Arferion Oesol: A allai Confensiwn UNESCO warchod traddodiadau Cymreig?

Cyhoeddwyd 22/03/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu cadarnhau Confensiwn UNESCO 2003 ar gyfer Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol (“y Confensiwn”). Mae'r DU ymhlith 12 o wledydd nad ydynt wedi gwneud hynny eto, ond gosododd Llywodraeth y DU y Confensiwn yn Senedd y DU ar 11 Ionawr 2024. O dan y Confensiwn, gallai nifer o draddodiadau Cymreig gael eu cydnabod a’u gwarchod.

Mae'r erthygl hon yn disgrifio rôl UNESCO a'r Confensiwn. Mae'n trafod goblygiadau posibl i Lywodraeth Cymru a'r camau a gymerwyd gan bwyllgorau'r Senedd i gael gwybod beth mae'n ei olygu i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO)

Un o asiantaethau arbenigol y Cenhedloedd Unedig yw UNESCO. Ei genhadaeth yw gwarchod safleoedd hanesyddol, hybu creadigrwydd ac arloesi, a chadw amrywiaeth drwy dreftadaeth fyw.

Mae’r Confensiwn yn rhan o'r ymdrech hon, wrth iddo geisio diogelu a chodi ymwybyddiaeth o draddodiadau y mae cymunedau'n eu cydnabod fel rhan o'u treftadaeth. Nod y Confensiwn yw canfod, cofnodi a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Un o'r prif ffyrdd y mae'n ceisio gwneud hyn yw drwy gynnal ei restrau, gan gynnwys:

  • Rhestr Gynrychioliadol o Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol y Ddynoliaeth
  • Rhestr o Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol y mae Angen ei Diogelu ar Frys
  • Cofrestr o Arferion Diogelu Da

Rhwymedigaethau rhyngwladol

Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymo i rwymedigaethau rhyngwladol ar ran pob un o’r pedair gwlad. Fodd bynnag, rhaid i’r llywodraethau a’r deddfwrfeydd datganoledig gydymffurfio â hwy, a nhw sy’n gyfrifol am eu gweithredu mewn meysydd datganoledig. Mae'r Confensiwn yn ymwneud â diwylliant a threftadaeth, sy’n faterion datganoledig. Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod hyn ym Memorandwm Esboniadol y Confensiwn, a bu ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y cyfnod cyn cyhoeddi'r ymgynghoriad ar weithrediad cychwynnol y Confensiwn.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnig dau gategori arall o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol, yn ogystal â’r pump a gydnabyddir ar hyn o bryd gan UNESCO, gan gynnwys gemau a chwaraeon traddodiadol, sydd hefyd yn faterion datganoledig.

Mae rhagor o wybodaeth am Gymru, datganoli a rhwymedigaethau rhyngwladol ar gael yn ein herthygl flaenorol.

Sut y bydd yn gweithio?

Ar ôl cadarnhau’r Confensiwn, bydd cyfle i’r DU enwebu enghreifftiau o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol i UNESCO i'w cynnwys ar ei Restr Gynrychioliadol o Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol y Ddynoliaeth. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd yn canolbwyntio ar enwebu eitemau i'w rhoi ar y rhestr ryngwladol tan ychydig flynyddoedd ar ôl cadarnhau’r Confensiwn, a’i bod yn bwriadu canolbwyntio ar greu rhestr y DU gyfan. Mae'n awgrymu y byddai'r dull hwn yn codi ymwybyddiaeth o'r holl dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn y DU, yn hytrach na chanolbwyntio ar ychydig o eitemau sydd wedi’u henwebu.

Gan fod diwylliant yn fater datganoledig, bydd angen i lywodraethau'r DU gydweithio i roi’r trefniadau ar waith. Mae Llywodraeth y DU yn cynnig rhestr o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol ar gyfer pob gwlad, a byddai'r rhain wedyn yn dod at ei gilydd i ffurfio rhestr y DU gyfan.

Bydd gan gymunedau yng Nghymru ran i'w chwarae drwy enwebu traddodiadau i'w cynnwys ar y rhestr. Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl y bydd y broses enwebu yn dechrau y flwyddyn nesaf ac mae wedi awgrymu y gellid gwarchod y traddodiadau Cymreig a ganlyn:

  • Y Fari Lwyd;
  • Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi
  • Diwrnod Santes Dwynwen;
  • Rasys Nos Galan;
  • Y Plygain;
  • Y Sioe Frenhinol;
  • Eisteddfodau;
  • Yr Urdd;
  • Canu'r delyn Gymreig;
  • Cerdd Dafod;
  • Cors-snorclo yn Llanwrtyd;
  • Gŵyl Elvis ym Mhorthcawl;
  • Corau meibion;
  • Crefftau artisan fel cerfio llechi, creu llwyau caru a gwneud pice ar y maen ar radell.

Gwaith craffu’r pwyllgorau

Trafodwyd y Confensiwn yn wreiddiol gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad fel rhan o'i broses ar gyfer craffu ar gytuniadau. Rhoddodd wybod i Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol am y Confensiwn, gan ei fod yn dod o fewn ei gylch gwaith.

Ysgrifennodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Lywodraeth y DU ac at Lywodraeth Cymru i gael gwybod mwy am y Confensiwn, gan gynnwys y trefniadau ymarferol a’r manteision posibl i Gymru.

Roedd Llywodraeth y DU yn croesawu diddordeb y Pwyllgor yn fawr, a dywedodd ei bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r llywodraethau datganoledig i baratoi ar gyfer cadarnhau’r Confensiwn. Dywedodd hefyd mai un o fanteision y Confensiwn oedd y byddai’n dechrau sgwrs am yr ystod o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol sy'n bodoli ledled y DU. O ran pwysigrwydd treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol a rennir, mae’r llythyr yn dweud:

Intangible cultural heritage plays a hugely important role in the identity, pride, and cohesion of people and communities across the whole United Kingdom. I hope that, in ratifying this Convention, we can continue to work together to champion that role and the great value of our shared heritage.

Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn croesawu'r penderfyniad i gadarnhau'r Confensiwn, gan ddweud:

Dyma gyfle i godi ymwybyddiaeth a phroffil Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol (ICH) yng Nghymru er budd cenedlaethau presennol a'r dyfodol ac i arddangos y traddodiadau a'r treftadaeth amrywiol sy'n bodoli yma.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru hefyd i ymgynghoriad Llywodraeth y DU, gan nodi'r cysylltiad rhwng treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol a'r nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) o greu ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.

Yn ogystal â gwaith craffu’r pwyllgorau, mae’n bosibl y bydd rhaid i'r Senedd basio deddfwriaeth i roi'r Confensiwn ar waith yn y dyfodol.

A fydd Dydd Gŵyl Dewi yn dod yn Ŵyl y Banc?

Yn ei lythyr at Lywodraeth Cymru, cododd y Pwyllgor drachefn y cwestiwn ynghylch a ddylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn Ŵyl y Banc yng Nghymru. Trafodwyd hyn mewn dadl ar 2 Mawrth 2022 a chafodd y cynnig iddo ddod yn ŵyl y banc gefnogaeth drawsbleidiol.

Wrth ymateb i'r Pwyllgor, dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw creu gwyliau banc yn fater datganoledig, a bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cais yn ffurfiol ym mis Hydref 2002 ac wedi cadw at y safbwynt hwnnw ers hynny.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n parhau i ddadlau dros ddatganoli'r pwerau angenrheidiol i'r Senedd.

Y camau nesaf

Daeth ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth y DU ar ei chynigion gweithredu cychwynnol i ben ar 29 Chwefror ac mae wrthi’n dadansoddi’r ymatebion ar hyn o bryd. Pan fydd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau, bydd yn llywio papur polisi a fydd yn nodi manylion gweithredu'r Confensiwn.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn parhau i ymgysylltu â'r llywodraethau datganoledig i gytuno ar y camau nesaf er mwyn gwarchod traddodiadau Cymreig.


Erthygl gan Madelaine Phillips, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru