Pam bod ‘codi dyheadau’ ar yr agenda addysg?

Cyhoeddwyd 28/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dyheadau yw gobeithion neu uchelgeisiau i gyflawni rhywbeth. Gallai'r “rhywbeth” hwn olygu mynd i'r brifysgol, neu sefydlu eich busnes eich hun, neu fod yn brentis peiriannydd. Serch hynny, mae cael dyheadau yn aml yn cael ei ystyried fel marciwr ar gyfer cymhelliant a llwyddiant hirdymor ac mae wedi bod yn ffocws gwaith ymchwil, melinau trafod a pholisi llywodraeth.

Mae ‘codi dyheadau’ mewn addysg yn aml yn cynnwys ymdrechion i hybu cyrhaeddiad academaidd a symudedd cymdeithasol, er enghraifft lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n agored i niwed a'u cyfoedion. Beth yw'r dystiolaeth y tu ôl i ‘godi dyheadau’ a pham ein bod yn defnyddio dyheadau fel cam i gyrhaeddiad academaidd?

Mae codi dyheadau mewn addysg wedi bod ar agenda Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad presennol a rhai blaenorol. Ym mis Mawrth 2014, penododd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd yn y Pedwerydd Cynulliad, Syr Alasdair MacDonald fel ‘Eiriolwr Codi Cyrhaeddiad’ i Gymru. Fel rhan o rôl Syr Alasdair, amlinellodd Huw Lewis y byddai'n ymgysylltu ag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia ar nifer o feysydd gwahanol gan gynnwys “hyrwyddo dyheadau uwch ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig.” Yn dilyn hyn yn haf 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ailysgrifennu’r dyfodol: codi uchelgais a chyrhaeddiad yn ysgolion Cymru, ei strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Amlygodd y strategaeth pam bod amddifadedd yn cyfrif, ac un o bedair prif thema y strategaeth ei hun yw “Disgwyliadau a Dyheadau”. Un o bolisïau blaenllaw Llywodraeth Cymru yw Grant Datblygu Disgyblion (PDG), sy'n targedu cyllid ychwanegol at ddisgyblion sy'n gymwys i gael cinio ysgol am ddim (eFSM) gyda'r nod o leihau'r bwlch cyrhaeddiad. Roedd adroddiad cynnydd 2015 (PDF 4.2MB) i strategaeth 2014 yn dweud mai un rôl y rhaglen Her Ysgolion Cymru, a oedd yn targedu ymyriadau mewn ysgolion penodol rhwng 2014 a 2017 oedd “…i gefnogi dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig i wneud yn dda yn yr ysgol a chodi eu dyheadau ar gyfer eu dyfodol.” Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn edrych ar PDG a Her Ysgolion Cymru fel rhan o'i ymchwiliad Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol.

Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd adroddiad ar y cyd, Deall profiadau addysgol a safbwyntiau, cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Roedd dyheadau yn thema gyffredin drwy'r gwaith ymchwil, gan gynnwys edrych ar ddyheadau a nodau y dyfodol oedd gan blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Roedd sylwadau ar waith ymchwil blaenorol a oedd yn cyd-fynd â'r ddogfen yn dweud bod plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal â dyheadau tebyg â'u cyfoedion nad ydynt yn derbyn gofal.

Yn y Cynulliad presennol, mae gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ei dyheadau ei hun yn ymwneud â ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ i wella'r system addysg yng Nghymru. Yn ei datganiad diweddar yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Chwefror 2018 yn ymwneud â mwy o gyllid ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog, dywedodd “Mae parhau i annog diwylliant sy'n cydnabod ac yn cefnogi dyheadau uchel ar gyfer yr holl ddysgwr, athrawon ac ysgolion yn hollbwysig i ddarparu system addysg.” Yna, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, “Mae Rhwydwaith Seren eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn i godi dyheadau, rhoi hwb i hyder ac annog myfyrwyr ôl-16 i fod yn uchelgeisiol.” Roedd codi dyheadau yn allweddol i neges Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae codi dyheadau hefyd wedi bod ar agenda Llywodraeth y DU. Er enghraifft, yn 2012, roedd gan Lywodraeth y DU uchelgais o fod yn genedl uchelgeisiol gyda braint wedi'i dosbarthu ar draws Prydain.

Derbynnir ar y cyfan bod angen anogaeth a chefnogaeth ar bobl ifanc o dan anfantais er mwyn codi eu dyheadau ar gyfer llwyddiant mewn addysg, ond pam y canolbwyntir gymaint ar hyn?

Ym mis Ionawr 2018, cyhoeddodd Education and Employers adroddiad o'r enw Drawing the Future a oedd yn adrodd ar yr astudiaeth Exploring the career aspirations of primary school children around the world. Gofynnwyd i ddisgyblion ysgol gynradd ar draws y byd i nodi eu huchelgais gyrfa, gan gynnwys 201 o ddisgyblion o Gymru. Roedd yr astudiaeth yn dangos peth tystiolaeth bod disgyblion mewn ysgolion sydd â llai na 20% o ddisgyblion yn gymwys am ginio ysgol am ddim (eFSM) yn gymharol fwy tebygol o fod â dyheadau am broffesiynau sy'n ennill cyflogau uwch o gymharu â disgyblion mewn ysgolion sydd â mwy na 20% o ddisgyblion eFSM. Nid oedd hynny i'w weld ar gyfer pob proffesiwn, serch hynny. Er enghraifft, roedd tystiolaeth yn dangos bod dyhead i fod yn feddyg yn fwy poblogaidd mewn ysgolion â 20% neu fwy o ddisgyblion eFSM ac roedd bod yn wyddonydd yn ddyhead tebyg ar draws yr ysgolion, waeth beth fo'r canrannau eFSM. O ganlyniad i'r dystiolaeth hon, mae'r adroddiad yn nodi“- the overall picture remains more striking for its similarities rather its differences”.

Cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree yr astudiaeth Can changing aspirations and attitudes impact on educational attainment? yn 2012. Roedd yr astudiaeth yn edrych ar ba ffactorau oedd yn gysylltiedig ag agweddau a chyrhaeddiad. Yr agweddau a ystyriwyd oedd: dyheadau, locws rheolaeth a gwerthfawrogi'r ysgol. Dangoswyd bod tri ffactor (gweithgareddau allgyrsiol, mentora ac ymyrraeth rhieni) yn arwyddocaol o ran agweddau a chyrhaeddiad. Roedd yr astudiaeth hefyd yn dangos cysylltiad rhwng gweithgareddau allgyrsiol, mentora ac ymyrraeth rhieni. Roedd yn awgrymu nad oedd modd egluro cyrhaeddiad gan agweddau fel dyheadau. Roedd hyn yn golygu, i berson ifanc oedd yn gallu gwneud gweithgareddau allgyrsiol neu fentora neu oedd â rhiant oedd â diddordeb yn eu haddysg (neu'r tri pheth), nid oedd cael dyheadau yn cyfrannu at wella cyrhaeddiad. Roedd y tri ffactor yn gysylltiedig yn annibynnol i gynyddu cyrhaeddiad a dyheadau. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod angen dyheadau er mwyn cael effaith ar gyrhaeddiad.

Lle mae astudiaethau yn awgrymu nad codi dyheadau plant dan anfantais yw'r unig ateb i wella cyrhaeddiad addysgol, mae'n awgrymu bod angen i ddyheadau fod yn ffactor ym mywydau plant sy'n agored i niwed.

Mae hyn yn arbennig o amlwg yn y DU fel cenedl.

Cyhoeddodd y Millennium Cohort Study, gan gynnwys 19,000 o blant a anwyd yn 2000-2001 o bob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, dystiolaeth yn 2010 ynghylch dyheadau mamau i'w plant. Roedd tystiolaeth yn dangos bod 97% o famau am eu plant fynd i'r brifysgol. Roedd hyn yn wir waeth beth oedd eu statws dosbarth a chyfoeth. Pan ofynnwyd i famau pa mor debygol yr oeddent yn credu y byddai eu plentyn yn mynd i'r brifysgol, roedd 53% o famau yn y teuluoedd tlotaf yn cytuno, lle roedd 81% o famau cyfoethocaf yn credu y byddai eu plentyn yn cyrraedd addysg uwch.

Roedd y cyhoeddiad The State of the Nation 2017: Social Mobility in Great Britain yn nodi bod dyheadau mewn nifer o gymunedau difreintiedig yn 'gul' ac roedd ysgolion oedd yn methu yn cael eu gwella drwy 'hybu' dyheadau. Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, penderfynodd pob un o'r pedwar aelod o Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol Llywodraeth y DU ymddiswyddo o'u rolau ar y Comisiwn. Roedd dyheadau yn amlwg drwy gydol yr adroddiad yn ogystal â'r diffyg symudedd canfyddedig ar draws Prydain.

Mae blog blaenorol y Gwasanaeth Ymchwil yn amlinellu sefyllfa bresennol symudedd cymdeithasol yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am leihau'r bwlch cyrhaeddiad wedi'i hamlinellu yn ein briff ymchwil diweddar, Cyhoeddiad newydd: Data cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Hayley Moulding gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, a olygodd y gallai’r blog hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Hayley Moulding, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru