Ynni Yr Amgylchedd

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ynghylch carthion Hinkley Point

Ym mis Gorffennaf 2014, rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru drwydded forol i NNB Genco, is-gwmni sy'n eiddo llwyr i EDF Energy. Mae'r drwydded ar gyfer gwaredu gwaddodion sy'n cael eu carthu fel rhan o'r gwaith o adeiladu system dŵr oeri i orsaf bŵer niwclear newydd Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf. Mae EDF yn adeiladu dau adweithydd niwclear newydd ar y safle, a fydd yn gallu cynhyrchu cyfanswm o 3,260MW o drydan.

5 Hydref 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ddydd Mercher, 10 Hydref, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod Cynnig heb Ddyddiad Trafod. Mae’r erthygl hon, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 21 Mai 2018, yn cael ei hailgyhoeddi cyn y drafodaeth.

Ym mis Gorffennaf 2014, rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru drwydded forol i NNB Genco, is-gwmni sy’n eiddo llwyr i EDF Energy. Mae’r drwydded ar gyfer gwaredu gwaddodion sy’n cael eu carthu fel rhan o’r gwaith o adeiladu system dŵr oeri i orsaf bŵer niwclear newydd Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf. Mae EDF yn adeiladu dau adweithydd niwclear newydd ar y safle, a fydd yn gallu cynhyrchu cyfanswm o 3,260MW o drydan.

Fel rhan o’r gwaith o adeiladu’r safle, mae EDF yn bwriadu carthu gwaddodion o wely’r môr yn yr aber cyn drilio chwe siafft fertigol ar gyfer y system dŵr oeri. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i’r cwmni garthu’r ardal yn agos at lle y caiff y siafftiau’n eu gosod. Amcangyfrifir y bydd hyd at 200,000 metr3 o ddeunydd yn cael ei osod ar gychod a’i gludo i safle Cardiff Grounds i gael ei ollwng. Mae Cardiff Grounds yn safle gwaredu sefydledig ar gyfer deunyddiau morol wedi’u carthu oddi ar arfordir de Cymru.

Mae’r cynigion yn rhai dadleuol iawn, ac mae’r Pwyllgor Deisebau wedi bod yn cael trafodaeth fanwl ynglŷn â deiseb yn ymwneud â’r drwydded ers mis Tachwedd 2017. Casglodd y ddeiseb 7,171 o lofnodion. Mae pryderon y deisebydd, sydd wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau, yn canolbwyntio’n bennaf ar gynnwys y deunydd i’w garthu a’i waredu. Cafodd y ddeiseb ei hysgogi gan bryder nad oedd y gwaddod wedi bod drwy brofion digonol ac y gallai fod yn ymbelydrol yn dilyn 50 mlynedd o weithrediadau ar safleoedd presennol Hinkley.

Roedd llawer o’r trafod a’r dadlau yn ystod trafodaeth y Pwyllgor ynghylch y ddeiseb yn ymwneud â samplu, profi a dadansoddi’r gwaddodion. Dywedodd EDF fod y broses yn fethodoleg asesu geidwadol iawn a gydnabyddir yn rhyngwladol (gan yr International Atomic Energy Agency), a rhoddodd fanylion am hyn:

Taking account of the natural and artificial radioactivity together, the dose received would be equivalent to:

  • Eating 20 bananas each year (bananas contain potassium-40, a naturally occurring radionuclide);
  • 10,000 times less than an airline pilot’s annual dose; or
  • 750 times less than the average dose received by a resident of Pembrokeshire (due to Radon).

Heriodd y deisebydd y profion am nifer o resymau, gan ddod i’r casgliad a ganlyn am y profion:

[…] failed to provide sufficient, coherent, conclusive and precise scientific data for the assessment of radiological impacts to the inhabitants and users/stakeholders of the south Wales inshore waters and coastal zone.

Yn y dystiolaeth i’r Pwyllgor Deisebau, ceisiodd EDF wrthbrofi pryderon y deisebydd, gan ddweud:

It has been referred to, inaccurately, as radioactive, nuclear and toxic waste, and that there may be risks to human health or the environment. The petition also claims that the testing is insufficient.

I want to be completely clear today: all these claims are wrong, alarmist, and go against all internationally accepted scientific evidence. It is not radioactive and poses no threat to human health or the environment. We know this because we have tested it independently three times using world-leading equipment to highly conservative standards. These standards are supported by Natural Resources Wales, Public Health Wales, the Environment Agency, the Centre for Environment, Fisheries and Aquaculture Science (Cefas), the UK Government and the United Nations.

Pwynt cysylltiedig arall a godwyd yn ystod trafodaeth y Pwyllgor ynghylch y ddeiseb yw’r canfyddiad nad oes digon o waith dadansoddi’n cael ei gynnal ar samplau dwfn. Yn ystod y drafodaeth gynnar ynghylch y ddeiseb, dywedodd y deisebydd fod y dystiolaeth yn awgrymu mai dim ond samplau gwaddodion ar yr wyneb (dyfnder o 0-5cm) a oedd wedi’u dadansoddi, a mynegodd bryder y gallai crynodiadau ymbelydredd fod yn sylweddol uwch ar ddyfnder islaw 5cm. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor y cafodd samplau eu casglu a’u profi yn 2009, 2013 a 2017, gyda samplau 2009 yn cael eu cymryd ar ddyfnder o 4.8m. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Pwyllgor ei fod yn fodlon nad oes angen gwneud rhagor o waith dadansoddi ar samplau o dan yr wyneb. Yn sgil pryderon y deisebydd, ysgrifennodd y Pwyllgor at Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ionawr 2018 i argymell y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried gofyn i ddeiliad y drwydded drefnu i ragor o samplau dwfn gael eu casglu a’u dadansoddi. Gwrthododd EDF y syniad o samplu gwirfoddol ychwanegol, a phwysleisiodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei farn nad yw profion pellach yn angenrheidiol. Dywedodd hefyd nad oedd yn gallu ailedrych ar hyn drwy’r drwydded na’i hamodau.

Roedd y ddeiseb hefyd yn galw am gynnal Asesiad Effaith Amgylcheddol llawn. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Pwyllgor y cynhaliwyd Asesiad Effaith Amgylcheddol cyffredinol ar ddatblygu safle Hinkley Point C, ond nid un penodol ynghylch y cynnig carthu. Eglurodd mai Uned Caniatadau Morol Llywodraeth Cymru a wnaeth y penderfyniad hwn, a oedd yn gyfrifol am weinyddu’r system trwyddedu morol ar yr adeg y daeth y cais i law.

Ysgrifennodd Cyfoeth Naturiol Cymru at y Pwyllgor ar 27 Mawrth, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei ystyriaeth o’r drwydded:

Rydym hefyd wedi cwblhau ein hasesiad o’r gyfres o samplau a gyflwynwyd i ni ym mis Tachwedd 2017. Cafodd yr adroddiad a’r casgliadau eu llunio gan Cefas a gwnaethom hefyd gynnal ymgynghoriad technegol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arbenigwyr Cyfoeth Naturiol Cymru gan ddefnyddio’r un canllawiau rhyngwladol â’r samplau blaenorol. Roedd y canlyniadau cemegol ac ymbelydrol o fewn y terfynau derbyniol ac rydym yn fodlon nad oes unrhyw beryglon i iechyd dynol na’r amgylchedd. […] Felly rydym wedi cymeradwyo amod 9.5 o’r drwydded forol yn ffurfiol [a oedd yn gofyn am ragor o brofion ar unrhyw ddeunydd i’w waredu ar ôl mis Mawrth 2016].  Fodd bynnag, mae amod pellach o ran monitro’r safle y mae angen i ddeiliad y drwydded ei gyflawni cyn y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cymeradwyaeth ysgrifenedig cyn y gall y gweithgaredd gwaredu ddechrau.

Mae hyn yn awgrymu y gallai’r gwaith carthu a gwaredu ddechrau yn haf 2018, fel yr amlinellwyd gan EDF ym mis Rhagfyr 2017.

Trafododd y Cynulliad adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar 23 Mai.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru