Trafnidiaeth yn y gogledd

10 Mehefin 2016

Erthygl gan Andrew Minnis. Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae moderneiddio’r brif reilffordd a meithrin perthynas â chyrff trafnidiaeth rhanbarthol Lloegr yn uchel ar y rhestr o flaenoriaethau trafnidiaeth yn y gogledd. Sut fydd Llywodraeth newydd Cymru yn sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn rhoi hwb i economi drawsffiniol y rhanbarth?

Mae Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd Gogledd Cymru, a gyhoeddwyd gan awdurdodau lleol y gogledd ym mis Ionawr 2015, yn nodi pum mater o bwys ym maes trafnidiaeth sy’n effeithio ar y rhanbarth. Ymhlith y rhain, mae’r cynllun yn tynnu sylw at bwysigrwydd economaidd cysylltiadau strategol ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd, a’u gallu i gludo pobl a nwyddau i borthladdoedd a gweddill y DU. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw cysylltiadau trawsffiniol, o ran y ffyrdd a’r rheilffyrdd, i’r gogledd.

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth flaenorol Cymru, fel y Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd, yn nodi prosiectau buddsoddi arfaethedig ar gyfer pob math o drafnidiaeth yn y rhanbarth. Fodd bynnag, mae dau faes pwysig yn creu cyfleoedd a bygythiadau uniongyrchol i ranbarth sydd wedi’i gysylltu’n agos â’r ardaloedd dros y ffin.

Moderneiddio’r rheilffyrdd

Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau i fuddsoddi mewn rheilffyrdd, Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr. Fel arfer, caiff prosiectau seilwaith rheilffyrdd eu rhoi ar waith mewn blociau cynllunio pum mlynedd a elwir yn Gyfnodau Rheoli. Mae’r paratoadau’n dechrau nawr ar gyfer yr un nesaf, sef Cyfnod Rheoli 6, a fydd yn rhedeg rhwng 2019 a 2024. Disgwylir i Lywodraeth y DU gyhoeddi dogfennau allweddol yn nodi pa brosiectau a roddir ar waith, a’r cyllid sydd ar gael, yn ystod tymor yr haf 2017.

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn awyddus i foderneiddio rhwydwaith rheilffyrdd y gogledd, yn benodol drwy drydaneiddio. Mae awdurdodau lleol a rhanbarthol ar ddwy ochr y ffin am weld hynny’n digwydd hefyd. Cyhoeddwyd Astudiaeth Llwybr Cymru Network Rail ym mis Mawrth 2016 ac mae’r astudiaeth hon yn cyflwyno’r dewisiadau i fuddsoddwyr ar gyfer Cyfnod Rheoli 6 a thu hwnt. Mae’n cynnwys opsiynau ar gyfer gwella cyflymder llinellau ar y rhwydwaith presennol a thrydaneiddio prif reilffordd y gogledd.

Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru yn 2016. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth a oedd yn amlinellu pa mor bwysig yw trydaneiddio’r rheilffordd. Yn benodol, roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Greengauge 21 yn dadlau’n gryf ei bod yn hanfodol cynnwys pecyn o welliannau yng Nghyfnod Rheoli 6, gan gynnwys trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Crewe / Warrington a Llandudno / Caergybi drwy Gaer, a hynny er mwyn gwireddu potensial economaidd y rhanbarth a sicrhau manteision yn sgil datblygiadau mawr yn Lloegr, fel High Speed 2 (HS2).

Nododd y Pwyllgor fod achos cryf dros drydaneiddio’r rheilffordd, ond roedd ganddo bryderon ynglŷn â phwy fyddai’n ariannu’r prosiect, a fyddai’r anghenion o ran cludo nwyddau yn cael sylw digonol, ac a ellid gwneud y gwaith yn ystod Cyfnod Rheoli 6. Yn dilyn oedi yn rhaglen fuddsoddi bresennol Network Rail, roedd y Pwyllgor yn pryderu y gallai’r prosiect gael ei ohirio tan ar ôl i HS2 gyrraedd Crewe (disgwylir iddo gyrraedd yn 2027), a byddai hynny’n lleihau manteision economaidd HS2 i ogledd Cymru.

Yn dilyn uwchgynhadledd ynghylch y rheilffyrdd ym mis Tachwedd 2015, sefydlwyd tasglu trawsffiniol yn cynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a’r gymuned fusnes i gytuno ar y gwelliannau sydd eu hangen ar y rhwydwaith. Datblygodd y tasglu achos busnes cychwynnol ar drydaneiddio i’w roi ar waith yng Nghyfnod Rheoli 6. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru yr achos busnes i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2016.

Mae dylanwadu ar amseru, cyllido a chwmpas gwelliannau i reilffyrdd y gogledd yn debyg o fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru.

Cysylltiadau trawsffiniol

Comisiynodd Llywodraeth flaenorol Cymru adroddiad ar Economi Drawsffiniol Rhanbarth Dyfrdwy a gyhoeddwyd yn 2013. Dangosodd yr adroddiad nad yw patrymau teithio yn y rhanbarth yn cydnabod y ffin. Yn yr un modd, canfu adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar y seilwaith rheilffyrdd na ddylai’r ffin fod yn ystyriaeth o safbwynt cynllunio a darparu trafnidiaeth. Canfu hefyd fod y mannau ar y rhwydwaith lle y mae teithwyr o Gymru yn cael problemau ar eu taith yn aml yn Lloegr.

Mae’r ymdrechion i greu ’pwerdy gogledd Lloegr’ yn cynnwys datganoli pwerau trafnidiaeth i gyrff rhanbarthol newydd fel Transport for the North (TfN). Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i Lywodraeth newydd Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid pwysig eraill gydweithio â’r cyrff hynny yn Lloegr a dylanwadu arnynt. Gallai methu â chreu cysylltiadau effeithiol olygu nad yw buddsoddiad yn rhwydwaith trafnidiaeth Lloegr yn ystyried anghenion Cymru, a gallai hynny danseilio rhwydwaith Cymru. Yng nghyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2016, dyrannwyd £300 miliwn i brosiectau mawr yn Lloegr fel High Speed 3, cysylltu Leeds a Manceinion a datblygu achos busnes ar gyfer twnnel newydd drwy fynyddoedd y Penwynion. Mae maint y buddsoddiad a fwriedir yn dangos pam fod angen i Gymru ddylanwadu ar brosiectau a allai sicrhau manteision gwirioneddol i’r gogledd. Agorodd y gyllideb y drws hefyd i ‘gytundeb twf’ ar gyfer y gogledd, gan roi cyllid i gysylltu’r rhanbarth â phwerdy gogledd Lloegr.

Mae cysylltiadau trawsffiniol wedi’u hen sefydlu yn y gogledd, ac mae gan Lywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth â TfN. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor Menter a Busnes dystiolaeth yn awgrymu bod gan Transport Scotland berthynas waith agosach â TfN na Llywodraeth Cymru. Dywedodd West Midlands Rail, sef y corff sy’n gweithio gydag Adran Drafnidiaeth y DU i gaffael masnachfraint rheilffyrdd newydd gorllewin canolbarth Lloegr, nad oedd wedi trafod yn uniongyrchol o gwbl â Llywodraeth Cymru.

Roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a TfN yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymwneud mwy â chyrff cynllunio trafnidiaeth Lloegr er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau a threfnu eu cyllid ar y cyd.

Ffynonellau allweddol