Addysg Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cyllid Cymunedau Diwylliant Economi Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG Plant a Phobl Ifanc Y Gymraeg Yr Amgylchedd

Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae'r ddeddfwriaeth yn arwain y byd ac yn rhoi'r uchelgais, y caniatâd a'r rhwymedigaeth gyfreithiol i wella'r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud - gan sicrhau bod ein penderfyniadau'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

08 Hydref 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn yr erthygl wadd hon, mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn nodi ei disgwyliadau ar gyfer sut y dylai cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru y flwyddyn hon adlewyrchu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cyllideb sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae’r ddeddfwriaeth yn arwain y byd ac yn rhoi’r uchelgais, y caniatâd a’r rhwymedigaeth gyfreithiol i wella’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud – gan sicrhau bod ein penderfyniadau’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Cyllideb Llywodraeth Cymru yw’r un penderfyniad mwyaf (neu gyfres o benderfyniadau) a wneir gan gorff cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn. Yn ogystal â phenderfynu ar sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu hariannu, mae proses y gyllideb a phenderfyniadau penodol yn anfon arwyddion pwysig ynghylch blaenoriaethau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus ac a yw’r blaenoriaethau hynny’n cyd-fynd â’r dyheadau a nodwyd yn y Ddeddf.

Y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 fydd y drydedd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i chyhoeddi ers i’r Ddeddf ddod i rym. Er fy mod yn glir bod ymgorffori gofynion y ddeddfwriaeth yn ymwneud â newid diwylliannol, nid cydymffurfiaeth ticio blychau, ac y bydd hyn, felly, yn cymryd amser, ar ôl dwy flynedd ers i’r Llywodraeth fod ar y daith hon, rwy’n disgwyl newid gwirioneddol yn y ffordd y mae proses y gyllideb a’r naratif yn adlewyrchu gofynion allweddol y ddeddfwriaeth.

Hefyd, cyllideb ddrafft y flwyddyn hon yw’r olaf i’w chyhoeddi cyn ymadawiad tebygol y DU â’r Undeb Ewropeaidd, a’r olaf o setliad presennol Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU. Mae’r pwysau hyn yn golygu ei bod yn bwysicach fyth y flwyddyn hon i benderfyniadau cyllidebol nodi ein bod yn defnyddio ein cymhellwyr deddfwriaethol unigryw i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer dyfodol ansicr i wella bywydau cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â rhai’r presennol.

Fel rhan o’r gwaith craffu ar y gyllideb y llynedd, rhoddais dystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid am sut roeddwn yn ystyried bod cyllideb ddrafft 2018-19 yn adlewyrchu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac roeddwn yn falch o weld bod tri o argymhellion y Pwyllgor yn cyfeirio’n benodol at agenda cenedlaethau’r dyfodol ac wedi adeiladu ar bwyntiau roeddwn wedi’u gwneud. Hefyd, rhoddais adborth penodol i Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, swyddogion Cyllidebu Strategol ac arweinwyr cyllideb ar draws adrannau’r Llywodraeth ar yr elfennau a oedd yn dda, y rhai a oedd yn wael ac, yn eithaf amlwg mewn rhai meysydd, ddim yn bodoli o ran cyllideb y llynedd yn dangos ei bod yn ymgorffori gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Fy nisgwyliadau ar gyfer cyllideb ddrafft 2019-20

Eleni, rwy’n awyddus i’r gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft gael ei osod yng nghyd-destun dyletswyddau’r Llywodraeth o dan y Ddeddf. Dyma fy ffocws, ond mae hefyd yn ystyriaeth allweddol ar gyfer gwaith craffu ac argymhellion pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dyma fy nisgwyliadau ar gyfer cyllideb ddrafft y flwyddyn hon:

Eglurder ynghylch sut y mae penderfyniadau allweddol yn cyfrannu at amcanion llesiant Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei 12 amcan llesiant yn ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol‘ ym mis Medi y llynedd ac mae’n ofynnol yn gyfreithiol er mwyn cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i fodloni’r amcanion hynny. Hoffwn weld penderfyniadau strategol, polisi a chyllideb yn cysylltu’n gliriach â’r amcanion llesiant, i esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau mewn ffyrdd sy’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion hynny.

Newid sylweddol o ran buddsoddi mewn dulliau ataliol

Bu nifer o argymhellion pwyllgor dros y blynyddoedd ynghylch yr angen i gytuno ar ddiffiniad o atal.  Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried sut y gall defnyddio adnoddau i atal problemau rhag digwydd neu waethygu gyfrannu at gyflawni amcanion llesiant ganddynt neu amcanion corff arall.  Mae hyn yn sail bwysig ond mae angen diffiniad manylach er mwyn asesu a yw ysbryd y gofyniad hwn yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd.  Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn glir gyda’r Llywodraeth bod edrych ar sut y mae’r gyllideb yn ystyried atal yn ffocws ar gyfer fy ngwaith craffu ar y gyllideb eleni. Rwyf wedi gweithio gyda hi ac wedi dod ag ystod o arbenigwyr at ei gilydd i gytuno ar ddiffiniad a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft amlinellol yr wythnos diwethaf.

Diffiniad Llywodraeth Cymru o atal yw:

Atal yw gweithio mewn partneriaeth i gyd-gynhyrchu’r canlyniadau gorau posibl, gan ddefnyddio’r cryfderau a’r asedau sydd gan bobl a lleoedd i’w cyfrannu. Rhennir hyn yn bedair lefel a gall pob lefel leihau’r galw am yr un nesaf:

  • Atal sylfaenol – meithrin cadernid – creu’r amodau fel nad yw problemau’n codi yn y dyfodol. Dull gweithredu cyffredinol.
  • Atal eilaidd – targedu camau gweithredu mewn meysydd lle mae risg uchel y bydd problem yn digwydd. Dull gweithredu wedi’i dargedu sy’n cadarnhau egwyddorion cyffredinoliaeth gynyddol.
  • Atal trydyddol – ymyrryd pan fydd problem er mwyn ei rhwystro rhag mynd yn waeth ac i’w hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol. Dull gweithredu sy’n ymyriad.
  • Gwario acíwt – gwario sy’n gweithredu i reoli effaith sefyllfa negyddol iawn, ond sy’n gwneud ychydig neu ddim i atal problemau rhag digwydd yn y dyfodol. Dull gweithredu adferol.

Defnyddio tystiolaeth a senarios tymor hir i lywio penderfyniadau

Un o’m pryderon mwyaf ynglŷn â sut y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw’r diffyg sgiliau, gallu a hyder sydd ganddynt i ddefnyddio tueddiadau a senarios yn y dyfodol i’w galluogi i ystyried effaith tymor hir eu penderfyniadau. Byddaf yn chwilio am dystiolaeth o sut y mae penderfyniadau cyllideb wedi ystyried y tymor hir ac, os na wneir llawer o gynnydd, mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn cymryd camau arno dros y flwyddyn i ddod.

Ymagwedd gydweithredol ac integredig tuag at benderfyniadau

Credaf fod strwythur dogfennau’r gyllideb yn ôl portffolio gweinidogol yn hen ac nad yw’n adlewyrchu sut y dylai’r Llywodraeth fod ac, mewn rhai achosion, sut y mae’n gweithio mewn ffyrdd mwy integredig a chydweithredol.  Mae angen i seilwaith y Llywodraeth allu ymateb i flaenoriaethau cynllunio a darparu adnoddau mewn ffordd integredig, felly rwy’n disgwyl i ddogfennau’r gyllideb fod yn fwy cyson â ‘Ffyniant i Bawb’ er mwyn galluogi cysylltiadau cliriach rhwng rhaglenni, penderfyniadau gwario a chanlyniadau.

Rhagor o wybodaeth am fy nisgwyliadau

Mae fy nhîm yn darparu sesiwn friffio i Aelodau’r Cynulliad, staff Cymorth a staff y Comisiwn ddydd Iau 11 Hydref am 1.30 i roi rhagor o wybodaeth am fy nisgwyliadau. Byddwn hefyd yn falch o glywed gan unrhyw un a hoffai gael rhagor o wybodaeth am y pwyntiau rwyf wedi’u gwneud yn yr erthygl hon – anfonwch e-bost i contactus@futuregenerations.wales.


Erthygl gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Llun o Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru