Wythnos Ymwybyddiaeth o Alcohol (19-25 Tachwedd 2018): Beth yw'r sefyllfa o ran camddefnyddio alcohol a sylweddau yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 19/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Menter yw Wythnos Ymwybyddiaeth o Alcohol, sy'n cael ei lansio gan Alcohol Concern, sydd â'r nod o annog sgwrs am alcohol, cyfeirio at gymorth, a galw am newid “ar bob lefel”.

Mae camddefnyddio alcohol yn cael ei drafod yng “Nghynllun Cyflawni Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed (Camddefnyddio Sylweddau) 2016-18” (PDF 753KB), yr oedd erthygl blog flaenorol yn canolbwyntio arno.

Nododd adroddiad blynyddol (PDF 3.93MB) 2017 Llywodraeth Cymru ar gynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau rai ystadegau allweddol ynghylch alcohol:

  • Yn 2017, dywedodd 18% o oedolion eu bod nhw’n yfed mwy na’r canllawiau wythnosol, sy'n ostyngiad o 20% yn 2016 (tud 15).
  • Roedd nifer yr unigolion a dderbyniwyd i’r ysbyty oherwydd cyflwr sy’n gysylltiedig ag alcohol wedi gostwng 8.8% dros y 5 mlynedd diwethaf, gydag amrywiadau o ran y ffigur hwn i wahanol grwpiau oedran (tud 15).
  • Roedd 52% o rai a aseswyd ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn defnyddio alcohol mewn ffordd broblemus fel y prif sylwedd, o gymharu â 47% ar gyfer defnyddio cyffuriau mewn ffordd broblemus (tud 9).
  • Roedd dynion yn cyfrif am 62.6% o'r asesiadau alcohol gan ddarparwyr camddefnyddio sylweddau arbenigol yn 2017/18, a 70.3% o asesiadau cyffuriau (tud 9).
  • O ran camddefnyddio alcohol, roedd 90% o achosion yn dechrau triniaeth o fewn 20 diwrnod gwaith i gael eu hatgyfeirio - sef 10% dros y targed o 80% (tud 10).
  • Roedd 77% o bobl a gwblhaodd eu triniaeth naill ai ddim yn defnyddio sylweddau mewn ffordd broblemus mwyach neu wedi cyrraedd eu targedau triniaeth yn 2017/18 o gymharu â 71.83% yn 2013/14, tra bod 84.9% o bobl wedi dweud bod ansawdd eu bywydau wedi gwella o gymharu â 92.3% dros yr un cyfnod (tud 10).

Dangosir nifer yr atgyfeiriadau, asesiadau a thriniaethau a ddechreuwyd ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn Ffigur 1. Mae rhai gwahaniaethau sefydlog wedi'u nodi (PDF, 1.71MB) yn y tueddiadau oedran ar gyfer atgyfeiriadau yn ymwneud ag alcohol a chyffuriau. Yr oedran canolrifol ar gyfer atgyfeiriadau alcohol yn 2016-17 oedd 42 oed, o gymharu â'r oed canolrifol o 32 oed i gyffuriau, tra bod cleientiaid o dan 30 oed yn cyfrif am 16.7% o atgyfeiriadau alcohol a 39.5% o atgyfeiriadau cyffuriau. Fel y mae Ffigur 2 yn dangos, roedd y nifer fwyaf a thueddiad tuag at oed uwch o dderbyniadau i ysbyty yn ymwneud yn benodol ag alcohol o gymharu â derbyniadau i ysbyty yn ymwneud â chyffuriau yn sefydlog rhwng 2012-13 a 2016-17, gyda'r brig yn grŵp oedran 50-54 ar gyfer derbyniadau yn ymwneud ag alcohol.

Isafbris am Alcohol

Yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar raglen ddeddfwriaethol 2017/18, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, “ein nod ers amser hir yw defnyddio mesurau iechyd cyhoeddus i dargedu a mynd i'r afael â'r defnydd niweidiol a pheryglus o alcohol. […] Mae deddfwriaeth yn elfen hanfodol o'n strategaeth ehangach i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol”.

Amcangyfrifodd adroddiad (PDF, 2.45MB) a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield ym Mhrifysgol Sheffield y byddai polisïau isafbris am alcohol yn effeithiol wrth leihau defnydd o alcohol, niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol (gan gynnwys marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, mynd i'r ysbyty, troseddau ac absenoldeb yn y gweithle) a chostau sy'n gysylltiedig â'r niwed hynny (tud 8). I'r gwrthwyneb, ni fyddai gwaharddiad ar werthu yn is na'r gost (a weithredir fel gwaharddiad ar werthu alcohol ar gyfer is na chost tollau yn ogystal â TAW sy'n daladwy ar y tollau hynny) yn cael fawr effaith ar y defnydd o alcohol na niwed cysylltiedig. Yr yfwyr â'r risg mwyaf a'r rhai mewn tlodi fyddai'n profi'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, gyda dim ond effaith fach ar yfwyr cymedrol. Mae'r adroddiad yn awgrymu y byddai rhai mewn tlodi hefyd yn annog enillion cymharol mwy o ran iechyd ac amcangyfrifir bod yr yfwyr risg uchel yn lleihau eu gwariant yn ymylol oherwydd eu bod yn yfed llai o dan nifer o bolisïau.

Ym mis Mehefin 2018, cymeradwyodd y Cynulliad Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) sydd â'r nod o “fynd i'r afael â phryderon iechyd hirdymor a phenodol ynghylch effeithiau goryfed alcohol”. Mae'r memorandwm esboniadol (PDF 2.93MB) yn nodi bod y Bil yn “darparu isafbris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru gan bersonau penodol, ac yn ei gwneud yn drosedd i werthu neu gyflenwi alcohol am lai na’r pris hwnnw”. Cafodd deddfwriaeth debyg ei phasio gan Senedd yr Alban ac roedd yn destun her gan Gymdeithas Chwisgi yr Alban ac eraill ar y sail bod y ddeddfwriaeth yn anghymwys â chyfraith yr UE - er cafodd yr apêl hon ei wrthod yn unfrydol (PDF, 136KB) gan y Goruchaf Lys.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bod y “ddeddfwriaeth hon yn mynd ati mewn ffordd synhwyrol a phenodol i ymdrin â phroblem real ac amlwg yng Nghymru heddiw. Caiff ei chefnogi gan ystod o gamau gweithredu ychwanegol a fydd yn cael eu cymryd i gefnogi'r rheini mewn angen, gan ffurfio rhan o Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau ehangach Llywodraeth Cymru”. Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ar 9 Awst 2018.

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 28 Medi 2018, ymhelaethodd Vaughan Gething, “Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 wedi'i hanelu at ddiogelu iechyd yfwyr peryglus a niweidiol sy'n dueddol o yfed symiau uwch o gynhyrchion rhad sy'n cynnwys lefelau alcohol uchel. Mae'n darparu fformiwla ar gyfer cyfrifo'r isafbris cymwys am alcohol drwy luosi canran cryfder yr alcohol, ei gyfaint a'r isafbris uned. Mae hyn yn ein galluogi i dargedu gwerthiant a chyflenwad alcohol rhad a chryf”.

Cafodd ymgynghoriad i'r lefel a ffefrir ar gyfer isafbris uned ei lansio ar 28 Medi a disgwylir iddo bara am 12 wythnos. Yn dilyn gweithredu'r isafbris uned o 50c yn yr Alban, galwodd arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Willie Rennie, am isafbris uned uwch o 60c gan fod chwyddiant wedi erydu gwerth yr isafbris gwreiddiol. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod isafbris uned o 50c “yn ymateb cymesur i fynd i'r afael â'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â goryfed alcohol.”


Erthygl gan Alistair Anderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Alistair Anderson gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a alluogodd i’r papur hwn gael ei gwblhau.