Proffiliau rhyngweithiol etholaethau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 11/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Mawrth 2016 Erthygl gan Helen Jones a Sam Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Screenshotcym Wyddech chi pa un o etholaethau’r Cynulliad sydd â’r boblogaeth fwyaf? Pa un o etholaethau’r Cynulliad sydd â chyfartaledd pris tŷ o £65,589? Pa un o ranbarthau’r Cynulliad sydd â’r disgwyliad oes hiraf? Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi datblygu proffiliau rhyngweithiol sy’n dangos amrywiaeth o ddata mewn fformat hawdd ei ddefnyddio. Mae’r proffiliau hyn yn dangos y data allweddol diweddaraf ar lefel etholaethol a rhanbarthol ac yn rhoi cyfle i rai â diddordeb wneud gwaith ymchwil cyn yr etholiad ym mis Mai 2016. Gellir defnyddio’r proffiliau hyn i helpu i gymharu nodweddion tebyg a gwahanol rhwng etholaethau’r Cynulliad a rhanbarthau’r Cynulliad. Gellir gweld y data hwn ar ffurf map neu adroddiad neu eu lawrlwytho i Excel. Mae’r data yn y proffiliau yn cwmpasu’r pynciau canlynol;
  • Poblogaeth
  • Economi
  • Addysg
  • Iechyd
  • Tai
  • Mynediad i wasanaethau
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg