Arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol - diffyg blaenoriaethu cronig?

Cyhoeddwyd 13/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

13 Mehefin 2016 Erthygl gan Philippa Watkins. Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) yw'r cyflyrau cronig yr adroddir amdanynt amlaf ar draws pob grŵp oedran yng Nghymru. Maent yn cael effaith sylweddol ar unigolion a'u teuluoedd, ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar yr economi. Maent yn un o brif achosion anabledd, absenoldeb o'r gwaith, a hawliadau budd-dal oherwydd gwaeledd, ac yn rhai o'r clefydau mwyaf costus oherwydd y gofal a'r cymorth tymor hir sydd eu hangen arnynt. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a lefelau cynyddol o ordewdra ac anweithgarwch corfforol, mae'n debyg y bydd nifer yr pelydr-X o gymal pen-glinachosion yn codi. Beth yw cyflyrau cyhyrysgerbydol? Mae yna lawer o wahanol fathau o arthritis a chyflyrau MSK cronig, gan gynnwys osteoarthritis, arthritis llidiol, clefydau meinwe cysylltiol, poen cefn, clefyd esgyrn (megis osteoporosis), cryd cymalau meinwe meddal, a phoen cyhyrysgerbydol cronig. Osteoarthritis yw'r math mwyaf cyffredin o arthritis. Mae'n aml yn cael ei ystyried fel 'traul' ar y cymalau, ac mae'n effeithio ar bobl wrth iddynt fynd yn hŷn. Serch hynny mae hefyd yn gyffredin ymysg pobl o oedran gweithio. Mae triniaeth yn cynnwys meddyginiaeth ar gyfer poen, mesurau ffordd o fyw (ee rheoli pwysau ac ymarfer corff), ac mewn achosion difrifol llawdriniaeth i osod cymalau newydd. Mae'r Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig yn adrodd bod bron i hanner miliwn o bobl yn byw gydag osteoarthritis yng Nghymru.
… of these over 60% have been forced to give up walking and 87% are concerned about maintaining independence in the future.
Er ei fod yn llai cyffredin, mae arthritis llidiol yn cynnwys rhai o'r cyflyrau MSK mwyaf difrifol sy'n achosi anabledd. Mae arthritis gwynegol yn glefyd hunanimiwn sy'n achosi llid yn y cymalau. Gall hefyd effeithio ar organau eraill gan gynnwys yr ysgyfaint, y galon a'r llygaid. Mae'n fwyaf cyffredin rhwng 30 a 50 oed, ac ymysg menywod. O fewn 3 blynedd o gael diagnosis, mae hanner y bobl sydd ag arthritis gwynegol yn cael eu cofrestru fel rhai na allant weithio oherwydd anabledd. Mae arthritis idiopathig ieuenctid yn effeithio ar tua 12,000 o blant yn y DU (1 mewn 1000), ac mae'n un o brif achosion anabledd corfforol ymhlith pobl ifanc. Mae angen ar gyflyrau arthritis llidiol fel arfer driniaeth â chyffuriau dan ofal arbenigydd (rhewmatolegydd). Os na cheir diagnosis a thriniaeth gynnar, gall niwed parhaol ddigwydd. Yn ôl adroddiad diweddar gan Gymdeithas Prydain ar gyfer Rhewmatoleg, mae 28% o bobl yng Nghymru y tybir bod ganddynt arthritis llidiol yn cael eu gweld mewn gwasanaeth rhewmatoleg o fewn targed safon ansawdd NICE, sef tair wythnos. Sut dylid mynd i'r afael â'r mater hwn? Mae rhanddeiliaid am weld mynediad mwy prydlon at y triniaethau a'r gwasanaethau cywir ar gyfer pobl sydd ag arthritis a chyflyrau MSK cronig, ac maent yn annog mwy o bwyslais ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Cyflyrau MSK yn un o'r problemau mwyaf cyffredin mae ffisiotherapyddion yn ei thrin - mae'r Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig yn datgan y gall mynediad cyflym i ffisiotherapyddion cyhyrysgerbydol leihau faint o amser y mae pobl yn absennol o'r gwaith ac atal mater acíwt newydd rhag dod yn broblem gronig, tymor hir. Mae Gofal Arthritis Cymru yn pwysleisio'r angen i hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o'r cysylltiad rhwng ffordd o fyw ac iechyd cyhyrysgerbydol, ac ar gyfer gwell mynediad i hunan-reoli a gefnogir:
Mae llawer o bobl ag arthritis yn ymdopi â phoen ddyddiol arthritis gyda meddyginiaeth lladd poen ei ben yn unig, pan y gellir gwneud llawer mwy i gyfyngu ar effaith y cyflwr. Dylai pobl ag arthritis gael eu cefnogi i gymryd rhan lawn yn eu gofal iechyd a dylid cynnig cynllun gofal personol iddynt, ac eto yn rhy aml nid oed gan bobl gynlluniau o'r fath.
Mae adroddiad o 2012 gan y Sefydliad Gwaith yn amlygu'r effaith sylweddol y mae cyflyrau MSK yn ei chael ar allu unigolyn i weithio. Mae hyn yn ei dro yn arwain at oblygiadau ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol, a gwariant ar les. Er gwaethaf hyn, mae'r adroddiad yn nodi, nid yw baich cyflyrau MSK yn cael ei gydnabod yn dda, ac anaml y mae'r angen i gefnogi pobl â'r cyflyrau hyn yn y gweithle yn cael sylw. Yn wahanol i gyflyrau mawr eraill, nid oes gan arthritis a chyflyrau cronig MSK gynllun cyflenwi wedi'i ddiweddaru. Cyhoeddwyd cyfarwyddeb bresennol datblygu a chomisiynu'r Gwasanaeth ar gyfer arthritis a chyflyrau cronig MSK yn 2007. Cafodd hyn ei adolygu'n ddiweddar; dywedodd y Gweinidog Iechyd blaenorol ym mis Mawrth 2016 bod y rhan fwyaf o randdeiliaid yn cytuno bod ei chynnwys yn dal yn briodol, a bod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y gyfarwyddeb yn cyd-fynd ag egwyddorion gofal iechyd darbodus. Tynnodd y Gweinidog sylw at rai gwelliannau gwasanaeth penodol, fel sefydlu gwasanaethau asesu a thriniaeth cyhyrysgerbydol clinigol (CMATS) mewn rhai ardaloedd byrddau iechyd, a gwell mynediad i ffisiotherapi, gan gynnwys ymarferwyr ffisiotherapi uwch sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol. Serch hynny, mae'r Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig, Gofal Arthritis Cymru a'r Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol wedi bod yn galw am gynllun gweithredu wedi'i ddiweddaru, ac i arthritis a chyflyrau MSK i gael eu cydnabod fel cyflyrau â blaenoriaeth iechyd uwch yng Nghymru.