deall pam fod cymaint o doriad i gyllideb y Gymraeg yn gyffredinol a hynny yn wyneb strategaethau niferus ac amryfal bolisïau sydd angen adnoddau i’w gwireddu”.

Un o’r rhaglenni hynny yw Bwrw Mlaen – sef prif strategaeth Llywodraeth Cymru i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg (gweler y blog yma). Bydd y rhan o’r gyllideb sydd i fod i weithredu Bwrw Mlaen yn gostwng o £5.3 miliwn i £3.9 miliwn yn 2016-17 – dyna doriad o 25.6%.

Sefydliad arall fydd yn gorfod ymdopi â thoriadau fydd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Ym mis Rhagfyr 2015, fe ddywedodd y Comisiynydd wrth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y byddai toriad arall i’w chyllideb yn “drychinebus”. Fel yn achos comisiynwyr eraill, mae disgwyl i’r Comisiynydd golli 10% o’i chyllideb yn 2016-17 – hyn ar ôl wynebu toriadau o 8% yn 2015-16 a 10% yn 2014-15. Dylid nodi bod y Prif Weinidog wedi addo lliniaru (PDF 576 KB*) ar y gostyngiad trwy roi £150,000 yn ychwanegol i’r Comisiynydd yn y flwyddyn ariannol hon.

Mae’r tocio uchod yn dod law yn llaw â phryderon am effaith toriad arfaethedig o 10.6% yng nghyllideb Cyngor Llyfrau Cymru (PDF 254 KB), ansicrwydd ynghylch cyllideb y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a phenderfyniad diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau cyllid S4C. O roi’r holl doriadau ynghyd, mae Dyfodol i’r Iaith yn pryderu y gallai’r cyfan “[d]datod llawer ar y we sy’n cadw’r Gymraeg yn iaith lewyrchus a byw”.

Bydd cyfarfod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad holi’r Prif Weinidog am y materion hyn.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg