Diwylliant

Y Cynulliad i drafod cynigion am oriel celf gyfoes ac Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru astudiaethau dichonoldeb ar gyfer oriel celf gyfoes ac amgueddfa chwaraeon i Gymru. Daeth y ddwy astudiaeth i'r casgliad nad y ffordd orau ymlaen yw adeilad newydd sbon ar gyfer amgueddfa ar ei phen ei hun, fel y V&A newydd yn Dundee. Mae'r astudiaeth oriel celf gyfoes yn cynnig “model cenedlaethol deinamig ar wasgar sy’n adeiladu ar 6 i 8 lleoliad celfyddydol sy’n bodoli eisoes ac sydd wrthi’n datblygu ledled Cymru”. Ac mae'r astudiaeth amgueddfa chwaraeon yn defnyddio Amgueddfa Wrecsam fel cartref ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol “o faint priodol”, ynghyd â gwaith pellach i hyrwyddo treftadaeth chwaraeon Cymru. Heddiw, bydd y Cynulliad yn trafod y cynigion hyn yn y Cyfarfod Llawn. Dywedodd y Gweinidog na fyddai'n mynegi barn Llywodraeth Cymru yn ystod y ddadl hon, ond bydd yn gwneud hynny ar ôl y cyfarfod.

26 Tachwedd 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru astudiaethau dichonoldeb ar gyfer oriel celf gyfoes ac amgueddfa chwaraeon i Gymru. Daeth y ddwy astudiaeth i’r casgliad nad y ffordd orau ymlaen yw adeilad newydd sbon ar gyfer amgueddfa ar ei phen ei hun, fel y V&A newydd yn Dundee.

Mae’r astudiaeth oriel celf gyfoes yn cynnig “model cenedlaethol deinamig ar wasgar sy’n adeiladu ar 6 i 8 lleoliad celfyddydol sy’n bodoli eisoes ac sydd wrthi’n datblygu ledled Cymru”. Ac mae’r astudiaeth amgueddfa chwaraeon yn defnyddio Amgueddfa Wrecsam fel cartref ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol “o faint priodol”, ynghyd â gwaith pellach i hyrwyddo treftadaeth chwaraeon Cymru.

Yfory, bydd y Cynulliad yn trafod y cynigion hyn yn y Cyfarfod Llawn. Dywedodd y Gweinidog na fyddai’n mynegi barn Llywodraeth Cymru yn ystod y ddadl hon, ond bydd yn gwneud hynny ar ôl y cyfarfod.

Cefndir: cytundeb cyllideb Plaid Cymru/Llywodraeth Cymru yn 2016

Mae stori’r cynigion hyn yn dechrau gyda thrafodaethau cyllideb 2017-18 rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn 2016. Roedd y cynigion ynghylch y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18 yn cynnwys £3 miliwn ychwanegol ar gyfer diwylliant. Cafodd yr arian hwn ei ddyrannu i Gyngor y Celfyddydau, yr Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru, yn ogystal ag “astudiaethau dichonoldeb ar gyfer Oriel Gelf Genedlaethol ac amgueddfa bêl-droed yng Ngogledd Cymru”.

Ym mis Hydref 2017, roedd y cynigion ynghylch y gyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19 yn cynnwys £5 miliwn o gyllid cyfalaf a ddyrennir yn 2019-20 i “ddatblygu’r astudiaethau dichonoldeb ar gyfer galeri luniau gyfoes ac amgueddfa bêl-droed”.

Trafododd Dafydd Elis-Thomas AC, y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, gynlluniau ar gyfer yr oriel celf gyfoes a phêl-droed pan roddodd tystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynghylch cyllideb ddrafft 2019-20 ar 8 Tachwedd 2018.

Dywedodd nad oedd meddwl yno ar hyn o bryd, ond roedd llawer o waith gweithredu effeithiol, a bod Llywodraeth Cymru wedi cael y ddau adroddiad dichonolrwydd. Dywedodd nad oedd am wneud unrhyw benderfyniadau tan ar ôl i’r Cynulliad drafod canfyddiadau’r astudiaethau hyn.

Fodd bynnag, ymhelaethodd:

This is not the nineteenth century; this is not even the early twentieth century. So, it’s not about putting buildings in Aberystwyth, and Cardiff, and Wrexham, and Bangor, and wherever, of necessity. I think there is a very important principle, which, as someone who has been involved in visual art stuff for many years, is that collections should travel and should not be in stacks in public buildings not seen.

Dywedodd y byddai’n gallu dechrau buddsoddi yn yr opsiynau a ffefrir yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Ym mis Gorffennaf 2017, tra roedd ymarfer caffael yn cael ei wneud ar yr amgueddfa bêl-droed, dywedodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wrth y Cyfarfod Llawn:

A gaf fi sicrhau’r Aelod fod y fanyleb yn nodi mai’r lleoliad a ffafrir yw Wrecsam neu rywle arall yng ngogledd Cymru? Rwy’n credu bod y ffaith y byddai Gogledd Cymru yn elwa o gael amgueddfa chwaraeon neu amgueddfa bêl-droed—amgueddfa bêl-droed arbenigol—wedi’i chydnabod. Gallai ategu’r amgueddfa bêl-droed ym Manceinion o bosibl.

Oriel Celf Gyfoes Cymru: “model cenedlaethol ar wasgar”.

Mae’r astudiaeth Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol yn dechrau trwy drafod rhaglen 7 mlynedd o arddangosfeydd a gafodd ei lansio gan Gyngor y Celfyddydau ym 1969. Mae’n nodi, “ Bron i hanner can mlynedd ers y rhaglen arloesol honno, nid oes yn dal blatfform pwrpasol, poblogaidd, cenedlaethol ar gyfer celf gyfoes a modern yng Nghymru”.

Yn 2008, cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb ar Oriel Celf Genedlaethol i Gymru ac astudiaeth opsiynau ar gyfer Canolfan Genedlaethol ar gyfer Celf Gyfoes. Ni ddatblygwyd yr un o argymhellion yr astudiaethau – sef lleoli Oriel Gelf Genedlaethol mewn safle wedi’i ailwampio ym Mharc Cathays; ac i ddod â Chanolfan Genedlaethol ar gyfer Celf Gyfoes i leoliad blwch gwyn yng Nglan yr Afon Casnewydd neu Abertawe.

Roedd awduron yn teimlo bod buddsoddiadau cyfalaf yn y celfyddydau gweledol yn y degawd diwethaf “gryn dipyn yn llai o’i gymharu â gwledydd eraill”. Roedd pryder gan ymgyngoreion “y byddai unrhyw newydd-ddyfodiad cenedlaethol, sy’n gofyn am gymorth cyfalaf mawr a chymorth refeniw parhaus, yn gallu ansefydlogi ac, ar y gwaethaf, ddinistrio’r ecoleg bresennol sy’n cael ei chyllido’n gyhoeddus”.

O ganlyniad, y cynnig canolog yn yr adroddiad yw:

Yn hytrach na chymeradwyo un adeilad newydd i gadw ac arddangos celf gyfoes, rydym yn argymell model cenedlaethol deinamig ar wasgar sy’n adeiladu ar 6 i 8 lleoliad celfyddydol sy’n bodoli eisoes ac sydd wrthi’n datblygu ledled Cymru, ynghyd â chanolbwynt canolog parhaol. Caiff y model ar wasgar hwn ei ragflaenu gan gyfres o waith celf byw cyfoes fydd newydd ei chomisiynu; fe’u gosodir yn y tirlun ymhlith cymunedau a’u datblygu ar y cyd â chynhyrchwyr creadigol, artistiaid a chymunedau ledled y wlad.

Cyfanswm y costau cyfalaf rhagarweiniol ar gyfer cynigion yr astudiaeth yw £50-£180 miliwn. I roi cyd-destun, mae’r adroddiad yn nodi costau cyfalaf prosiectau diwylliannol diweddar eraill:

  • V&A Dundee (prosiect £80m wedi’i ddylunio gan Kengo Kuma),
  • Sefydliad Courtauld (prosiect £50m wedi’i gynllunio gan Witherford Watson Mann), a
  • The Factory ym Manceinion (£110m wedi’i gynllunio gan OMA/Rem Koolhaas).

Yn ychwanegol at hyn, rhagwelir mai dyma fydd y costau refeniw parhaus:

  • “Y costau gweithredu blynyddol dangosol i’r sefydliad canolog gyd-ddatblygu a chyflawni Camau Un a Dau, a sefydlu rhaglen Cymrodoriaeth a argymhellir isod, yw oddeutu £2.7 miliwn y flwyddyn ar y lleiaf.”
  • “Gallai gwariant gweithredu blynyddol pencadlys cenedlaethol ffisegol (Cam Tri) amrywio o unrhyw beth o £2.5m ac uwch (e.e. £15m).”

Mae’r awduron yn nodi bod y costau gweithredol hyn “yn sylweddol uwch na gwariant gweithredu blynyddol cyfartalog y rhan fwyaf o sefydliadau’r celfyddydau gweledol yng Nghymru”. Prif ffynhonnell arian cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru yw Cyngor y Celfyddydau, sy’n dosbarthu tua £30 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £15 miliwn gan y Loteri Genedlaethol bob blwyddyn. Mae dyraniad blynyddol cyfanswm Cyngor y Celfyddydau ar gyfer y celfyddydau gweledol a chymhwysol, yn ôl yr awduron, yn llai na’r cynigion yn eu hadroddiad.

Daw’r cynigion hyn mewn hinsawdd ariannol anodd i’r sefydliadau celfyddydol yng Nghymru, sy’n cael ei drafod mewn erthygl blog arall yma.

Amgueddfa Chwaraeon Cymru: adeiladu ar amgueddfa sy’n bodoli eisoes “yng nghartref ysbrydol pêl-droed”

Unwaith eto, daeth yr adroddiad hwn i’r casgliad nad adeilad mawr newydd oedd yr ateb. Teimlai’r awduron “na fyddai prosiect seilwaith newydd, ar raddfa fawr i Gymru yn gallu cynhyrchu digon o incwm i fod yn gynaliadwy heb lefel sylweddol o gymhorthdal”. Daeth hyn i’r casgliad:

…er mwyn cael Amgueddfa Chwaraeon Genedlaethol yng Nghymru, y byddai’n fwy effeithiol i wella amgueddfa bresennol sydd â chasgliad perthnasol, er mwyn adeiladu ar, addasu a gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd, cyfleusterau, cyllid, staff ac arbenigedd presennol.

Mewn gwlad lle nad oes stadiwm bêl-droed genedlaethol, teimlodd yr awduron y gallai Wrecsam honni mai nhw yw “cartref ysbrydol pêl-droed”. O ganlyniad, nodwyd mai Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam oedd y “man rhesymegol i ddarparu cartref i Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol i Gymru […] gan wasanaethu hefyd fel canolfan yn y dyfodol ar gyfer rhaglenni allgymorth, rhaglenni dysgu ac arddangosfeydd symudol ehangach”.

Mae’r costau a amcangyfrifir wrth ddatblygu’r Amgueddfa Bêl-droed Cenedlaethol yn llawer mwy cymedrol na’r rhai ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol. Amcangyfrifir mai’r costau cyfalaf cychwynnol yw £4.4 miliwn, gydag amcangyfrif costau refeniw ychwanegol o £144,500 y flwyddyn.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys nifer o gynigion eraill i hyrwyddo treftadaeth chwaraeon Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu Panel Treftadaeth Chwaraeon a fyddai’n datblygu  “Gweledigaeth Treftadaeth Chwaraeon Genedlaethol a Fframwaith Gweithredu”.

Beth sydd nesaf?

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wrth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu nad oedd yn credu y dylai unrhyw Weinidog wneud penderfyniad ar brosiectau mawr fel hyn, sydd o fudd i’r cyhoedd, oni bai y ceir dadl briodol. Ac er na fyddai’n gallu ymateb gyda barn y Llywodraeth yn ystod y ddadl honno, byddai’n gwneud hynny cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Mae’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at fuddsoddiad yn yr opsiynau a ffefrir yn gynnar yn y flwyddyn newydd.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru