Y cynllun gweithredu bwyd a diod – dwy flynedd yn ddiweddarach

20 Mehefin 2016

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cawsiau Cymreig o'r safon uchaf yn cael eu harddangos ar lechen.

Mae’n ddwy flynedd, bellach, ers i Lywodraeth flaenorol Cymru lansio ei Chynllun Gweithredu Bwyd a Diod. Ddydd Mawrth 21 Mehefin, bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn.

Y cynllun gweithredu

Y prif ymrwymiad yn y cynllun yw sicrhau cynnydd o 30 y cant yn nhrosiant y diwydiant i £7 biliwn erbyn 2020.

Mae’r ymrwymiadau eraill yn cynnwys:

  • Sefydlu Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. Cylch gwaith y bwrdd yw bod yn gyfrifol am roi’r cynllun gweithredu ar waith ac ehangu a hyrwyddo enw da’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru;
  • Parhau i ddatblygu hunaniaeth fasnachol newydd ar gyfer cynnyrch o Gymru, gan gynnwys datblygu dulliau newydd o wobrwyo cwmnïau yn y diwydiant bwyd (daeth y drefn wobrwyo flaenorol, sef Gwir Flas Cymru, i ben yn 2013); a
  • Datblygu gweithlu cymwys a galluog drwy bartneriaethau ag ysgolion, sefydliadau addysg uwch, diwydiant ac eraill.

Mae’r cynllun yn cynnwys 48 o gamau gweithredu, ac mae 25 ohonynt yn canolbwyntio ar dwf busnes a datblygu’r farchnad. Mae camau gweithredu eraill yn canolbwyntio ar addysg, hyfforddiant, sgiliau, arloesi, diogelwch bwyd a diogelu’r cyflenwad bwyd.

Cynnydd a wnaed hyd yn hyn – rhai pwyntiau pwysig

Ar 30 Mehefin 2015, rhoddodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd, y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun gweithredu.

Twf y diwydiant

Nid oes ffigurau ar gael i fesur y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcan o gynyddu trosiant y diwydiant o 30 y cant i £7 biliwn erbyn 2020. Ar 30 Mehefin 2015, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

…rydyn ni ar drywydd y targed hwnnw. Yn ôl ystadegau diweddaraf y sector, mae ffermio a bwyd yn cynhyrchu £5.8 biliwn o drosiant, sy’n golygu ein bod eisoes wedi gweld 11.5 y cant o dwf ers 2012-13.

Fodd bynnag, roedd y ffigur a ddyfynnwyd gan y Dirprwy Weinidog ar gyfer y sector ffermio a bwyd ehangach, sy’n cynnwys amaethyddiaeth sylfaenol, yn hytrach nag ar gyfer y sector bwyd a diod yn benodol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd y byddai’n cyhoeddi adroddiad ar yr astudiaeth data sylfaenol a gynhaliwyd, a fyddai’n darparu ‘dadansoddiad data wedi’u dadgyfuno ar y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod a’r is-sectorau o fewn hynny.’ Gellir gweld yr adroddiad yma Gwerth bwyd a diod o Gymru.

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Roedd y cynnydd a wnaed ar sefydlu’r bwrdd yn arafach na’r hyn a nodir yn y cynllun gweithredu. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog fod holl aelodau’r bwrdd wedi’u henwi ond nad oedd y Cadeirydd eto wedi’i ethol. Cafodd y Cadeirydd – Andy Richardson, Pennaeth Materion Corfforaethol Volac – ei ethol gan aelodau’r bwrdd ym mis Ionawr 2016.

Bwriad y cynllun gweithredu oedd i’r bwrdd gael ei sefydlu’n llawn yn 2014. Dywedodd y Dirprwy Weinidog mai’r rheswm am yr oedi oedd ‘nad oedd gennym ni ehangder ar draws y diwydiant neu fwrdd a oedd mor amrywiol ag y byddem yn dymuno iddo fod hefyd.’

Cynhaliwyd proses ymgeisio ar gyfer aelodaeth y bwrdd yn nhymor yr hydref 2014. O ganlyniad, penodwyd nifer o bobl o’r diwydiant ar ‘fwrdd cysgodol’. Yn nhymor y gwanwyn 2015, cynhaliwyd proses ymgeisio bellach i gynyddu’r sylw a roddir i’r Bwrdd.

Hunaniaeth fasnachol

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Mae hunaniaeth ‘Bwyd a Diod Cymru’ yn cael ei hailddiffinio. Mae’n hunaniaeth gyffredin, a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus mewn arddangosfeydd yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r gwaith presennol yn cwmpasu ei alluoedd ac yn datblygu’r delweddau a’r naratif sy’n adrodd hanes bwyd a diod Cymru.

‘Bwyd a Diod Cymru / Food and Drink Wales’ yw’r hunaniaeth fasnachol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. Mae’n llwyfan sy’n arddangos brandiau a chynnyrch unigol, yn hytrach na bod yn frand ynddo’i hun. Mae’r dull hwn yn disodli’r hunaniaeth flaenorol, sef ‘Cymru y Gwir Flas / Wales the True Taste’, nad oedd Llywodraeth Cymru’n teimlo ei bod yn briodol mwyach.

Gwobrau Bwyd

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi olynydd i’r Gwobrau Gwir Flas. Fodd bynnag, gwnaeth ymdrechion i ddod â Gwobrau Great Taste y DU i Gymru am y tro cyntaf. Mae Gwobrau Great Taste yn cael eu trefnu gan y Guild of Fine Food. Fe’u disgrifir weithiau fel Oscars neu wobrau Booker y byd bwyd. Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Ni wnaeth Gwir Flas erioed ennill y tyniant y byddem ni wedi hoffi iddo ei ennill yng Nghymru o ran dealltwriaeth y cyhoedd ohono, dealltwriaeth manwerthwyr ohono ac o ran ymgysylltiad cynhyrchwyr bwyd ag ef. Fodd bynnag, mae gwobrau Great Taste yn frand adnabyddus, uchel ei barch.

Gellir gweld manylion ynghylch y rhai o Gymru sydd wedi ennill gwobrau Great Taste yn ddiweddar yma: Gwobrau Great Taste.

Y Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd

Ym mis Mai 2015, lansiodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd (2015-20). Nod y cynllun yw codi proffil Cymru fel cyrchfan twristiaeth bwyd o safon uchel.

Ffeithiau a ffigurau

Mae gwefan bwrpasol Llywodraeth Cymru ar Fwyd a Diod Cymru yn rhoi’r ffeithiau a’r ffigurau a ganlyn am ddiwydiant bwyd a diod Cymru:

Cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd ar ffermydd

  • 48,000 o swyddi;
  • 14,000 o fusnesau cofrestredig (98 y cant ohonynt yn ficrofusnesau. Diffinnir microfusnesau fel busnesau sydd â rhwng 0 a 9 gweithiwr.);
  • Trosiant o £5.7 biliwn;
  • Gwerth ychwanegol gros (GVA) o £1.3 biliwn; a
  • 75 y cant o fusnesau yn gwerthu nwyddau i’r cyhoedd.

Y gadwyn gyflenwi gyfan (o’r fferm i’r fforc, gan gynnwys manwerthu)

  • 170,000 o swyddi;
  • 23,300 o fusnesau;
  • Trosiant o £17.3 biliwn;
  • Gwerth ychwanegol gros o £4 biliwn;
  • 14 y cant ohonynt yn rawnfwydydd neu’n baratoadau grawnfwyd; a
  • 12 y cant ohonynt yn bysgod neu’n gramenogion.

Mae rhagor o ffigurau a ffeithluniau ar gael yn adroddiad data sylfaenol Llywodraeth Cymru, sef yr adroddiad y cyfeirir ato uchod: Gwerth bwyd a diod o Gymru.