Banc datblygu i fusnesau

24 Mai 2016

Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae’r syniad o greu banc datblygu i roi cyllid i fusnesau wedi bod yn bwnc trafod ers tro. Gan y bydd banc o’r fath yn cael ei sefydlu yn y Pumed Cynulliad, beth fydd yn ei wneud ac a allai wneud busnesau Cymru yn fwy cystadleuol?

Mae’r modd y mae busnesau Cymru yn cael gafael ar gyllid wedi bod yn fater o bwys yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r trafodaethau ar y pwnc wedi canolbwyntio ar gyllid i fusnesau bach a chanolig, ac i ba raddau y gall y rhain gael gafael ar gyllid o ffynonellau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Roedd y cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i greu banc datblygu.

Pam y gallai fod angen banc datblygu ar Gymru?

Er bod y marchnadoedd sy’n rhoi cyllid i fusnesau bach a chanolig yn gwella, mae rhai’n dadlau bod angen cynyddu’r cyllid sydd ar gael ledled y DU i gydbwyso twf economaidd. Mae’r ffaith mai cwmnïau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr sy’n cyfrif am 71 y cant o gyfanswm yr ecwiti a fuddsoddir mewn busnesau bach a chanolig yn brawf o hynny.Small and Medium Enterprises-Welsh-01

Yn ôl yr Athro Dylan Jones-Evans, mae busnesau yng Nghymru yn wynebu anfanteision penodol wrth geisio cael gafael ar gyllid o gymharu â busnesau yn Lloegr a’r Alban. Mae’n dadlau y gallai fod bwlch cyllido o gymaint â £500 miliwn ym mhob blwyddyn ariannol rhwng y cyllid sydd ei angen ar fusnesau bach a chanolig yng Nghymru a’r cyllid y mae modd iddynt gael gafael arno o’r sector preifat.

Er bod sefydliadau’r llywodraeth fel Cyllid Cymru a Banc Busnes Prydain yn helpu i lenwi rhywfaint o’r bwlch hwn, mae’r rhai sy’n galw am sefydlu banc datblygu yn dweud y gallai busnesau bach a chanolig fod yn fwy cystadleuol a chyfrannu mwy at ddatblygu economi Cymru pe bai’r bwlch yn lleihau rhagor.

Fodd bynnag, mae gwaith a wnaed ar gyfer Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn rhybuddio na fydd gwella’r cyllid sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig yn datrys popeth, oherwydd mae’n bosibl na ddaw mwy o alw am gyllid nes bod cadwyni cyflenwi’r busnesau hynny yn sicrach. Gallai gwella’r cyllid sydd ar gael hefyd arwain yn anfwriadol at werthu busnesau bach a chanolig yn gynt, gan rwystro cwmnïau canolig eu maint rhag datblygu’n rhai sydd wedi’u hen sefydlu yng Nghymru.

Pa fath o fusnesau y byddai banc datblygu yn gallu’u helpu?

Tynnwyd sylw at y trafferthion a wynebir gan lawer o gwmnïau llai o faint wrth gael gafael ar gyllid yn yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer banc datblygu a gynhaliwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru. Mae angen mwy o symiau cymharol fach o arian ar ficrofusnesau sy’n cyflogi llai na 10 o bobl nag y gall y sector preifat ei gynnig iddynt.

Ym marn CBI Cymru, mae anghenion busnesau canolig eu maint yn syrthio rhwng dwy stôl, sef rhwng y cymorth sydd wedi’i anelu naill ai at fusnesau bach neu at gorfforaethau mawr. Mae cael gafael ar gyllid yn fater o bwys allweddol i’r busnesau hyn, yn enwedig cyllid ecwiti drwy ‘angylion busnes’ a chyfalaf menter.

Beth yw’r trefniadau ar hyn o bryd ar gyfer rhoi cymorth i fusnesau yng Nghymru?

Cyllid Cymru sy’n rhoi’r rhan fwyaf o’r cymorth ariannol drwy’r sector cyhoeddus i ficrofusnesau hyd at rai canolig eu maint yng Nghymru. Mae Busnes Cymru wedyn yn helpu busnesau i gael gafael ar gyllid ac yn cynnig arweiniad a gwybodaeth gyffredinol.

Mae Chwarae Teg wedi galw am gymorth busnes penodol i fenywod, gan gynnwys cyllid, a hynny gan eu bod o’r farn bod gan fenywod anghenion neilltuol yn y maes hwn. Dywedir bod entrepreneuriaid benywaidd yn teimlo’n ansicr am eu gallu i gael gafael ar gyllid, a gall hynny eu rhwystro rhag sefydlu eu busnesau eu hunain. Ystyrir bod hynny’n un o’r prif resymau pam y mae busnesau bach a chanolig sy’n cael eu harwain gan fenywod yn llai tebygol o ddefnyddio cyllid allanol na’r busnesau y mae dynion yn eu harwain.

Sut y gallai banc datblygu weithio?

Mae llawer o benderfyniadau i’w gwneud o hyd ynglŷn â strwythur y banc a beth yn union y gallai ei gyflawni. Fodd bynnag, mae Llywodraeth flaenorol Cymru a Cyllid Cymru wedi edrych ar atebion posibl ac wedi dechrau datblygu cynllun busnes. Mae sawl model posibl y gellid ei fabwysiadu. Mae’r rhain yn cynnwys y ‘model hybrid’ a ffafriwyd gan y Llywodraeth flaenorol, lle byddai’r banc datblygu yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill i fynd i’r afael â methiannau yn y farchnad gyllid mewn sectorau pwysig.

Beth yw banc datblygu a beth mae’n ei wneud?

Sefydliad sy’n eiddo i’r wladwriaeth yw banc datblygu cyhoeddus, yn gweithio mewn meysydd lle mae’r farchnad yn methu er mwyn ychwanegu at y cyllid y gall busnesau bach gael gafael arno o’r sector preifat. Mae’n datrys rhai o’r problemau y mae busnesau bach yn eu hwynebu wrth gael gafael ar gyllid, oherwydd gall fod yn fwy o risg i arianwyr yn y sector preifat roi’r cyllid hwn.

Gallai swyddogaethau newydd banc datblygu gynnwys:

  • darparu ystod ehangach o gynhyrchion a gwasanaethau dyled ac ariannu ecwiti i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch cyllido;
  • targedu sectorau a mathau arbennig o fusnesau sy’n cael trafferthion penodol wrth gael gafael ar gyllid, fel microfusnesau a busnesau newydd;
  • bod yn fanc sy’n ei ariannu ei hun ac, o bosibl, yn peidio â dibynnu ar gyllid grant na chymorth gan Lywodraeth Cymru i ariannu’r cronfeydd sydd ganddo;
  • gweithio gyda’r byd academaidd i wella’r data am fusnesau ac i wella dealltwriaeth o’r sector; a
  • sicrhau bod busnesau yn cael y cyfuniad cywir o gymorth ariannol ac anariannol gan ystyried argymhellion yr Adolygiad Parod i Fenthyca.

Beth fyddai amcanion y banc datblygu?

Mae gobaith y gallai’r banc datblygu ddyblu lefelau buddsoddi blynyddol Cyllid Cymru mewn busnesau bach a chanolig, denu buddsoddiad ychwanegol sylweddol o’r sector preifat, a chynyddu nifer y swyddi a gaiff eu creu a’u diogelu o ganlyniad i fuddsoddi. Byddai hyn yn gam mawr ymlaen o ran rhoi cymorth ariannol i fusnesau Cymru.

Er bod bwlch o hyd yn y cyllid sydd ar gael, bydd ymateb Llywodraeth newydd Cymru o’r pwys mwyaf wrth iddi edrych ar effaith busnesau bach a chanolig ar economi Cymru. Bydd yn ffactor allweddol hefyd wrth iddi edrych ar pa mor gystadleuol y gall y busnesau hyn fod. A fydd y banc datblygu yn cyflawni’r amcanion hyn ac yn helpu i annog twf economaidd?

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg